YouVersion Logo
Search Icon

2 Samuel 4

4
1A phan glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylo a laesasant, a holl Israel a ofnasant. 2A dau ŵr oedd gan fab Saul yn dywysogion ar dorfoedd: enw un oedd Baana, ac enw yr ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin: 3A’r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.) 4Ac i Jonathan, mab Saul, yr oedd mab cloff o’i draed. Mab pum mlwydd oedd efe pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jesreel; a’i famaeth a’i cymerth ef ac a ffodd: a bu, wrth frysio ohoni i ffoi, iddo ef syrthio, fel y cloffodd efe. A’i enw ef oedd Meffiboseth. 5A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baana, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd. 6Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ganol y tŷ, fel rhai yn prynu gwenith; a hwy a’i trawsant ef dan y bumed asen: a Rechab a Baana ei frawd a ddianghasant. 7A phan ddaethant i’r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn ystafell ei wely: a hwy a’i trawsant ef, ac a dorasant ei ben ef; ac a gymerasant ei ben ef, ac a gerddasant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos. 8A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dafydd i Hebron; ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele ben Isboseth mab Saul, dy elyn di, yr hwn a geisiodd dy einioes di: a’r Arglwydd a roddes i’m harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei had.
9A Dafydd a atebodd Rechab a Baana ei frawd, meibion Rimon y Beerothiad, ac a ddywedodd wrthynt, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyngdra, 10Pan fynegodd un i mi, gan ddywedyd, Wele, bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun megis un yn dwyn llawen chwedl,) mi a ymeflais ynddo, ac a’i lleddais ef yn Siclag, yr hwn a dybiasai y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl: 11Pa faint mwy y gwnaf i ddynion annuwiol a laddasant ŵr cyfiawn yn ei dŷ, ar ei wely? Yn awr, gan hynny, oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi? ac oni thorraf chwi ymaith oddi ar y ddaear? 12A Dafydd a orchmynnodd i’w lanciau; a hwy a’u lladdasant hwy, ac a dorasant eu dwylo hwynt a’u traed, ac a’u crogasant hwy uwchben y llyn yn Hebron. Ond pen Isboseth a gymerasant hwy, ac a’i claddasant ym meddrod Abner, yn Hebron.

Currently Selected:

2 Samuel 4: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy