Doethineb Solomon 19
19
1Ond ymosododd dicter didrugaredd ar yr annuwiol hyd yr eithaf,
oherwydd yr oedd Duw'n gwybod amdanynt, hyd yn oed am eu dyfodol:
2sut y byddent yn caniatáu i'th bobl ymadael,
a'u danfon ar eu ffordd yn frwd,
ac yna'n edifarhau a chychwyn ar eu hôl.
3Oherwydd, a hwythau ar ganol eu defodau galar,
ac yn wylofain wrth feddau'r meirw,
daeth syniad byrbwyll arall i'w pennau,
i ymlid fel ffoaduriaid y rheini y buont yn ymbil am gael gwared arnynt.
4Yr oedd eu tynged haeddiannol yn eu llusgo ymlaen i'r terfyn hwn,
ac yn peri iddynt anghofio am yr hyn a fu,
er mwyn iddynt ddioddef y poenau a oedd eto'n ôl i gwblhau eu cosb,
5ac i'th bobl anturio ar#19:5 Yn ôl darlleniad arall, gyflawni. y daith wyrthiol honno
ond iddynt hwy syrthio i afael marwolaeth ddieithr.
6Oherwydd fe ail-luniwyd o'r newydd bob creadur yn ôl ei ryw ei hun,#19:6 Neu, natur yr holl greadigaeth o'r newydd.
i ufuddhau i'th orchmynion di,
er mwyn cadw dy blant rhag niwed.
7Yr oedd y gwersyll dan gysgod cwmwl,
pan welwyd tir sych yn codi lle gynt y bu dŵr—
ffordd ddirwystr lle bu'r Môr Coch,
a gwastatir glas lle bu'r tonnau tymhestlog.
8A throsto yr aeth y genedl gyfan dan nodded dy law,
gan wylio'r arwyddion rhyfeddol.
9Yr oeddent fel ceffylau ar borfa
ac fel ŵyn yn prancio,
wrth ganu mawl i ti, O Arglwydd, yr hwn a'u gwaredodd.
10Dalient i gofio digwyddiadau eu preswyliad mewn gwlad ddieithr:
y ddaear, yn lle magu gwartheg, yn heidio â llau,
a'r afon, yn lle pysgod, yn chwydu brogaod yn lluoedd.
11Ac yn ddiweddarach gwelsant fath newydd o adar hefyd,
pan lithiwyd hwy gan eu chwant i ddeisyf am ddanteithion i'w bwyta;
12oherwydd i'w diwallu cododd soflieir allan o'r môr.
13Daeth cosbedigaethau i'r pechaduriaid,
nid heb rybuddion trwst taranau ymlaen llaw;
yr oeddent yn dioddef yn gyfiawn am eu drygioni eu hunain,
am iddynt fynd i eithafion yn eu casineb tuag at ddieithriaid.
14Y mae'n wir fod eraill wedi gwrthod
derbyn ymwelwyr nad oeddent yn eu hadnabod,
ond gwnaeth y rhain gaethweision o ddieithriaid oedd yn gymwynaswyr iddynt.
15Ac ymhellach, yn wir, fe ddaw rhyw farn ar yr eraill hynny,
gan mor gyndyn fuont i dderbyn estroniaid yn llawen;
16ond am y rhain, ar ôl croesawu'r dieithriaid â gwleddoedd,
a'u derbyn fel rhai oedd eisoes yn gyfrannog o'r un breintiau â hwy,
troi a wnaethant, a'u gorthrymu â chaledwaith dirdynnol.
17Ac felly fe'u trawyd yn ddall,
fel y bu i'r rheini wrth ddrws y dyn cyfiawn:
y tywyllwch a'i safn yn cau amdanynt,
a phob un yn ceisio'r ffordd allan trwy ei ddrws ei hun.
18Oherwydd fel ar y delyn yr arferir nodau mewn tonau gwahanol,
ond yn cadw'r un sŵn bob amser,
felly yr oedd yr elfennau'n newid eu lle ymhlith ei gilydd,
fel y gwelir yn glir o ystyried yr hyn a ddigwyddodd.
19Aeth creaduriaid y tir yn greaduriaid y dŵr,
a chreaduriaid sy'n nofio yn cerdded ar dir sych.
20Cadwodd y tân ei rym cynhenid dan y dŵr,
ac anghofiodd y dŵr ei allu i ddiffodd y tân.
21I'r gwrthwyneb, ni ddifethodd fflamau'r tân
gnawd yr anifeiliaid hawdd eu difa a gerddodd trwy eu canol;
ac ni fu toddi ar yr ymborth nefol er ei debyced i'r iâ sy'n hawdd ei doddi.
22Ym mhob peth, felly, O Arglwydd, mawrheaist dy bobl a'u gogoneddu,
ac nid oes lle nac amser yr esgeulusaist eu hymgeleddu.
Currently Selected:
Doethineb Solomon 19: BCNDA
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004