YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 10

10
Disgynyddion Meibion Noa
1 Cron. 1:5–23
1Dyma genedlaethau meibion Noa, sef Sem, Cham a Jaffeth. Ganwyd iddynt feibion wedi'r dilyw. 2Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras. 3Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, a Togarma. 4Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim; 5o'r rhain yr ymrannodd pobl yr ynysoedd. Dyna feibion Jaffeth#10:5 Tebygol. Hebraeg heb Dyna… Jaffeth. Cymh. adn. 20, 31. yn eu gwledydd, pob un yn ôl ei iaith a'i lwyth, ac yn eu cenhedloedd.
6Meibion Cham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan. 7Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan. 8Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear. 9Yr oedd yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD; dyna pam y dywedir, “Fel Nimrod, yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD.” 10Dechreuodd ei frenhiniaeth gyda Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Sinar. 11Aeth allan o'r wlad honno i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-ir, Cala, 12a Resen, dinas fawr rhwng Ninefe a Cala. 13Yr oedd Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim, 14Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y daeth y Philistiaid ohonynt.#10:14 Hebraeg, y daeth… ohonynt ar ôl Casluhim.
15Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth; 16hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid, 17Hefiaid, Arciaid, Siniaid, 18Arfadiaid, Semariaid, a Hamathiaid. Wedi hynny gwasgarwyd teuluoedd y Canaaneaid, 19ac estyn eu ffin o Sidon i gyfeiriad Gerar, hyd Gasa; ac i gyfeiriad Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, hyd Lesa. 20Dyna feibion Cham, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.
21I Sem hefyd, tad holl feibion Heber, brawd hynaf Jaffeth, ganwyd plant. 22Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffaxad, Lud, ac Aram. 23Meibion Aram: Us, Hul, Gether, a Mas. 24Arffaxad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber. 25I Heber ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef rhannwyd#10:25 Hebraeg, palag. Cymh. Peleg. y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd. 26Joctan oedd tad Almodad, Saleff, Hasar-mafeth, Jera, 27Hadoram, Usal, Dicla, 28Obal, Abimael, Seba, 29Offir, Hafila, a Jobab; yr oeddent oll yn feibion Joctan. 30Yr oedd eu tir yn ymestyn o Mesa i gyfeiriad Seffar, i fynydd-dir y dwyrain. 31Dyna feibion Sem, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.
32Dyma lwythau meibion Noa, yn ôl eu hachau, yn eu cenhedloedd; ac o'r rhain yr ymrannodd y cenhedloedd dros y ddaear wedi'r dilyw.

Currently Selected:

Genesis 10: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy