YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 64

64
1 # 64:1 Hebraeg, 63:19. O na fuaset wedi rhwygo'r nefoedd, a dod i lawr,
a'r mynyddoedd yn toddi o'th flaen,
2fel tân yn llosgi prysgwydd,
fel dŵr yn berwi ar dân,
er mwyn i'th enw ddod yn hysbys i'th gaseion,
ac i'r cenhedloedd grynu yn dy ŵydd!
3Pan wnaethost bethau ofnadwy heb i ni eu disgwyl,
daethost i lawr, a thoddodd y mynyddoedd o'th flaen.
4Ni chlywodd neb erioed,
ni ddaliodd clust, ni chanfu llygad
unrhyw Dduw ond tydi,
a wnâi ddim dros y rhai sy'n disgwyl wrtho.
5Rwyt yn cyfarfod â'r rhai sy'n hoffi gwneud cyfiawnder,
y rhai sy'n cofio am dy ffyrdd.
Er dy fod yn digio pan oeddem ni'n pechu,
eto roeddem yn dal i droseddu yn dy erbyn.#64:5 Felly Groeg. Hebraeg yn aneglur.
6Aethom i gyd fel peth aflan,
a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron;
yr ydym i gyd wedi crino fel deilen,
a'n camweddau yn ein chwythu i ffwrdd fel y gwynt.
7Ac nid oes neb yn galw ar dy enw,
nac yn trafferthu i afael ynot;
cuddiaist dy wyneb oddi wrthym,
a'n traddodi i afael#64:7 Felly Groeg. Hebraeg, a'n toddi oherwydd. ein camweddau.
8Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad;
ni yw'r clai a thi yw'r crochenydd;
gwaith dy ddwylo ydym i gyd.
9Paid â digio'n llwyr, ARGLWYDD,
na chofio camwedd am byth.
Edrych, yn awr, dy bobl ydym ni i gyd.
10Aeth dy ddinasoedd sanctaidd yn anialwch;
y mae Seion yn anialwch a Jerwsalem yn anghyfannedd.
11Y mae ein tŷ sanctaidd a hardd,
lle y byddai'n hynafiaid yn dy foliannu,
wedi mynd yn lludw,
a phob peth annwyl gennym yn anrhaith.
12A ymateli di, ARGLWYDD, oherwydd y pethau hyn?
A dewi di, a'n cystuddio'n llwyr?

Currently Selected:

Eseia 64: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy