Salm 14
14
Siant sengl
1Dywed yr ynfyd yn ei galon, / “Nid oes / Duw.” :
Gwnânt weithredoedd llygredig a ffiaidd ·
nid oes / un a / wna dda/ioni.
2Edrychodd yr Arglwydd o’r nefoedd / ar ddy/nolryw :
i weld a oes rhywun yn gwneud yn / ddoeth · ac yn / ceisio / Duw.
3Ond y mae pawb ar gyfeiliorn,
ac mor / llygredig · â’i / gilydd :
nid oes un a wna ddaioni / nac oes / dim – / un.
4Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygioni ·
sy’n llyncu fy mhobl fel / llyncu / bwyd :
ac sydd heb / alw / ar yr / Arglwydd?
5Yno y byddant mewn / dychryn / mawr :
am fod Duw yng / nghanol / y rhai / cyfiawn.
6Er i chwi watwar cyngor / yr ang/henus :
yr / Arglwydd / yw ei / noddfa.
7O na ddôi gwaredigaeth i Israel o Seion! ·
Pan adfer yr Arglwydd / lwyddiant · i’w / bobl :
fe lawenha Jacob, fe / orfo/ledda / Israel.
Currently Selected:
Salm 14: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009