YouVersion Logo
Search Icon

2 Samuel 3

3
1A bu ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd: a Dafydd oedd yn myned gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach.
2A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron: a’i gyntaf-anedig ef oedd Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; 3A’i ail fab oedd Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad; a’r trydydd, Absalom, mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur; 4A’r pedwerydd, Adoneia, mab Haggith; a’r pumed, Seffatia, mab Abital: 5A’r chweched, Ithream, o Egla gwraig Dafydd. Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron.
6A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul. 7Ond i Saul y buasai ordderchwraig a’i henw Rispa, merch Aia: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad? 8Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth, ac a ddywedodd, Ai pen ci ydwyf fi, yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di, â’i frodyr, ac â’i gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd, pan osodaist i’m herbyn fai am y wraig hon heddiw? 9Fel hyn y gwnelo Duw i Abner, ac fel hyn y chwanego iddo, onid megis y tyngodd yr Arglwydd wrth Dafydd, felly y gwnaf iddo ef; 10Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul, a dyrchafu gorseddfainc Dafydd ar Israel, ac ar Jwda, o Dan hyd Beer-seba. 11Ac ni feiddiodd efe mwyach ateb gair i Abner, rhag ei ofn ef.
12Ac Abner a anfonodd genhadau at Dafydd drosto ei hun, gan ddywedyd, Eiddo pwy yw y wlad? a chan ddywedyd, Gwna gynghrair â mi; ac wele, fy llaw i fydd gyda thi, i droi atat ti holl Israel.
13A dywedodd yntau, Da; myfi a wnaf gyfamod â thi: eto un peth yr ydwyf fi yn ei geisio gennyt, gan ddywedyd, Ni weli fy wyneb, oni ddygi di yn gyntaf Michal merch Saul, pan ddelych i edrych yn fy wyneb. 14A Dafydd a anfonodd genhadau at Isboseth mab Saul, gan ddywedyd, Dyro i mi fy ngwraig Michal, yr hon a ddyweddïais i mi am gant o flaengrwyn y Philistiaid. 15Ac Isboseth a anfonodd, ac a’i dug hi oddi wrth ei gŵr, sef oddi wrth Phaltiel mab Lais. 16A’i gŵr a aeth gyda hi, gan fyned ac wylo ar ei hôl hi, hyd Bahurim. Yna y dywedodd Abner wrtho ef, Dos, dychwel. Ac efe a ddychwelodd.
17Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel, gan ddywedyd, Cyn hyn yr oeddech chwi yn ceisio Dafydd yn frenin arnoch. 18Ac yn awr gwnewch hynny: canys yr Arglwydd a lefarodd am Dafydd, gan ddywedyd, Trwy law Dafydd fy ngwas y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid, ac o law eu holl elynion. 19Dywedodd Abner hefyd wrth Benjamin: ac Abner a aeth i ymddiddan â Dafydd yn Hebron, am yr hyn oll oedd dda yng ngolwg Israel, ac yng ngolwg holl dŷ Benjamin. 20Felly Abner a ddaeth at Dafydd i Hebron, ac ugeinwr gydag ef. A Dafydd a wnaeth wledd i Abner, ac i’r gwŷr oedd gydag ef. 21A dywedodd Abner wrth Dafydd, Mi a gyfodaf ac a af, ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenin, fel y gwnelont gyfamod â thi, ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon. A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith; ac efe a aeth mewn heddwch.
22Ac wele weision Dafydd a Joab yn dyfod oddi wrth y dorf, ac anrhaith fawr a ddygasent hwy ganddynt: ond nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron; canys efe a’i gollyngasai ef ymaith, ac yntau a aethai mewn heddwch. 23Pan ddaeth Joab a’r holl lu oedd gydag ef, mynegwyd i Joab, gan ddywedyd, Abner mab Ner a ddaeth at y brenin; ac efe a’i gollyngodd ef ymaith, ac efe a aeth mewn heddwch. 24A Joab a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Beth a wnaethost ti? wele, daeth Abner atat ti; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith? 25Ti a adwaenit Abner mab Ner, mai i’th dwyllo di y daeth efe, ac i wybod dy fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur. 26A Joab a aeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner; a hwy a’i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira, heb wybod i Dafydd. 27A phan ddychwelodd Abner i Hebron, Joab a’i trodd ef o’r neilltu yn y porth, i ymddiddan ag ef mewn heddwch; ac a’i trawodd ef yno dan y bumed ais, fel y bu efe farw, oherwydd gwaed Asahel ei frawd ef.
28Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, Dieuog ydwyf fi a’m brenhiniaeth gerbron yr Arglwydd byth, oddi wrth waed Abner mab Ner: 29Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dŷ ei dad ef: fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahanglwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl, neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisiau bara. 30Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, oherwydd lladd ohono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon.
31A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachliain, a galerwch o flaen Abner. A’r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor. 32A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A’r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a’r holl bobl a wylasant. 33A’r brenin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner? 34Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi mewn egwydydd: syrthiaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A’r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef. 35A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo’r haul. 36A’r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl. 37A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner. 38A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel? 39A minnau ydwyf eiddil heddiw, er fy eneinio yn frenin; a’r gwŷr hyn, meibion Serfia, sydd ry galed i mi. Yr Arglwydd a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni.

Currently Selected:

2 Samuel 3: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy