YouVersion Logo
Search Icon

Malachi 4

4
Dyfodiad Dydd yr ARGLWYDD
1 # 4:1–6 Hebraeg, 3:19–24. “Wele'r dydd yn dod, yn llosgi fel ffwrnais, pan fydd yr holl rai balch a'r holl wneuthurwyr drwg yn sofl; bydd y dydd hwn sy'n dod yn eu llosgi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “heb adael iddynt na gwreiddyn na changen. 2Ond i chwi sy'n ofni fy enw fe gyfyd haul cyfiawnder â meddyginiaeth yn ei esgyll, ac fe ewch allan a llamu fel lloi wedi eu gollwng. 3Fe sathrwch y rhai drwg, oherwydd byddant fel lludw dan wadnau eich traed, ar y dydd pan weithredaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
4“Cofiwch gyfraith fy ngwas Moses, y deddfau a'r ordeiniadau a orchmynnais iddo yn Horeb ar gyfer Israel gyfan.
5“Wele fi'n anfon atoch Elias y proffwyd cyn dod dydd mawr ac ofnadwy'r ARGLWYDD. 6Ac fe dry galonnau'r rhieni at y plant a chalonnau'r plant at y rhieni, rhag imi ddod a tharo'r ddaear â difodiant.”

Currently Selected:

Malachi 4: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy