Salm 125
125
Caniad y graddau.
1Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd * fyddant fel / mynydd / Seion :
yr hwn ni / syflir · ond a / bery yn · dra/gywydd.
2Fel y mae Jerwsalem a’r my/nyddoedd · o’i / hamgylch :
felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl * o’r pryd hwn / hyd yn · dra/gywydd.
† 3Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar / randir · y rhai / cyfiawn :
rhag i’r rhai cyfiawn / estyn · eu / dwylo · at an/wiredd.
4O Arglwydd, gwna ddaioni i’r / rhai da/ionus :
ac i’r rhai / uniawn / yn eu · ca/lonnau.
5Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd * yr Arglwydd a’u gyr gyda gweith/redwyr · an/wiredd :
a / bydd tang/nefedd · ar / Israel.
Currently Selected:
Salm 125: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984