Skip to content

2 Pedr 2

2
1Ond bu proffwydi gau hefyd ymhlith y bobl, megis y bydd gau-athrawon yn eich plith chwithau, y rhai’n ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, gan wadu hyd yn oed y Meistr a’u prynodd hwynt, a chan ddwyn arnynt eu hunain ddinistr buan; 2ac fe ddilyn llawer eu gweithredoedd anllad#2:2 Yn ôl darlleniad arall, eu hymddygiadau dinistriol hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd. 3Ac yn eu trachwant gwnânt farsiandïaeth ohonoch chwi â geiriau ffuantus. Eu dedfryd hwy ers talm nid oeda, a’u dinistr nid yw’n hepian. 4Canys onid arbedodd Duw angylion a bechodd, eithr eu hyrddio i uffern a’u trosglwyddo i bydewau#2:4 Yn ôl darlleniad arall, i gadwyni tywyllwch i’w diogelu i aros barn, 5ac onid arbedodd yr hen fyd, eithr diogelodd Noa, cyhoeddwr cyfiawnder, a saith eraill, a dwyn dilyw ar fyd o annuwiolion, 6a chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, eu condemnio i ddinistr, gan eu gosod yn esiampl i rai oedd ar fedr ymroi i annuwioldeb, 7a gwaredu Lot gyfiawn, a drallodid gan rodiad anllad yr anwir — 8canys yn gweled ac yn clywed, y cyfiawn hwn, ac ef yn trigo yn eu mysg, oedd o ddydd i ddydd yn dirdynnu ei enaid cyfiawn oherwydd eu gweithredoedd di-ddeddf — 9gŵyr yr Arglwydd pa fodd i waredu’r duwiol allan o brofedigaeth, ac i gadw’r anghyfiawn dan gosb hyd ddydd barn, 10ac yn arbennig y rhai sy’n rhodio ar ôl y cnawd, ym mlys aflendid, ac yn diystyru arglwyddiaeth. Gwŷr haerllug, trahaus, nid arswydant pan gablont bwerau gogoneddus, 11pan nad yw angylion, er eu bod yn rhagori mewn nerth a gallu, yn dwyn o flaen yr Arglwydd farn sarhaus yn eu herbyn hwynt. 12Ond y rhain, megis creaduriaid direswm, wedi eu creu wrth natur i’w dal a’u dinistrio, trwy gablu pethau na wyddant ddim oddi wrthynt, a ddinistrir hefyd yn eu dinistr hwynt, 13gan dderbyn#2:13 Yn ôl darlleniad arall, gan dderbyn cyflog anghyfiawnder cam fel cyflog anghyfiawnder. A hwy’n cyfrif miri#2:13 Cyfeiriad at y cariad-wleddoedd liw dydd yn felyswedd, brychau a meflau ydynt, yn gloddesta yn eu hudoliaethau#2:13 Yn ôl darlleniad arall, cariad-wleddoedd eu hunain pan gydwleddant â chwi, 14a chanddynt lygaid yn llawn anlladrwydd ac anniwall yn eu pechod, yn llithio eneidiau anwadal, a chanddynt galon wedi ei harfer i drachwant, plant melltith. 15Gadawsant ffordd uniawn ac aethant ar gyfeiliorn a glynu wrth ffordd Balam, fab Beor,#2:15 Yn ôl darlleniad arall, Bosor a garodd gyflog anghyfiawnder, 16ond a gafodd gerydd am ei drosedd: llefarodd asen fud â llais dyn, ac ataliodd orffwylledd y proffwyd. 17Pydewau di-ddwfr yw’r rhain, a niwloedd a yrrir gan dymestl, y mae yng nghadw iddynt ddüwch y tywyllwch. 18Canys gan lefaru chwyddedig eiriau gwagedd llithiant trwy flysiau’r cnawd, trwy weithredoedd anllad, y rhai nad ydynt ond prin ddianc#2:18 Yn ôl darlleniad arall, y rhai a ddihangodd yn gwbl rhag oddi wrth y sawl a rodia ar gyfeiliorn, 19gan addo rhyddid iddynt a hwy eu hunain yn gaethion llygredigaeth; canys pa beth bynnag#2:19 Neu pwy bynnag y gorchfygwyd neb ganddo y mae ef yn gaeth i hwnnw. 20Canys os wedi iddynt ddianc rhag halogedigaethau’r byd drwy adnabyddiaeth o’r Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, y meglir hwynt drachefn gan y pethau hyn a’u gorchfygu, y mae eu diwedd yn waeth na’u dechreuad. 21Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder nag wedi ei hadnabod, droi’n ôl oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt. 22Daeth i ben ynddynt y gair hwnnw o’r wir ddihareb, ci wedi dychwelyd at ei chwydiad ei hun, a hwch wedi ymolchi ohoni, at ymdreiglfa’r dom.