YouVersion Logo
Search Icon

Salm 5

5
I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd.
1Gwrando fy / ngeiriau / Arglwydd :
a / deall / fy my/fyrdod.
2Erglyw ar lef fy ngwaedd fy / Mrenin · a’m / Duw :
canys / arnat / y gwe/ddïaf.
3Yn fore Arglwydd y / clywi · fy / llef :
yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat * ac / yr ed/rychaf · i / fyny.
4Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewy/llysio · an/wiredd :
a drwg ni / thrig / gyda / thi.
5Ynfydion ni safant / yn dy / olwg :
caseaist / holl weith/redwyr · an/wiredd.
6Difethi y rhai a ddy/wedant / gelwydd :
yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr / gwaedlyd / a’r twy/llodrus.
7A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder / dy dru/garedd :
ac a addolaf tua’th deml sanctaidd / yn dy / ofn / di.
8Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder * o achos / fy nge/lynion :
ac un/iona · dy / ffordd o’m / blaen.
9Canys nid oes uniondeb yn eu genau * eu ceudod sydd / anwi/reddau :
bedd agored yw eu ceg * gwen/ieithiant / â’u / tafod.
10Distrywia hwynt O Dduw * syrthiant oddi / wrth eu · cyng-/horion :
gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau * canys / gwrth-ryfe/lasant · i’th / erbyn.
11Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti * llafarganant yn dragywydd am i ti or/chuddio / drostynt :
a’r rhai a garant dy enw / gorfo/leddant / ynot.
12Canys ti, Arglwydd, a fen/dithi · y / cyfiawn :
â charedigrwydd megis â / tharian · y co/roni · di / ef.

Currently Selected:

Salm 5: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in