2 Pedr 3
3
1Hwn yw’r ail epistol yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, anwyliaid, ac ynddynt yr wyf yn cyffroi trwy atgof eich meddwl didwyll, 2fel y cofioch y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a gorchymyn apostolion#3:2 Yn ôl darlleniad arall, ein gorchymyn ni, apostolion yr Arglwydd a’r Achubwr eich Arglwydd a’ch Achubwr, 3gan wybod hyn yn gyntaf peth, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr gyda gwatwar yn rhodio yn ôl eu blysiau eu hunain 4a dywedyd: “Pa le y mae’r addewid am ei ddyfodiad ef? Canys er pan hunodd y tadau, y mae popeth yn aros fel yr oedd er dechrau’r cread.” 5Canys o’u gwirfodd anghofiant hyn, sef mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er cynt a’r ddaear yn gyfansawdd o ddwfr a thrwy ddwfr — 6trwy ddyfroedd y gorlifwyd y byd a oedd y pryd hwnnw a’i ddinistrio. 7Trwy’r un gair y mae’r nefoedd y sydd yn awr a’r ddaear wedi eu hystorio a’u cadw i dân erbyn dydd barn a dinistr dynion annuwiol. 8Ond nac anghofiwch, anwyliaid, yr un peth hwn, sef bod un dydd gyda’r Arglwydd fel mil o flynyddoedd a mil o flynyddoedd fel un dydd. 9Nid araf yw’r Arglwydd ynglŷn â’i addewid, fel y cyfrif rhai arafwch, eithr hirymarhous yw tuag atoch chwi, heb ewyllysio dinistr neb, ond cyrchu o bawb at edifeirwch. 10Ond daw dydd yr Arglwydd megis lleidr, yn yr hwn yr â’r nefoedd heibio gyda thwrw, ac y datodir#3:10 Yn ôl darlleniad arall, y llwyr losgir yr elfennau gan wres, ac y datguddir#3:10 Yn ôl darlleniad arall, llosgir y ddaear a’r gwaith y sydd ynddi. 11A’r holl bethau hyn yn ymddatod felly, pa fath rai a ddylech chwi fod mewn sanctaidd rodiad a duwioldeb, 12yn disgwyl ac yn prysuro dyfodiad dydd Duw, oherwydd yr hwn y datodir y nefoedd gan dân, ac y toddir yr elfennau gan wres? 13Eithr nefoedd newydd a daear newydd yn ôl ei addewid ef yr ydym ni yn eu disgwyl, yn y rhai y trig cyfiawnder. 14Gan hynny, anwyliaid, a chwi yn disgwyl y pethau hyn, byddwch ddyfal i’ch cael ganddo ef mewn tangnefedd yn ddifrychau ac yn ddifai, 15a chyfrifwch yn iachawdwriaeth hirymaros ein Harglwydd ni, megis hefyd yn ôl y ddoethineb a roed iddo y sgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, ac ef yn llefaru am y pethau hyn, 16fel yn ei holl epistolau hefyd, yn y rhai y mae rhai pethau anodd eu deall, pethau y mae’r di-ddysg a’r anwadal yn eu gŵyrdroi i’w dinistr eu hunain, megis hefyd yr ysgrythurau eraill. 17Chwychwi, gan hynny, anwyliaid, yn rhagwybod, gwyliwch rhag eich ysgubo i ffwrdd gan gyfeiliornad yr anwir, a syrthio ymaith oddi wrth eich sefydlogrwydd eich hunain, 18ond cynyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hachubwr ni Iesu Grist. Iddo ef y bo’r gogoniant yn awr a hyd byth.#3:18 Yn llythrennol hyd ddydd tragwyddoldeb
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945