Bible App logo
Search Icon

Salm 123

123
Siant sengl
1Yr wyf yn codi fy llygaid / atat / ti :
sy’n / eistedd / yn / nefoedd.
2aFel y mae llygaid gweision yn gwylio / llaw eu / meistr :
a llygaid caethferch yn / gwylio / llaw ei / meistres,
2bFelly y mae ein llygaid ninnau yn gwylio’r / Arglwydd · ein / Duw :
nes iddo / drugar/hau – / wrthym.
3Bydd drugarog / wrthym · O / Arglwydd :
bydd drugarog wrthym · oherwydd fe gawsom / ddigon / o sar/had.
4Yn rhy hir y cawsom ddigon ar wawd / y tra/haus :
ac / ar sar/had y / beilchion.

Currently Selected:

Salm 123: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in