YouVersion Logo
Search Icon

Titus 2

2
Dysgu Athrawiaeth Iach
1Ond yr wyt ti i lefaru'r hyn sy'n gweddu i'r athrawiaeth iach. 2Dywed wrth yr hynafgwyr am fod yn sobr, yn weddus, yn ddisgybledig, yn iach mewn ffydd a chariad a dyfalbarhad. 3Ac wrth y gwragedd hynaf yr un modd: am iddynt fod yn ddefosiynol eu hymarweddiad, yn ddiwenwyn, a heb fod yn gaeth i ormodedd o win; 4dylent hyfforddi'r gwragedd ifainc yn y pethau gorau, a'u cymell i garu eu gwŷr a charu eu plant, 5i fod yn ddisgybledig a diwair, i ofalu am eu cartrefi, ac i fod yn garedig, ac yn ddarostyngedig i'w gwŷr, fel na chaiff gair Duw enw drwg. 6Yn yr un modd, cymell y dynion ifainc i arfer hunanddisgyblaeth. 7Ym mhob peth dangos dy hun yn esiampl o weithredoedd da, ac wrth hyfforddi amlyga gywirdeb a gwedduster 8a neges iachusol, a fydd uwchlaw beirniadaeth. Felly codir cywilydd ar dy wrthwynebwr, gan na fydd ganddo ddim drwg i'w ddweud amdanom. 9Cymell y caethweision i fod yn ddarostyngedig i'w meistri ym mhob peth, i wneud eu dymuniad, i beidio â'u hateb yn ôl 10na lladrata oddi arnynt, ond i'w dangos eu hunain yn gwbl ffyddlon a gonest, ac felly yn addurn ym mhob peth i athrawiaeth Duw, ein Gwaredwr.
11Oherwydd amlygwyd gras Duw i ddwyn gwaredigaeth i bawb, 12gan ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw'n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol yn y byd presennol, 13a disgwyl cyflawni'r gobaith gwynfydedig yn ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Gwaredwr, Iesu Grist. 14Rhoddodd ef ei hun drosom ni i brynu rhyddid inni oddi wrth bob anghyfraith, a'n glanhau ni i fod yn bobl wedi eu neilltuo iddo ef ei hun ac yn llawn sêl dros weithredoedd da. 15Dywed y pethau hyn, a chymell a cherydda â phob awdurdod. Peidied neb â'th anwybyddu.

Currently Selected:

Titus 2: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy