Salm 124
124
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
1Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu / gyda / ni :
y gall / Israel · ddy/wedyd · yn / awr;
2Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu / gyda / ni :
pan gyfododd / dynion / yn ein / herbyn;
3Yna y’n llyncasent / ni yn / fyw :
pan enynnodd eu / llid / hwynt i’n / herbyn;
4Yna y dyfroedd a li/fasai / drosom :
y ffrwd a / aethai / dros ein / henaid.
5Yna yr aethai / dros ein / henaid :
ddyf/roedd / chwy/ddedig.
6Bendigedig / fyddo · yr / Arglwydd :
yr hwn ni roddodd ni yn ys/glyfaeth · i’w / dannedd / hwynt.
7Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o / fagl · yr a/darwyr :
y fagl a dorrwyd a / ninnau · a / ddiang/hasom.
8Ein porth ni sydd yn / enw yr / Arglwydd :
yr hwn a / wnaeth / nefoedd · a / daear.
Currently Selected:
Salm 124: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984