Salm 135
135
1Molwch yr Arglwydd. · Molwch / enw’r / Arglwydd :
molwch / ef · chwi / weision · yr / Arglwydd,
2Sy’n sefyll / yn nhŷ’r / Arglwydd :
yng nghyn/teddoedd / ein – / Duw.
3Molwch yr Arglwydd · oherwydd / da yw / ef :
canwch i’w enw, o/herwydd · y / mae’n ddy/munol.
4Dewisodd yr Arglwydd Jacob / iddo’i / hunan :
ac Israel yn / drysor · ar/bennig / iddo.
5Oherwydd fe wn i fod yr / Arglwydd · yn / fawr :
a bod ein Harglwydd ni yn rhagori / ar yr / holl – / dduwiau.
6Fe wna’r Arglwydd beth bynnag / a ddy/muna :
yn y nefoedd ac ar y ddaear · yn y / moroedd · a’r / holl ddyfn/derau.
7Pâr i gymylau godi o der/fynau’r / ddaear :
fe wna fellt ar gyfer y glaw · a daw gwynt / allan / o’i y/stordai.
8Fe drawodd rai cyntafa/nedig · yr / Aifft :
yn / ddyn – / ac an/ifail;
9Anfonodd arwyddion a rhybuddion trwy / ganol · yr / Aifft :
yn erbyn / Pharo / a’i holl / ddeiliaid.
10Fe drawodd gen/hedloedd / mawrion :
a / lladd bren/hinoedd / cryfion:
11Sihon brenin yr Amoriaid, Og / brenin / Basan :
a / holl · dywy/sogion / Canaan;
12Rhoddodd eu tir yn / eti/feddiaeth :
yn eti/feddiaeth · i’w / bobl – / Israel.
13Y mae dy enw, O / Arglwydd · am / byth :
a’th enwogrwydd o gen/hedlaeth / i gen/hedlaeth.
14Oherwydd fe rydd yr Arglwydd gyf/iawnder · i’w / bobl :
a bydd yn trugar/hau – / wrth ei / weision.
15Arian ac aur yw / delwau’r · cen/hedloedd :
ac wedi eu / gwneud · â / dwylo / dynol.
16Y mae ganddynt enau nad / ydynt · yn / siarad :
a / llygaid · nad / ydynt · yn / gweld;
17Y mae ganddynt glustiau nad / ydynt · yn / clywed :
ac / nid oes / anadl · yn eu / ffroenau.
18Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn / debyg / iddynt :
ac felly hefyd bob / un sy’n · ym/ddiried / ynddynt.
19Dylwyth Israel, ben/dithiwch · yr / Arglwydd :
dylwyth / Aaron · ben/dithiwch · yr / Arglwydd.
20Dylwyth Lefi, ben/dithiwch · yr / Arglwydd :
pob un sy’n ofni’r / Arglwydd · ben/dithiwch · yr / Arglwydd.
‡ 21Bendigedig yn Seion / fyddo’r / Arglwydd :
sydd yn trigo yn Jerwsalem. · / Mo–/lwch yr / Arglwydd.
Currently Selected:
Salm 135: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009