YouVersion Logo
Search Icon

Titus 3

3
Dal at Weithredoedd Da
1Dwg ar gof iddynt eu bod i ymostwng i'r awdurdodau sy'n llywodraethu, i fod yn ufudd iddynt, a bod yn barod i wneud unrhyw weithred dda#3:1 Neu, i gyflawni unrhyw waith gonest.; 2i beidio â bwrw anfri ar neb, ond i fod yn heddychol ac yn ystyriol, gan ddangos addfwynder yn gyson tuag at bawb. 3Oherwydd fe fuom ninnau hefyd un amser yn ffôl, yn anufudd, ar gyfeiliorn, yn gaethweision i amryfal chwantau a phleserau, a'n bywyd yn llawn malais a chenfigen, yn atgas gan eraill ac yn casáu ein gilydd. 4Ond pan amlygwyd daioni Duw, ein Gwaredwr, a'i gariad tuag at bobl, 5fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Fe'n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân, 6a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth drwy Iesu Grist, ein Gwaredwr. 7Ei ddiben oedd ein cyfiawnhau drwy ei ras, ac mewn gobaith, ein gwneud yn etifeddion bywyd tragwyddol.
8Dyna air i'w gredu. Ac y mae'n ddymuniad gennyf i ti fynnu hyn: bod y rhai a ddaeth i gredu yn Nuw i ofalu eu bod yn ymroi i weithredoedd da#3:8 Neu, i waith gonest.. Dyma gyngor da a buddiol i bawb. 9Ond gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau a chwerylon ynghylch y Gyfraith, oherwydd di-fudd ac ofer ydynt. 10Am yr un a fyn greu rhaniadau, ar ôl iddo gael ei rybuddio, a'i ailrybuddio, paid â gwneud dim mwy ag ef; 11fe wyddost fod un felly wedi ei wyrdroi, ei fod yn pechu, a thrwy hynny yn ei gollfarnu ei hun.
Cyfarwyddiadau Personol a Chyfarchion
12Pan anfonaf Artemas neu Tychicus atat, gwna dy orau i ddod ataf i Nicopolis, oherwydd yr wyf wedi penderfynu bwrw'r gaeaf yno. 13Gwna dy orau hefyd dros y cyfreithiwr, Zenas, ac Apolos, i'w hebrwng ar eu taith, gan ofalu na fyddant yn fyr o ddim. 14Rhaid i'n pobl ni hefyd ddysgu ymroi i waith gonest#3:14 Neu, i weithredoedd da. i gyfarfod ag angenrheidiau bywyd; os na wnânt, byddant yn ddi-les.
15Y mae pawb sydd gyda mi yn dy gyfarch. Rho fy nghyfarchion i'r rhai sydd yn ein caru yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll!

Currently Selected:

Titus 3: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy