YouVersion Logo
Search Icon

Hebreaid 2

2
Iachawdwriaeth mor Fawr
1Am hynny, rhaid i ni ddal yn fwy gofalus ar y pethau a glywyd, rhag inni fynd gyda'r llif. 2Oherwydd os oedd y gair a lefarwyd drwy angylion yn sicr, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod ei gyfiawn dâl, 3pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth mor fawr—iachawdwriaeth a gafodd ei chyhoeddi gyntaf drwy enau'r Arglwydd, a'i chadarnhau wedyn i ni gan y rhai oedd wedi ei glywed, 4a Duw yn cyd-dystio drwy arwyddion a rhyfeddodau, a gwyrthiau amrywiol, a thrwy gyfraniadau'r Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun?
Tywysog Iachawdwriaeth
5Oherwydd nid i angylion y darostyngodd ef y byd a ddaw, y byd yr ydym yn sôn amdano. 6Tystiolaethodd rhywun yn rhywle yn y geiriau hyn:
“Beth yw dyn, iti ei gofio,
a mab dyn, iti ofalu amdano?
7Gwnaethost ef am ryw ychydig yn is na'r angylion;
coronaist ef â gogoniant ac anrhydedd.
8Darostyngaist bob peth dan ei draed ef.”
Wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd ddim heb ei ddarostwng iddo. Ond yn awr nid ydym hyd yma yn gweld pob peth wedi ei ddarostwng iddo; 9eithr yr ydym yn gweld Iesu, yr un a wnaed am ryw ychydig yn is na'r angylion, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd oherwydd iddo ddioddef marwolaeth, er mwyn iddo, trwy ras Duw,#2:9 Yn ôl darlleniad arall, iddo, wedi ei wahanu oddi wrth Dduw. brofi marwolaeth dros bob dyn.
10Oherwydd yr oedd yn gweddu i Dduw, yr hwn y mae popeth yn bod er ei fwyn a phopeth yn bod drwyddo, wrth ddwyn pobl lawer i ogoniant, wneud tywysog eu hiachawdwriaeth yn berffaith trwy ddioddefiadau. 11Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai sy'n cael eu sancteiddio, o'r un cyff y maent oll. Dyna pam nad oes arno gywilydd eu galw hwy'n berthnasau iddo'i hun. 12Y mae'n dweud:
“Fe gyhoeddaf dy enw i'm perthnasau,
a chanu mawl iti yng nghanol y gynulleidfa”;
13ac eto:
“Ynddo ef y byddaf fi'n ymddiried”;
ac eto fyth:
“Wele fi a'r plant a roes Duw imi.”
14Felly, gan fod y plant yn cydgyfranogi o'r un cig a gwaed, y mae yntau, yr un modd, wedi cyfranogi o'r cig a gwaed hwnnw, er mwyn iddo, trwy farwolaeth, ddiddymu'r hwn sydd â grym dros farwolaeth, sef y diafol, 15a rhyddhau'r rheini oll oedd, trwy ofn marwolaeth, wedi eu dal mewn caethiwed ar hyd eu hoes. 16Yn sicr, gafael y mae yn nisgynyddion Abraham ac nid mewn angylion. 17Am hynny, yr oedd yn rhaid iddo, ym mhob peth, gael ei wneud yn debyg i'w berthnasau, er mwyn iddo fod yn archoffeiriad tosturiol a ffyddlon, gerbron Duw, i fod yn aberth cymod dros bechodau'r bobl. 18Oherwydd, am iddo ef ei hun ddioddef a chael ei demtio, y mae'n gallu cynorthwyo'r rhai sydd yn cael eu temtio.

Currently Selected:

Hebreaid 2: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy