Skip to content

Iago 4

4
1O ba le y mae rhyfeloeodd, ac o ba le y mae ymladdau yn eich plith? onid o hyn, o’ch blysiau sydd yn rhyfela yn eich aelodau? 2Chwenychu yr ydych, ac nid oes gennych ddim; lladd ac eiddigeddu yr ydych, ac ni ellwch gyrraedd; ymladd a rhyfela yr ydych; nid oes gennych ddim am nad ydych yn ceisio; 3yr ydych yn gofyn, ond ni dderbyniwch, am mai ar gam y gofynnwch, fel y treulioch ar eich blysiau. 4Chwi odinebusion, oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth tuag at Dduw? Pwy bynnag gan hynny a fynno fod yn gyfaill i’r byd, y mae yn ei osod ei hun yn, elyn i Dduw. 5Ai tybio ynteu yr ydych mai yn ofer y dywed yr ysgrythur: “hyd at eiddigedd yr hiraetha ef am yr ysbryd y parodd ei gartrefu ynom”?#4:5 Neu: (a) Ai at genfigen y blysia’r ysbryd a gartrefa ynom ni? (b) Hyd at eiddigedd y mae’r ysbryd, y parodd ef ei gartrefu ynom, yn hiraethu amdanom. 6Eithr rhoddi gras#Diar. 3:34 (LXX). mwyfwy y mae. Am hynny y dywed: Saif Duw yn erbyn y beilchion, ond i’r gostyngedig y mae’n rhoddi gras#4:6 Neu: pa beth fydd yfory; canys pa beth yw eich einioes chwi?. 7Am hynny ymddarostyngwch i Dduw; sefwch yn erbyn diafol, a ffy yntau rhagoch. 8Neshewch at Dduw, a nesha yntau atoch chwithau. Glanhewch eich dwylo, bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl deublyg. 9Ymdrallodwch a galerwch ac wylwch: troer eich chwerthin yn alar, a’ch llawenydd yn bendristwch. 10Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac yntau a’ch dyrchaif chwithau. 11Na ddywedwch yn ddrwg am eich gilydd, frodyr; y neb a ddywedo’n ddrwg am frawd, neu a farno’i frawd, dywedyd yn ddrwg y ddeddf a ferni, nid wyt ti wneuthurwr y ddeddf, eithr barnwr. 12Un sydd ddeddfwr a barnwr, yr hwn a ddichon waredu a dinistrio; a thithau, pwy wyt ti i farnu dy gymydog?
13Dowch, ynteu, chwi sy’n dywedyd “Heddyw neu yfory, fe awn i’r ddinas a’r ddinas, a bwrw blwyddyn yno a marchnata ac elwa”, 14a chwithau heb wybod pa beth a fydd eich einioes yfory;#4:14 Neu: pa beth fydd yfory: canys pa beth yw eich einioes chwi? canys tarth ydych, dros ychydig yn ymddangos ac yna yn diflannu; 15yn lle dywedyd ohonoch “Os myn yr Arglwydd, byw fyddwn a gwnawn hyn neu hynny”. 16Eithr yn awr, dyma chwithau yn ymffrostio yn eich rhodres; pob cyfryw ymffrost, drwg ydyw. 17Am hynny, y neb wypo wneuthur da ac nas gwnêl, pechod yw iddo.