YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 11

11
Tŵr Babel
1Un iaith ac un ymadrodd oedd i'r holl fyd. 2Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno. 3A dywedasant wrth ei gilydd, “Dewch, gwnawn briddfeini a'u crasu'n galed.” Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch. 4Yna dywedasant, “Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear.” 5Disgynnodd yr ARGLWYDD i weld y ddinas a'r tŵr yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu, 6a dywedodd, “Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud. 7Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad.” 8Felly gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas. 9Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd#11:9 Hebraeg, balal. yr ARGLWYDD iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear.
Disgynyddion Sem
1 Cron. 1:24–27
10Dyma genedlaethau Sem. Bu Sem fyw am gan mlynedd cyn geni iddo Arffaxad ddwy flynedd wedi'r dilyw. 11Wedi geni Arffaxad, bu Sem fyw am bum can mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.
12Bu Arffaxad fyw am dri deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Sela. 13Wedi geni Sela, bu Arffaxad fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
14Bu Sela fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Heber. 15Wedi geni Heber, bu Sela fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
16Bu Heber fyw am dri deg a phedair o flynyddoedd cyn geni iddo Peleg. 17Wedi geni Peleg, bu Heber fyw am bedwar cant tri deg o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
18Bu Peleg fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Reu. 19Wedi geni Reu, bu Peleg fyw am ddau gant a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
20Bu Reu fyw am dri deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Serug. 21Wedi geni Serug, bu Reu fyw am ddau gant a saith o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
22Bu Serug fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Nachor. 23Wedi geni Nachor, bu Serug fyw am ddau gan mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.
24Bu Nachor fyw am ddau ddeg a naw o flynyddoedd cyn geni iddo Tera. 25Wedi geni Tera, bu Nachor fyw am gant un deg a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
26Bu Tera fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Abram, Nachor a Haran.
Disgynyddion Tera
27Dyma genedlaethau Tera. Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran; a Haran oedd tad Lot. 28Bu Haran farw cyn ei dad Tera yng ngwlad ei enedigaeth, yn Ur y Caldeaid. 29Yna cymerodd Abram a Nachor wragedd iddynt eu hunain; enw gwraig Abram oedd Sarai, ac enw gwraig Nachor oedd Milca, merch Haran, tad Milca ac Isca. 30Yr oedd Sarai yn ddi-blant, heb eni plentyn.
31Cymerodd Tera ei fab Abram, a'i ŵyr Lot fab Haran, a Sarai ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig ei fab Abram; ac aethant allan gyda'i gilydd o Ur y Caldeaid i fynd i wlad Canaan, a daethant i Haran a thrigo yno. 32Dau gant a phump o flynyddoedd oedd oes Tera; a bu farw Tera yn Haran.

Currently Selected:

Genesis 11: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy