YouVersion Logo
Search Icon

Salm 30

30
Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd.
1Mawrygaf di O Arglwydd * canys dyr/chefaist / fi :
ac ni lawen/heaist · fy nge/lynion · o’m / plegid.
2Arglwydd fy Nuw / llefais / arnat :
a / thithau / a’m hia/cheaist.
3Arglwydd, dyrchefaist fy / enaid · o’r / bedd :
cedwaist fi yn fyw rhag / disgyn · o/honof · i’r / pwll.
4Cenwch i’r Arglwydd ei / saint / ef :
a chlodforwch wrth goffa/dwriaeth · ei sanc/teiddrwydd / ef.
5Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid * yn ei fodlonrwydd / y mae / bywyd :
dros brynhawn yr erys wylofain * ac erbyn y / bore · y / bydd gor/foledd.
6Ac mi a ddywedais / yn fy / llwyddiant :
Ni’m / syflir / yn dra/gywydd.
7O’th ddaioni Arglwydd, y gosodaist gryfder / yn fy / mynydd :
cuddiaist dy / wyneb · a / bûm hel/bulus.
8Arnat ti / Arglwydd · y / llefais :
ac â’r / Arglwydd / yr ym/biliais.
9Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddis/gynnwyf · i’r / ffos? :
a glodfora y llwch di? * a fy/nega · e/fe dy · wir/ionedd?
10Clyw Arglwydd, a thrugar/ha / wrthyf :
Arglwydd bydd / gynor/thwywr · i / mi.
11Troaist fy ngalar yn lla/wenydd · i / mi :
diosgaist fy sachwisg a gwre/gysaist · fi / â lla/wenydd :
12Fel y cano fy ngogoniant i ti / ac na / thawo :
O Arglwydd fy Nuw yn dra/gwyddol / y’th fol/iannaf.

Currently Selected:

Salm 30: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in