Salm 33
33
1Llawenhewch yn yr Arglwydd / chwi rai / cyfiawn :
i’r rhai / uniawn / gweddus · yw / moliant.
2Molwch yr / Arglwydd · â’r / delyn :
canwch salmau iddo / â’r o/fferyn / dectant;
3Canwch iddo / gân – / newydd :
tynnwch y / tannau’n / dda, rhowch / floedd.
4Oherwydd gwir yw / gair yr / Arglwydd :
ac y mae ffyddlondeb / yn ei / holl weith/redoedd.
5Y mae’n caru cyf/iawnder · a / barn :
y mae’r ddaear yn llawn / o ffydd/londeb · yr / Arglwydd.
6Trwy air yr Arglwydd y / gwnaed y / nefoedd :
a’i holl / lu trwy / anadl · ei / enau.
7Casglodd y môr fel / dŵr mewn / potel :
a rhoi’r dyfn/deroedd / mewn ys/tordai.
8Bydded i’r holl ddaear / ofni’r / Arglwydd :
ac i holl drigolion y / byd ar/swydo / rhagddo.
9Oherwydd llefarodd ef, ac / felly · y / bu :
gorchmynnodd / ef, a / dyna · a / safodd.
10Gwna’r Arglwydd gyngor y cen/hedloedd · yn / ddim :
a di/fetha · gyn/lluniau / pobloedd.
11Ond saif cyngor yr / Arglwydd · am / byth :
a’i gynlluniau / dros yr / holl · gened/laethau.
12Gwyn ei byd y genedl y mae’r Arglwydd / yn Dduw / iddi :
y bobl a ddewisodd yn / eiddo / iddo’i / hun.
13Y mae’r Arglwydd yn edrych i / lawr o’r / nefoedd :
ac yn / gweld – / pawb – / oll;
14O’r lle y triga / y mae’n / gwylio :
holl dri/golion / y – / ddaear.
15Ef sy’n llunio meddwl pob / un o/honynt :
y mae’n / deall / popeth · a / wnânt.
16Nid gan fyddin gref y gwa/redir / brenin :
ac nid â nerth / mawr · yr a/chubir · rhy/felwr.
17Ofer ymddiried mewn march am / ware/digaeth :
er ei holl gryfder / ni all / roi ym/wared.
18Y mae llygaid yr Arglwydd ar y / rhai a’i / hofna :
ar y rhai sy’n / disgwyl / wrth ei · ffydd/londeb,
19I’w gwaredu / rhag mar/wolaeth :
a’u cadw’n / fyw yng / nghanol / newyn.
20Yr ydym yn disgwyl / am yr / Arglwydd :
ef yw ein / cymorth / a’n – / tarian.
21Y mae ein calon yn llawe/nychu / ynddo :
am inni ym/ddiried · yn ei / enw / sanctaidd.
22O Arglwydd, dangos dy ffydd/londeb · tuag / atom :
fel yr ydym / wedi · go/beithio / ynot.
Currently Selected:
Salm 33: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009