YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 1

1
Llinach Iesu Grist
Lc. 3:23–38
1Dyma restr achau Iesu Grist, Mab Dafydd, mab Abraham.
2Yr oedd Abraham yn dad i Isaac, Isaac yn dad i Jacob, a Jacob yn dad i Jwda a'i frodyr. 3Yr oedd Jwda yn dad i Peres a Sera, a Tamar yn fam iddynt; yr oedd Peres yn dad i Hesron, Hesron i Ram, 4Ram i Amminadab, Amminadab i Nahson, Nahson i Salmon; 5yr oedd Salmon yn dad i Boas, a Rahab yn fam iddo, Boas yn dad i Obed, a Ruth yn fam iddo, Obed yn dad i Jesse, 6a Jesse yn dad i'r Brenin Dafydd.
Yr oedd Dafydd yn dad i Solomon, a gwraig Ureia yn fam iddo, 7yr oedd Solomon yn dad i Rehoboam, Rehoboam yn dad i Abeia, ac Abeia'n dad i Asa. 8Yr oedd Asa'n dad i Jehosaffat, Jehosaffat i Joram, Joram i Usseia, 9Usseia i Jotham, Jotham i Ahas, Ahas i Heseceia, 10Heseceia i Manasse, Manasse i Amon, ac Amon i Joseia. 11Yr oedd Joseia yn dad i Jechoneia a'i frodyr yng nghyfnod y gaethglud i Fabilon.
12Ar ôl y gaethglud i Fabilon, yr oedd Jechoneia yn dad i Salathiel, Salathiel i Sorobabel, 13Sorobabel i Abiwd, Abiwd i Eliacim, Eliacim i Asor, 14Asor i Sadoc, Sadoc i Achim, Achim i Eliwd, 15Eliwd i Eleasar, Eleasar i Mathan, a Mathan i Jacob. 16Yr oedd Jacob yn dad i Joseff, gŵr Mair, a hi a roddodd enedigaeth i Iesu, a elwid y Meseia.
17Felly, pedair ar ddeg yw cyfanrif y cenedlaethau o Abraham hyd Ddafydd, a phedair ar ddeg o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon, a phedair ar ddeg hefyd o'r gaethglud i Fabilon hyd y Meseia.
Genedigaeth Iesu Grist
Lc. 2:1–7
18Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi'n feichiog o'r Ysbryd Glân. 19A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio'n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei gŵr, ei gollwng ymaith yn ddirgel. 20Ond wedi iddo gynllunio felly, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo mewn breuddwyd, a dweud, “Joseff fab Dafydd, paid ag ofni cymryd Mair yn wraig i ti, oherwydd y mae'r hyn a genhedlwyd ynddi yn deillio o'r Ysbryd Glân. 21Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau.” 22A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd:
23“Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab,
a gelwir ef Immanuel”,
hynny yw, o'i gyfieithu, “Y mae Duw gyda ni”. 24A phan ddeffrôdd Joseff o'i gwsg, gwnaeth fel yr oedd angel yr Arglwydd wedi gorchymyn, a chymryd Mair yn wraig iddo. 25Ond ni chafodd gyfathrach â hi hyd nes iddi esgor ar fab; a galwodd ef Iesu.

Currently Selected:

Mathew 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy