Salm 68
68
I’r Pencerdd, Salm neu Gân Dafydd.
1Cyfoded Duw * gwasgarer / ei e/lynion :
a ffoed ei ga/seion ∙ o’i / flaen / ef.
2Chweli hwynt fel / chwalu / mwg :
fel y tawdd cwyr wrth y tân * difether y rhai an/nuwiol ∙ o / flaen / Duw.
3Ond llawenycher y rhai cyfiawn * a gorfoleddant ger/bron / Duw :
a byddant / hyfryd / o la/wenydd.
4Cenwch i Dduw can/molwch ∙ ei / enw :
dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd a’i enw yn JAH * a gorfo/leddwch / ger ei / fron ef.
5Tad yr amddifaid a Barnwr y / gweddwon ∙ yw / Duw :
yn / ei bre/swylfa / sanctaidd.
6Duw sydd yn gosod yr unig mewn teulu * yn dwyn allan y rhai a / rwymwyd ∙ mewn ge/fynnau :
ond y rhai / cyndyn ∙ a bre/swyliant / grastir.
7Pan aethost O Dduw o / flaen dy / bobl :
pan / gerddaist / trwy yr ∙ an/ialwch;
8Y ddaear a grynodd * a’r nefoedd a ddiferasant o / flaen / Duw :
Sinai yntau a grynodd o flaen / Duw sef / Duw / Israel.
9Dihidlaist law graslon O Dduw ar dy / eti/feddiaeth :
ti a’i gwr/teithiaist / wedi ∙ ei / blino.
10Dy gynulleidfa di sydd yn / trigo / ynddi :
yn dy ddaioni O Dduw yr / wyt ∙ yn dar/paru ∙ i’r / tlawd.
11Yr Arglwydd a / roddes ∙ y / gair :
mawr oedd / mintai ∙ y / rhai a’i ∙ pre/gethent.
12Brenhinoedd byddinog a / ffoesant ∙ ar / ffrwst :
a’r hon a drigodd yn / tŷ a / rannodd ∙ yr / ysbail.
13Er gorwedd ohonoch / ymysg y ∙ cro/chanau :
byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian * a’i ha/denydd ∙ ag / aur / melyn.
14Pan wasgarodd yr Hollalluog fren/hinoedd / ynddi : yr oedd hi yn / wen fel / eira ∙ yn / Salmon.
15Mynydd Duw sydd fel / mynydd / Basan :
yn fynydd / cribog ∙ fel / mynydd / Basan.
16Paham y llemwch, chwi fynyddoedd cribog? * dyma y mynydd a chwenychodd / Duw * ei bre/swylio :
ie preswylia yr / Arglwydd / ynddo / byth.
17Cerbydau Duw ydynt ugain mil sef / miloedd ∙ o a/ngylion :
yr Arglwydd sydd yn eu plith megis yn / Sinai / yn y / cysegr.
18Dyrchefaist i’r uchelder, caeth/gludaist ∙ gae/thiwed :
derbyniaist roddion i ddynion * ie i’r rhai cyndyn hefyd * fel y preswyliai yr / Arglwydd / Dduw ∙ yn eu / plith.
19Bendigedig fyddo yr Arglwydd * yr hwn a’n llwytha beunydd / â da/ioni :
sef / Duw ein / hiachaw/dwriaeth.
20Ein Duw ni sydd / Dduw ∙ iachaw/dwriaeth :
ac i’r Arglwydd Dduw y perthyn diang/fâu / rhag mar/wolaeth.
[21Duw yn ddiau a archolla / ben ∙ ei e/lynion :
a chopa walltog yr hwn a rodio / rhagddo / yn ei ∙ gam-/weddau.
22Dywedodd yr Arglwydd * Dygaf fy mhobl dra/chefn o / Basan :
dygaf hwynt dra/chefn o /ddyfnder ∙ y / môr;
† 23Fel y trocher dy droed yng / ngwaed ∙ dy e/lynion :
a thafod ∙ dy / gŵn ∙ yn yr / unrhyw.]
24Gwelsant dy fy/nediad ∙ O / Dduw :
mynediad fy Nuw fy / Mrenin / yn y / cysegr.
25Y cantorion a aethant o’r blaen, a’r cer/ddorion ∙ ar / ôl : yn eu mysg yr oedd y llan/cesau ∙ yn / canu ∙ tym/panau.
26Bendithiwch Dduw yn y / cynu ∙ lleid/faoedd :
sef yr Arglwydd * y rhai / ydych ∙ o / ffynnon / Israel.
27Yno y mae Benjamin fychan â’u llywydd * tywysogion Jwda â’u cynu/lleidfa :
tywysogion Sabulon a / thywy/sogion / Nafftali.
28Dy Dduw a orch/mynnodd ∙ dy / nerth :
Cadarnha, O Dduw yr hyn a / wnaethost / ynom / ni.
29Brenhinoedd a / ddygant ∙ i ti / anrheg :
er / mwyn dy / deml ∙ yn Je/rwsalem.
30Cerydda dyrfa y gwaywffyn * cynulleidfa y gwrdd deirw gyda lloi y bobl * fel y delont yn ostyngedig â / darnau / arian :
gwasgar y / bobl ∙ sydd / dda ∙ ganddynt / ryfel.
† 31Pendefigion a / ddeuant ∙ o’r / Aifft :
Ethiopia a estyn ei / dwylo ∙ yn / brysur ∙ at / Dduw.
32Teyrnasoedd y ddaear / cenwch ∙ i / Dduw :
can/mo/lwch yr / Arglwydd.
33Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd * y rhai / oedd er/ioed :
wele efe yn anfon ei lef a / honno ∙ yn / llef / nerthol.
34Rhoddwch i / Dduw ga/dernid :
ei oruchelder sydd ar Israel a’i / nerth yn / yr wyb/rennau.
35Ofnadwy wyt O / Dduw o’th / gysegr :
Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl * Bendi/gedig / fyddo / Duw.
Currently Selected:
Salm 68: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984