YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 47

47
Yr Afon o'r Deml
1Aeth y dyn â mi'n ôl at ddrws y deml, a gwelais ddŵr yn dod allan o dan riniog y deml tua'r dwyrain, oherwydd wynebai'r deml tua'r dwyrain; yr oedd y dŵr yn dod i lawr o dan ochr dde'r deml, i'r de o'r allor. 2Yna aeth â mi allan trwy borth y gogledd, a'm harwain oddi amgylch o'r tu allan at borth y dwyrain, ac yr oedd y dŵr yn llifo o'r ochr dde.
3Wrth i'r dyn fynd allan tua'r dwyrain â llinyn mesur yn ei law, mesurodd fil o gufyddau, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y fferau. 4Yna mesurodd fil arall, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y gliniau; a mesurodd fil arall, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y wasg. 5Mesurodd fil arall eto, ond yr oedd yn afon na allwn ei chroesi, oherwydd yr oedd y dyfroedd wedi codi gymaint fel y gellid nofio ynddynt, ac yn afon na ellid ei chroesi. 6A dywedodd wrthyf, “Fab dyn, a welaist ti hyn?”
Yna aeth â mi'n ôl at lan yr afon. 7Pan gyrhaeddais yno, gwelais nifer mawr o goed ar ddwy lan yr afon. 8Dywedodd wrthyf, “Y mae'r dyfroedd hyn yn llifo i diriogaeth y dwyrain, ac yna i lawr i'r Araba ac i mewn i'r môr, y môr y mae ei ddyfroedd yn ddrwg, ac fe'u purir. 9Bydd pob math o ymlusgiaid yn byw lle bynnag y llifa'r afon, a bydd llawer iawn o bysgod, oherwydd bydd yr afon hon yn llifo yno ac yn puro'r dyfroedd; bydd popeth yn byw lle llifa'r afon. 10Bydd pysgotwyr yn sefyll ar y lan, ac o En-gedi hyd En-eglaim bydd lle i daenu rhwydau; bydd llawer math o bysgod, fel pysgod y Môr Mawr. 11Ni fydd y rhosydd a'r corsydd yn cael eu puro, ond fe'u gadewir ar gyfer halen. 12Ar y glannau oddeutu'r afon fe dyf coed ffrwythau o bob math, ac ni fydd eu dail yn gwywo na'u ffrwyth yn methu; ffrwythant bob mis, oherwydd bydd y dyfroedd o'r cysegr yn llifo atynt, a bydd eu ffrwyth yn fwyd a'u dail yn iechyd.”
Terfynau'r Tiroedd
13Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: “Dyma'r terfynau ar gyfer rhannu'r wlad yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel, gyda dwy gyfran i Joseff. 14Yr wyt i'w rhannu'n gyfartal rhyngddynt; tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid, ac fe ddaw'r wlad hon yn etifeddiaeth i chwi.
15“Dyma fydd terfyn y wlad: ar ochr y gogledd bydd yn rhedeg o'r Môr Mawr ar hyd ffordd Hethlon heibio i Lebo-hamath i Sedad, 16Berotha a Sibraim, sydd ar y terfyn rhwng Damascus a Hamath, a chyn belled â Haser-hatticon, sydd ar derfyn Hauran. 17Bydd y terfyn yn ymestyn o'r môr at Hasar-enan ar hyd terfyn gogleddol Damascus, gyda therfyn Hamath i'r gogledd. Dyma fydd terfyn y gogledd.
18“Ar ochr y dwyrain bydd yn rhedeg rhwng Hauran a Damascus, ar hyd yr Iorddonen rhwng Gilead a thir Israel, ac at fôr y dwyrain hyd at Tamar#47:18 Felly Fersiynau. Hebraeg, at fôr y dwyrain mesurwch.. Dyma fydd terfyn y dwyrain.
19“Ar ochr y de bydd yn rhedeg o Tamar at ddyfroedd Meriba-cades ac ar hyd yr afon at y Môr Mawr. Dyma fydd terfyn y de.
20“Ar ochr y gorllewin, y Môr Mawr fydd y terfyn nes dod gyferbyn â Lebo-hamath. Dyma fydd terfyn y gorllewin.
21“Rhannwch y wlad hon rhyngoch yn ôl llwythau Israel, 22a'i neilltuo'n etifeddiaeth i chwi ac i'r estroniaid sy'n byw yn eich mysg ac yn magu plant; byddant hwythau yn eich mysg fel rhai o frodorion Israel, ac fel chwithau byddant yn cael etifeddiaeth ymhlith llwythau Israel. 23Ym mha lwyth bynnag y bydd yr estron yn ymsefydlu, yno y byddwch yn rhoi etifeddiaeth iddo, medd yr Arglwydd DDUW.

Currently Selected:

Eseciel 47: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy