Bible App logo
Search Icon

Salm 116

116
1Yr wyf yn / caru’r / Arglwydd :
am iddo / wrando · ar / lef fy / ngweddi,
2Am iddo droi ei / glust – / ataf :
y / dydd y / gwaeddais / arno.
3Yr oedd clymau angau wedi tynhau amdanaf · a gefynnau Sheol / wedi · fy / nal :
a minnau’n di/oddef / adfyd · ac / ing.
4Yna gelwais ar / enw’r / Arglwydd :
“Yr wyf yn erfyn / Arglwydd / gwared / fi.”
5Graslon yw’r / Arglwydd · a / chyfiawn :
ac y / mae ein / Duw · ni’n to/sturio.
6Ceidw’r Arglwydd / y rhai / syml :
pan ddaros/tyngwyd · fi / fe’m gwa/redodd.
7Gorffwysa unwaith / eto · fy / enaid :
oherwydd bu’r / Arglwydd · yn / hael – / wrthyt;
8Oherwydd gwaredodd fy / enaid · rhag / angau :
fy llygaid rhag / dagrau · fy / nhraed rhag / baglu.
9Rhodiaf ger/bron yr / Arglwydd :
yn / nhir y / rhai – / byw.
10Yr oeddwn yn credu y byddwn wedi / fy na/rostwng :
cefais / fy nghy/studdio’n / drwm;
11Yn fy / nghyni · dy/wedais :
“Y mae / pawb yn / dwy/llodrus.”
12Sut y gallaf / dalu · i’r / Arglwydd :
am ei holl hael/ioni / tuag / ataf?
13Dyrchafaf gwpan / iachaw/dwriaeth :
a / galw · ar / enw’r / Arglwydd.
14Talaf fy addu/nedau · i’r / Arglwydd :
ym mhrese/noldeb · ei / holl – / bobl.
15Gwerthfawr yng / ngolwg · yr / Arglwydd :
yw mar/wolaeth / ei ffydd/loniaid.
16O Arglwydd, dy was yn / wir wyf / fi :
gwas o hil gweision · yr wyt / wedi / datod · fy / rhwymau.
17Rhof i ti / offrwm / diolch :
a / galw · ar / enw’r / Arglwydd.
18Talaf fy addu/nedau · i’r / Arglwydd :
ym mhrese/noldeb · ei / holl – / bobl,
19Yng nghyn/teddau · tŷ’r / Arglwydd :
yn dy ganol di, O Jerwsalem. / Mo – / lwch yr / Arglwydd.

Currently Selected:

Salm 116: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in