Bible App logo
Search Icon

Salm 88

88
1O Arglwydd, Duw fy / iachaw/dwriaeth :
liw dydd galwaf arnat · gyda’r / nos – / deuaf / atat.
2Doed fy / ngweddi · hyd / atat :
tro dy / glust – / at fy / llef.
3Yr wyf yn / llawn hel/bulon :
ac y mae fy / mywyd · yn / ymyl / Sheol.
4Ystyriwyd fi gyda’r rhai sy’n / disgyn · i’r / pwll :
ac / euthum · fel / un heb / nerth,
5aFel un wedi ei adael / gyda’r / meirw :
fel y lladdedigion sy’n / gorffwys / mewn – / bedd,
5bRhai nad wyt yn eu / cofio / bellach :
am eu bod wedi eu / torri / ymaith · o’th / afael.
6Gosodaist fi yn y / pwll – / isod :
yn y mannau / tywyll / a’r dyfn/derau.
7Daeth dy ddigofaint yn / drwm – / arnaf :
a llethaist / fi â’th / holl – / donnau.
8Gwnaethost i’m cydnabod bell/hau · oddi / wrthyf :
a’m gwneud yn ffiaidd iddynt · yr wyf wedi fy nghaethiwo / ac ni / allaf / ddianc;
9Y mae fy llygaid yn / pylu · gan / gystudd :
galwaf arnat ti bob dydd, O Arglwydd · ac y mae fy / nwylo’n · ym/estyn / atat.
10A wnei di ryfe/ddodau · i’r / meirw? :
A yw’r cysgodion yn / codi / i’th fol/iannu?
11A fynegir dy gariad / yn y / bedd :
a’th wir/ionedd · yn / nhir A/badon? ‡
12A yw dy ryfeddodau’n wybyddus / yn y · ty/wyllwch :
a’th fuddugol/iaethau / yn nhir / angof?
13Ond yr wyf fi yn llefain arnat ti am / gymorth · O / Arglwydd :
ac yn y bore / daw fy / ngweddi / atat.
14O Arglwydd, pam yr wyt / yn fy / ngwrthod :
ac yn cuddio dy / wyneb / oddi / wrthyf?
15Anghenus wyf, ac ar drengi / o’m hieu/enctid :
dioddefais dy ddychrynfeydd / ac yr / wyf mewn / dryswch.
16Aeth dy ddi/gofaint / drosof :
ac y mae dy ymosod/iadau · yn / fy ni / fetha.
17Y maent yn f’amgylchu fel / llif trwy’r / dydd :
ac yn cau’n / gyfan / gwbl am/danaf.
18Gwnaethost i gâr a chyfaill bellhau / oddi / wrthyf :
a thy/wyllwch · yw / fy nghyd/nabod.

Currently Selected:

Salm 88: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 88