YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 48

48
Rhannu'r Wlad
1“Dyma enwau'r llwythau. Ar derfyn y gogledd, wrth ymyl ffordd Hethlon i Lebo-hamath a Hasar-enan, gyda Damascus ar derfyn y gogledd at ymyl Hamath, ac yn ymestyn o ddwyrain i orllewin, bydd Dan: un gyfran. 2Ar derfyn Dan, o ddwyrain i orllewin, bydd Aser: un gyfran. 3Ar derfyn Aser, o ddwyrain i orllewin, bydd Nafftali: un gyfran. 4Ar derfyn Nafftali, o ddwyrain i orllewin, bydd Manasse: un gyfran. 5Ar derfyn Manasse, o ddwyrain i orllewin, bydd Effraim: un gyfran. 6Ar derfyn Effraim, o ddwyrain i orllewin, bydd Reuben: un gyfran. 7Ar derfyn Reuben, o ddwyrain i orllewin, bydd Jwda: un gyfran. 8Ar derfyn Jwda, o ddwyrain i orllewin, bydd y gyfran a neilltuir yn arbennig; bydd yn bum mil ar hugain o gufyddau o led, a bydd yn ymestyn o ddwyrain i orllewin yn gyfartal â chyfran un o'r llwythau; a bydd y cysegr yn ei chanol. 9Bydd y gyfran a neilltuir yn arbennig i'r ARGLWYDD yn bum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led. 10Dyma fydd yn gyfran gysegredig i'r offeiriaid: cyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd ar ochr y gogledd, deng mil o led ar ochr y gorllewin, deng mil o led ar ochr y dwyrain, a phum mil ar hugain o hyd ar ochr y de; ac yn y canol bydd cysegr yr ARGLWYDD. 11Bydd y gyfran hon i'r offeiriaid cysegredig o deulu Sadoc a fu'n ffyddlon i'm gwasanaethu, heb fynd ar gyfeiliorn fel y gwnaeth y Lefiaid pan aeth yr Israeliaid ar grwydr. 12Bydd yn gyfran arbennig iddynt hwy o'r rhan gysegredig o'r tir; bydd yn gyfran gysegredig yn terfynu ar gyfran y Lefiaid. 13Dyma fydd i'r Lefiaid: cyfran o dir pum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led, yn rhedeg yn gyfochrog â therfyn yr offeiriaid; pum mil ar hugain o gufyddau fydd ei hyd cyfan, a'i led yn ddeng mil o gufyddau. 14Ni chânt werthu dim ohono, na'i gyfnewid; ni ellir ei drosglwyddo, oherwydd dyma'r gorau o'r tir, ac y mae'n gysegredig i'r ARGLWYDD.
15“Bydd y gweddill, sef pum mil o gufyddau o led a phum mil ar hugain o hyd, ar gyfer defnydd cyffredin y ddinas, ar gyfer tai a phorfeydd. Bydd y ddinas yn ei ganol, 16a'i mesuriadau fel a ganlyn: ar ochr y gogledd, pedair mil a hanner o gufyddau; ar ochr y de, pedair mil a hanner; ar ochr y dwyrain, pedair mil a hanner, ac ar ochr y gorllewin, pedair mil a hanner. 17Bydd y tir pori ar gyfer y ddinas yn ddau gan cufydd a hanner ar ochr y gogledd, dau gant a hanner ar ochr y de, dau gant a hanner ar ochr y dwyrain, a dau gant a hanner ar ochr y gorllewin. 18Bydd y gweddill yn rhedeg yn gyfochrog â therfyn y gyfran gysegredig, a bydd o'r un hyd â hi, sef deng mil o gufyddau ar ochr y dwyrain a deng mil ar ochr y gorllewin. Bydd ei gynnyrch yn fwyd i weithwyr y ddinas. 19O holl lwythau Israel y daw gweithwyr y ddinas a fydd yn ei drin. 20Bydd y gyfran gyfan yn sgwâr o bum mil ar hugain o gufyddau ar bob ochr; fe'i neilltuir yn gyfran gysegredig ynghyd ag eiddo'r ddinas.
21“Bydd y gweddill a adewir oddeutu'r gyfran gysegredig ac eiddo'r ddinas yn perthyn i'r tywysog. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain ar un ochr, ac i'r gorllewin ar yr ochr arall i'r gyfran gysegredig o bum mil ar hugain o gufyddau; bydd yn rhedeg yn gyfochrog â chyfrannau'r llwythau, ac yn perthyn i'r tywysog; bydd y gyfran gysegredig a chysegr y deml yn y canol. 22Felly bydd eiddo'r Lefiaid ac eiddo'r ddinas yng nghanol eiddo'r tywysog, a bydd eiddo'r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin.
23“Dyma weddill y llwythau: yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin bydd Benjamin: un gyfran. 24Ar derfyn Benjamin, o ddwyrain i orllewin, bydd Simeon: un gyfran. 25Ar derfyn Simeon, o ddwyrain i orllewin, bydd Issachar: un gyfran. 26Ar derfyn Issachar, o ddwyrain i orllewin, bydd Sabulon: un gyfran. 27Ar derfyn Sabulon, o ddwyrain i orllewin, bydd Gad: un gyfran. 28Bydd terfyn de Gad yn rhedeg o Tamar at ddyfroedd Meriba-cades, ac ar hyd yr afon at y Môr Mawr.
29“Dyma'r tir a roddi'n etifeddiaeth i lwythau Israel, a dyma'u cyfrannau, medd yr Arglwydd DDUW.
Pyrth y Ddinas
30“Dyma'r ffyrdd allan o'r ddinas: ar ochr y gogledd, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, 31fe enwir pyrth y ddinas ar ôl llwythau Israel. Y tri phorth ar ochr y gogledd fydd porth Reuben, porth Jwda a phorth Lefi. 32Ar ochr y dwyrain, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Joseff, porth Benjamin a phorth Dan. 33Ar ochr y de, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Simeon, porth Issachar a phorth Sabulon. 34Ar ochr y gorllewin, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Gad, porth Aser a phorth Nafftali. 35Bydd y pellter o amgylch y ddinas yn ddeunaw mil o gufyddau. Ac enw'r ddinas o'r dydd hwn fydd, ‘Y mae'r ARGLWYDD yno’.”

Currently Selected:

Eseciel 48: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy