Salm 67
67
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân.
1Duw a drugarhao wrthym ac / a’n ben/dithio :
a thy/wynned ∙ ei / wyneb / arnom.
2Fel yr adwaener dy / ffordd ∙ ar y / ddaear :
a’th iachawdwriaeth y/mhlith yr / holl gen/hedloedd.
3Molianned y bobl / di O / Dduw :
molianned yr / holl / bobl ∙ dy/di.
4Llawenhaed y cenhedloedd a / byddant / hyfryd :
canys ti a ferni y bobl yn uniawn * ac a lywodraethi y cen-/hedloedd / ar y / ddaear.
5Molianned y bobl / di O / Dduw :
molianned yr / holl / bobl ∙ dy/di.
6Yna y ddaear a / rydd ei / ffrwyth :
a Duw sef ein / Duw ni / a’n ben/dithia.
† 7Duw / a’n ben/dithia :
a holl derfynau y / ddaear ∙ a’i / hofnant / ef.
Currently Selected:
Salm 67: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984