YouVersion Logo
Search Icon

Salm 31

31
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Ynot ti Arglwydd yr ymddiriedais * na’m gwaradwydder / yn dra/gywydd :
gwared / fi yn / dy gyf/iawnder.
2Gogwydda dy glust ataf * gwared / fi ar / frys :
bydd i mi yn graig gadarn * yn / dŷ am/ddiffyn · i’m / cadw.
3Canys fy nghraig a’m / castell / ydwyt :
gan hynny er mwyn dy enw / tywys fi · ac / arwain / fi.
4Tyn fi allan o’r rhwyd a gudd/iasant / i mi :
canys / ti / yw fy / nerth.
5I’th law y gorch/mynnaf · fy / ysbryd :
gwaredaist fi O / Arglwydd / Dduw y · gwir/ionedd.
6Caseais y rhai sydd yn dal ar / ofer / wagedd :
minnau a o/beithiaf / yn yr / Arglwydd.
7Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf / yn dy · dru/garedd :
canys gwelaist fy adfyd · adnabuost fy / enaid · mewn / cyfyng/derau :
8Ac ni warchaeaist fi yn / llaw y / gelyn :
ond go/sodaist · fy / nhraed · mewn e/hangder.
9Trugarha wrthyf Arglwydd * canys / cyfyng · yw / arnaf :
dadwinodd fy llygad gan ofid * / ie fy / enaid · a’m / bol.
10Canys fy mywyd a ballodd gan ofid * a’m bly/nyddoedd · gan / ochain :
fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd * a’m / hesgyrn / a byd/rasant.
11Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion * a hynny yn ddirfawr y/mysg fy · nghym/dogion :
ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant * y rhai a’m gwelent allan a / gilient / oddi / wrthyf.
12Anghofiwyd fi fel un marw / allan · o / feddwl :
yr / ydwyf · fel / llestr me/thedig.
13Canys clywais ogan llaweroedd * dychryn oedd o / bob / parth :
pan gydymgyngorasant yn fy erbyn * y bwria/dasant · fy / nie-/neidio.
14Ond mi a obeithiais ynot / ti / Arglwydd :
dy/wedais · Fy / Nuw / ydwyt.
15Yn dy law di y / mae · fy am/serau :
gwared fi o law fy ngelynion ac / oddi · wrth / fy er/lidwyr.
16Llewyrcha dy wyneb / ar dy / was :
achub fi er / mwyn / dy dru/garedd.
17Arglwydd, na waradwydder fi, canys / gelwais / arnat :
gwaradwydder yr annuwiolion / torrer / hwynt i’r / bedd.
18Gosteger y gwe/fusau · cel/wyddog:
y rhai a ddywedant yn galed * trwy falchder a diys/tyrwch · yn / erbyn · y / cyfiawn.
19Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r / sawl a’th / ofnant :
ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot * ger/bron / meibion / dynion!
20Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag / balchder / dynion :
cuddi hwynt mewn / pabell · rhag / cynnen · ta/fodau.
21Bendigedig / fyddo · yr / Arglwydd :
canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i / mi mewn / dinas / gadarn.
22Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst * Fe’m bwriwyd / allan · o’th / olwg :
er hynny ti a wrandewaist lais fy ngwe/ddïau · pan / lefais / arnat.
23Cerwch yr Arglwydd ei / holl / saint ef :
yr Arglwydd a geidw y ffyddloniaid * ac a dâl yn e/helaeth · i’r / neb a · wna / falchder.
24Ymwrolwch ac efe a gryf/ha eich / calon :
chwychwi oll y rhai ydych yn go/beithio / yn yr / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 31: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in