YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 65

65
Barn ac Iachawdwriaeth
1“Yr oeddwn yno i'm ceisio gan rai nad oeddent yn holi amdanaf,
yno i'm cael gan rai na chwilient amdanaf.
Dywedais, ‘Edrychwch, dyma fi’,
wrth genedl na alwai ar fy enw.
2Estynnais fy nwylo'n feunyddiol at bobl wrthryfelgar,
rhai oedd yn rhodio ffordd drygioni,
ac yn dilyn eu mympwy eu hunain,
3rhai oedd yn fy mhryfocio'n ddi-baid yn fy wyneb,
yn aberthu mewn gerddi ac arogldarthu ar briddfeini,
4yn eistedd ymhlith y beddau,
ac yn treulio'r nos mewn mynwentydd,
yn bwyta cig moch, a'u llestri'n llawn o gawl aflan.
5Dywedant, ‘Cadw draw,
paid â'm cyffwrdd, rwy'n rhy sanctaidd i ti.’
Y mae'r bobl hyn yn fwg yn fy ffroenau,
yn dân sy'n mygu drwy'r dydd.
6Ond y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu o'm blaen;
ni thawaf, ond fe dalaf yn ôl;
i'r byw y talaf yn ôl
7eich camweddau chwi a'ch hynafiaid,”
medd yr ARGLWYDD.
“Am iddynt arogldarthu ar y mynyddoedd,
a'm cablu ar y bryniau,
mesuraf eu tâl iddynt#65:7 Tebygol. Hebraeg, eu tâl cyntaf. i'r byw.”
8Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Fel pan geir gwin newydd mewn swp o rawn,
ac y dywedir, ‘Paid â'i ddinistrio,
oherwydd y mae bendith ynddo’,
felly y gwnaf finnau er mwyn fy ngweision;
ni ddinistriaf yr un ohonynt.
9Ond paraf i epil ddod o Jacob,
a rhai i etifeddu fy mynyddoedd o Jwda;
bydd y rhai a ddewisaf yn eu hetifeddu,
a'm gweision yn trigo yno.
10Bydd Saron yn borfa defaid,
a dyffryn Achor yn orweddfa gwartheg,
ar gyfer fy mhobl sy'n fy ngheisio.
11“Ond chwi sy'n gwrthod yr ARGLWYDD,
sy'n diystyru fy mynydd sanctaidd,
sy'n gosod bwrdd i'r duw Ffawd
ac yn llenwi cwpanau o win cymysg i Hap,
12dedfrydaf chwi i'r cleddyf,
a'ch darostwng i gyd i'ch lladd;
canys gelwais, ond ni roesoch ateb,
lleferais, ond ni wrandawsoch.
Gwnaethoch bethau sy'n atgas gennyf,
a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd.”
13Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
“Edrychwch, bydd fy ngweision yn bwyta a chwithau'n newynu;
bydd fy ngweision yn yfed a chwithau'n sychedu;
bydd fy ngweision yn llawenhau a chwithau'n cywilyddio;
14bydd fy ngweision yn canu o lawenydd
a chwithau'n griddfan mewn gofid calon,
ac yn galaru mewn ing.
15Erys eich enw yn felltith gan f'etholedigion;
bydd yr Arglwydd DDUW yn dy ddifa,
ond fe rydd enw gwahanol ar ei weision.
16Bydd pawb ar y ddaear sy'n ceisio bendith
yn ceisio'i fendith yn enw Duw gwirionedd,
a phawb ar y ddaear sy'n tyngu llw
yn tyngu ei lw yn enw Duw gwirionedd.”
Nefoedd Newydd a Daear Newydd
“Anghofir y treialon gynt,
ac fe'u cuddir o'm golwg.
17Yr wyf fi'n creu nefoedd newydd a daear newydd;
ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt.
18Byddwch lawen, gorfoleddwch yn ddi-baid
am fy mod i yn creu,
ie, yn creu Jerwsalem yn orfoledd,
a'i phobl yn llawenydd.
19Gorfoleddaf yn Jerwsalem,
llawenychaf yn fy mhobl;
ni chlywir ynddi mwyach na sŵn wylofain na chri trallod.
20Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni,
na henwr heb gyflawni nifer ei flynyddoedd;
llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd,
a dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant.
21Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt,
yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth;
22ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu,
nac yn plannu ac arall yn bwyta.
Bydd fy mhobl yn byw cyhyd â choeden,
a'm hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo.
23Ni fyddant yn llafurio'n ofer,
nac yn magu plant i drallod;
cenhedlaeth a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD ydynt,
hwy a'u hepil hefyd.
24Byddaf yn eu hateb cyn iddynt alw,
ac yn eu gwrando wrth iddynt lefaru.
25Bydd y blaidd a'r oen yn cydbori,
a'r llew yn bwyta gwair fel ych;
a llwch fydd bwyd y sarff.
Ni wnânt ddrwg na difrod
yn fy holl fynydd sanctaidd,” medd yr ARGLWYDD.

Currently Selected:

Eseia 65: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy