Iago 3
3
1Na fyddwch athrawon lawer, fy mrodyr, gan wybod mai trymach barn a dderbyniwn: 2canys mynych y llithrwn ninnau bawb. Od oes neb heb lithro mewn gair, gŵr cyflawn fydd hwnnw, yn abl i ffrwyno’r holl gorff hefyd. 3Pan ddodom#3:3 Neu: Wele, fe ddodwn. ffrwynau yn safnau’r meirch, fel yr ufuddhaont i ni, yr ydym yn troi eu holl gorff hefyd. 4Ac wele’r llongau hwythau, er eu maint, ac er eu hyrddio gan wyntoedd geirwon, troir hwy oddi amgylch â llyw bychan bach, lle mynno ysgogiad y llywydd. 5Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, eithr yn ymffrostio pethau mawrion; wele gymaint o goed a ennyn cyn lleied o dân! 6A’r tafod, tân yw; byd o anghyfiawnder yw’r tafod, yn hanfod ymhlith ein haelodau, ac y sy’n halogi’r holl gorff, ac yn tanio cylch anian, a Gehnna yn ei danio yntau. 7Canys dofir a dofwyd pob rhywogaeth o wylltfilod ac ednod ac ymlusgiaid a chreaduriaid môr gan y rhywogaeth ddynol, 8ond am y tafod, ei ddofi ni ddichon neb dyn; drwg di-wastrodedd yw, llawn gwenwyn marwol. 9Ag ef y bendigwn yr Arglwydd a’r Tad, ag ef hefyd y melltithiwn ddynion a wnaethpwyd ar lun Duw#Gen. 1:26.. 10O’r un genau y daw allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai bod y pethau hyn felly. 11A fwrw’r ffynnon allan o’r un llygad y melys a’r chwerw? 12A ddichon y ffigyswydden ddwyn olifaid, neu’r winwydden ffigys? ni rydd yr hallt chwaith ddwfr peraidd. 13Pwy sydd ddoeth a chyfarwydd yn eich plith? dangosed ei weithredoedd trwy ymarweddiad glân ym mwyneidd-dra doethineb. 14Eithr os cenfigen chwerw ac ymryson sydd gennych yn eich calon, nac ymffrostiwch ac na thraethwch gelwydd yn erbyn y gwirionedd. 15Nid yw’r ddoethineb hon yn disgyn oddi uchod, eithr daearol, anianol, cythreulig yw. 16Canys lle bo cenfigen ac ymryson, yno y bydd terfysg a phob tro salw. 17Eithr y ddoethineb oddi uchod, yn gyntaf pur yw, yna tangnefeddus, teg, hydrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, diragrith. 18A ffrwyth cyfiawnder, mewn tangnefedd yr heuir i’r rhai sy’n gwneuthur tangnefedd.
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945