YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 1

1
Molawd i Ddoethineb
1Oddi wrth yr Arglwydd y daw pob doethineb,
a chydag ef y mae am byth.
2Tywod y môr, a dafnau'r glaw,
a dyddiau tragwyddoldeb, pwy all eu rhifo?
3Uchder y nef, a lled y ddaear,
a'r dyfnder diwaelod, a doethineb, pwy all eu holrhain? 4Y mae doethineb wedi ei chreu o flaen pob peth,
a phwyll dealltwriaeth yn bod erioed.#1:4 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir: 5 Ffynnon doethineb yw gair Duw yn y goruchaf, a'r gorchmynion tragwyddol yw ei ffyrdd hi.
6I bwy y datguddiwyd gwreiddyn doethineb?
Pwy sy'n deall ei dyfeisiau hi?#1:6 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir: 7 I bwy yr amlygwyd gwybodaeth am ddoethineb? Pwy sy'n deall ei phrofiad helaeth hi?
8Y mae Un sy'n ddoeth, ac i'w ofni'n ddirfawr,
Un sy'n eistedd ar ei orsedd—
9ef yw'r Arglwydd, ac ef a greodd ddoethineb;
ef a'i canfu hi, a'i dosrannu,
a'i harllwys ar ei holl weithredoedd.
10I bob un y mae cyfran ohoni, yn ôl ei roddiad ef,
ond rhoddodd yn hael ohoni i'r rhai sy'n ei garu.
11Y mae ofn yr Arglwydd yn achos anrhydedd ac ymffrost,
llawenydd a thorch gorfoledd.
12Bydd ofn yr Arglwydd yn llonni'r galon,
yn rhoi llawenydd a dedwyddwch a hir ddyddiau.
13Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, da fydd ei ran yn y diwedd,
ac yn nydd ei farwolaeth fe'i bendithir.
14Ofni'r Arglwydd yw dechrau doethineb;
crewyd hi gyda'r rhai ffyddlon yng nghroth eu mam.
15Gyda phobl y gwnaeth ei chartref tragwyddol,
a chyda'u plant fe'i ceir yn un i ymddiried ynddi.
16Ofni'r Arglwydd yw cyflawnder doethineb;
o'i ffrwythau fe rydd iddynt ddigonedd o win.
17Fe leinw eu holl dŷ hwy â'i phethau dymunol,
a'u hysguboriau â'i chnydau.
18Ofn yr Arglwydd yw torch doethineb,
a thangnefedd a hoen iechyd yn flodau arni.
19Ef a'i canfu hi, a'i dosrannu;
glawiodd fedrusrwydd a phwyll gwybodaeth,
a dyrchafodd i ogoniant y rhai sy'n glynu wrthi.
20Ofni'r Arglwydd yw gwreiddyn doethineb,
a hir ddyddiau yw ei changhennau hi.#1:20 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir: 21 Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ymlid ymaith bechodau, a thra pery fe dry heibio ddigofaint.
Hunanddisgyblaeth
22Ni ellir cyfiawnhau dicter anghyfiawn,
oherwydd pan dry ei ddicter y dafol cwympo a wna dyn.
23Bydd un da ei amynedd yn ymarhous nes dyfod ei awr,
ac yna bydd llawenydd yn torri arno.
24Bydd yn cadw ei feddyliau'n gudd nes dyfod ei awr,
ac yna bydd gwefusau llaweroedd yn traethu ei synnwyr ef.
Ofn yr Arglwydd
25Yn ystordai doethineb mae dirgelion gwybodaeth,
ond ffieiddbeth i'r pechadur yw duwioldeb.
26Os wyt yn chwennych doethineb, cadw'r gorchmynion,
a rhydd yr Arglwydd iti yn hael ohoni.
27Oherwydd ofn yr Arglwydd yw doethineb ac addysg;
a ffydd ac addfwynder sy'n rhyngu ei fodd ef.
28Paid ag anwybyddu ofn yr Arglwydd,
a phaid â nesáu ato â meddwl dauddyblyg.
29Paid â rhagrithio o flaen#1:29 Felly rhai Fersiynau. Groeg, yng ngenau. pobl,
a gwylia'n ofalus eiriau dy wefusau.
30Paid â'th ddyrchafu dy hun, rhag iti syrthio
a dwyn amarch arnat dy hun;
fe ddatguddia'r Arglwydd dy gyfrinachau,
a'th fwrw i lawr yng nghanol y gynulleidfa,
am iti beidio â nesáu yn ofn yr Arglwydd,
ac am fod dy galon yn llawn twyll.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy