YouVersion Logo
Search Icon

Salm 6

6
I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.
1Arglwydd, na cherydda fi / yn dy · lid/iowgrwydd :
ac na / chosba · fi / yn dy / lid.
2Trugarha wrthyf, Arglwydd * canys / llesg / ydwyf fi :
iachâ fi, O Arglwydd * canys fy / esgyrn / a gys/tuddiwyd.
3A’m henaid a ddych/rynwyd · yn / ddirfawr :
tithau / Arglwydd / pa / hyd?
4Dychwel Arglwydd / gwared · fy / enaid :
achub fi er / mwyn / dy dru/garedd.
5Canys yn angau nid oes / goffa · am/danat :
yn y / bedd / pwy · a’th fol/ianna?
6Diffygiais gan fy ochain * bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy / ngwely · yn / foddfa :
yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngor/weddfa / â’m / dagrau.
7Treuliodd fy / llygad · gan / ddicter :
heneiddiodd o/herwydd · fy / holl e/lynion.
8Ciliwch oddi wrthyf holl weith/redwyr · an/wiredd :
canys yr Arglwydd a / glywodd / lef fy · wy/lofain.
9Clybu yr Arglwydd / fy nei/syfiad :
yr Arglwydd a / dderbyn / fy / ngweddi.
10Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy / holl e/lynion :
dychweler a chywi/lyddier · hwynt / yn ddi/symwth.

Currently Selected:

Salm 6: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in