YouVersion Logo
Search Icon

Hebreaid 3

3
Iesu'n Uwch na Moses
1Gan hynny, gyfeillion sanctaidd, chwychwi sy'n cyfranogi o alwad nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, sef Iesu, 2a fu'n ffyddlon i'r hwn a'i penododd, fel y bu Moses hefyd yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw. 3Oherwydd y mae Iesu wedi ei gyfrif yn deilwng o ogoniant mwy na Moses, yn gymaint â bod adeiladydd tŷ yn derbyn mwy o anrhydedd na'r tŷ. 4Y mae pob tŷ yn cael ei adeiladu gan rywun, ond Duw yw adeiladydd pob peth. 5Bu Moses yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw fel gwas, i ddwyn tystiolaeth i'r pethau yr oedd Duw yn mynd i'w llefaru; 6ond y mae Crist yn ffyddlon fel Mab sydd â rheolaeth ar dŷ Dduw. A ni yw ei dŷ ef, os daliwn ein gafael yn y gobaith yr ydym yn hyderu ac yn ymffrostio ynddo.
Gorffwysfa i Bobl Dduw
7Gan hynny, fel y mae'r Ysbryd Glân yn dweud:
“Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,
8peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel,
yn nydd y profi yn yr anialwch,
9lle y gosododd eich hynafiaid fi ar brawf, a'm profi,
ac y gwelsant fy ngweithredoedd am ddeugain mlynedd.
10Dyna pam y digiais wrth y genhedlaeth honno,
a dweud, ‘Y maent yn wastad yn cyfeiliorni yn eu calonnau,
ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.’
11Felly tyngais yn fy nig,
‘Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.’ ”
12Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw. 13Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n “heddiw”, rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod. 14Oherwydd yr ydym ni bellach yn gydgyfranogion â Christ,#3:14 Neu, yn gyfranogion o Grist. os glynwn yn dynn hyd y diwedd wrth ein hyder cyntaf. 15Dyma'r hyn y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud:
“Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,
peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel.”
16Pwy, felly, a glywodd, ac a wrthryfelodd wedyn? Onid pawb oedd wedi dod allan o'r Aifft dan arweiniad Moses? 17Ac wrth bwy y digiodd ef am ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn farw yn yr anialwch? 18Wrth bwy y tyngodd na chaent fyth ddod i mewn i'w orffwysfa, os nad wrth y rhai a fu'n anufudd? 19Ac yr ydym yn gweld mai o achos anghrediniaeth y methasant ddod i mewn.

Currently Selected:

Hebreaid 3: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy