YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 2

2
Ffyddlondeb i Dduw yn Nydd Prawf
1Fy mab, pan fyddi'n nesáu i wasanaethu'r Arglwydd,
paratoa dy hun i gael dy brofi.
2Uniona dy galon a saf yn gadarn,
a phaid â bod yn fyrbwyll pan ddaw aflwydd arnat.
3Glŷn wrtho ef, paid â chefnu arno,
er mwyn iti ffynnu yn niwedd dy ddyddiau.
4Beth bynnag a fwrir arnat, derbyn ef,
a bydd yn amyneddgar pan ddaw tro ar fyd i'th ddarostwng;
5oherwydd trwy dân y caiff aur ei brofi,
ac yn ffwrnais darostyngiad y gwneir pobl yn gymeradwy.
6Ymddiried ynddo ef, ac fe'th gynorthwya;
uniona dy lwybrau a gobeithia ynddo.
7Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, disgwyliwch wrth ei drugaredd;
peidiwch â throi oddi wrtho, rhag ichwi syrthio.
8Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, ymddiriedwch ynddo,
ac ni phalla eich gwobr byth.
9Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, gobeithiwch am ddaioni,
am lawenydd tragwyddol a thrugaredd.
10Ystyriwch y cenedlaethau gynt a daliwch sylw:
Pwy erioed a ymddiriedodd yn yr Arglwydd a chael ei siomi?
Neu pwy erioed a arhosodd yn ei ofn ef a chael ei wrthod?
Neu pwy erioed a alwodd arno a chael i'r Arglwydd ei ddiystyru?
11Oherwydd y mae'r Arglwydd yn dosturiol a thrugarog;
y mae'n maddau pechodau ac yn achub yn amser cyfyngder.
12Gwae'r calonnau llwfr a'r dwylo llesg,
a'r pechadur sy'n ceisio dilyn dau lwybr!
13Gwae'r galon lesg, am nad yw'n credu!
Dyna'r rheswm na chaiff gysgod drosti.
14Gwae chwi sydd wedi colli'r gallu i ymddál!
Beth a wnewch pan ddaw'r Arglwydd i ymweld â chwi?
15Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, nid anufuddhânt byth i'w eiriau ef;
a'r rhai sy'n ei garu ef, fe gadwant at ei lwybrau.
16Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe geisiant ryngu ei fodd ef;
a'r rhai sy'n ei garu ef, fe'u llenwir â'r gyfraith.
17Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe baratoant eu calonnau,
ac yn ei ŵydd ef fe'u darostyngant eu hunain.
18“Syrthiwn,” meddant, “i ddwylo'r Arglwydd,
ac nid i ddwylo dynol,
oherwydd fel y mae ei fawrhydi,
felly hefyd y mae ei drugaredd.”

Currently Selected:

Ecclesiasticus 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy