Salm 91
91
1Y mae’r sawl sy’n byw yn / lloches · y Go/ruchaf :
ac yn aros yng / nghysgod · yr / Holla/lluog,
2Yn dweud wrth yr Arglwydd, “Fy / noddfa · a’m / caer :
fy Nuw, yr un yr / ymddir/iedaf / ynddo.”
3Oherwydd bydd ef yn dy waredu o / fagl yr / heliwr :
ac / oddi · wrth / bla di/faol;
4Bydd yn cysgodi drosot â’i esgyll · a chei nodded / dan ei · a/denydd :
bydd ei wir/ionedd · yn / darian · a / bwcled.
5Ni fyddi’n ofni rhag / dychryn · y / nos :
na rhag saeth yn / hedfan / yn y / dydd,
6Rhag pla sy’n tramwyo / yn y · ty/wyllwch :
na rhag dinistr sy’n di/fetha / ganol / dydd.
7Er i fil syrthio wrth dy ochr · a deng mil / ar dy · dde/heulaw :
eto / ni chy/ffyrddir · â / thi.
8Ni fyddi ond yn / edrych · â’th / lygaid :
ac yn / gweld – / tâl · y dryg/ionus.
9Ond i ti, bydd yr / Arglwydd · yn / noddfa :
gwnaethost y Go/ruchaf · yn / amddi/ffynfa;
10Ni ddigwydd / niwed · i / ti :
ac ni ddaw / pla yn / agos · i’th / babell.
11Oherwydd rhydd orchymyn / i’w an/gylion :
i’th gadw / yn dy / holl – / ffyrdd;
12Byddant yn dy godi / ar eu / dwylo :
rhag iti daro dy / droed yn / erbyn / carreg.
13Byddi’n troedio ar y / llew a’r / asb :
ac yn / sathru’r · llew / ifanc · a’r / sarff.
14“Am iddo lynu wrthyf / fe’i gwa/redaf :
fe’i diogelaf am ei / fod · yn ad/nabod · fy / enw.
15Pan fydd yn galw arnaf / fe’i ha/tebaf :
byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder · gwaredaf / ef a’i / anrhy/deddu.
16Digonaf ef â / hir – / ddyddiau :
a gwnaf iddo fwyn/hau fy / iachaw/dwriaeth.”
Currently Selected:
Salm 91: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009