Titus 3
3
Pen. iij.
1 Vvydddot ir sawr a vo mewn awdurtot, 9 Y mae ef yn rrybuddio Titus y ymogelyd rrac questione ynvydion a’ divudd, 12 Gan ddybenu wrth grybwyll am ryw negeseu’n ailltuawl, 15 Ac anerchion.
1COffha yddynt vot yn ddarestyngedic ir Tywysogaetheu ac Auturdotae, a’ bot yn vvydd, ac yn parat i bop gweithred da.
2Na #3:2 * ddywedōt anair ichablant nep, na bot yn ymladdwyr, anyd llednais, gan ðangos pop tiriondep i bop dyn.
3Can ys ydd oeddem nineu hefyd yn andoethion, yn anuvydd, yn siomedic, yn gwasanaethu chwanteu ac #3:3 ‡ La. voluptatib amryw wynieu, yn byw yn‐drygioni a chenvigen, dygasoc, yn casau eu gylydd.
4Eithyr gwedy y #3:4 * Gr. chrestotesaddvwynder a’ #3:4 ‡ philanthropiadyngarwch Duw ein Iachawdur ymddangos,
5Nyd o weithredreð cyfiawnder, a’r y wnaethem ni, eithr #3:5 * wrth, ar olerwydd ei drugaredd yr #3:5 ‡ cadwoddiachaodd ef nyni, can ’olchiat yr adenedigeth, ac adnewyddiat yr Yspryt glan,
6Yr hwn a #3:6 * dywalltoðddineawdd ef arnom yn ehelaeth, trwy Iesu Christ ein Iachawdur,
7Val y bei y ni, gwedy ein cyfiawnhau gan y rat ef, gael yn gwneuthur yn etiveddion #3:7 ‡ ar olerwydd gobaith bywyt tragyvythawl.
8Fyddlawn yw’r ymadrodd hyn, a’r petheu a wyllysiaf yty eu #3:8 * sicrauffyrfhau, ar ir sawl a credant yn‐Duw, ymovalu y ddangos yn amlwc gweithredoedd da. Y petheu y’ sy yn dda acyn profitiol y ddynion.
9Eithr gwrthladd questione ynvydion, ac iachae, a’ #3:9 ‡ Gr. machas, ’sefchynneneu #3:9 * ceintacheac ymrysongerdd o bleit y Ddeðyf, can ys amprofitiol ynt a’ gweigion.
10 # 3:10 ‡ Gwrthlað Gommedd y dyn y vo #3:10 * drwc opiniouusheretic, gwedy vnvvaith neu ddoyvvaith ei rybuddio,
11Gan wybot am y cyfryw, yddymchwelwyt, ai vot yn pechu wedy #3:11 ‡ ddamnovarnu y cantho yhunan.
12Pan ddanvonwyf Artemas atat, #3:12 * neuai Tychicus, bydd astud y dddyvot ataf i Nicopolis: Can ys #3:12 ‡ Gr. bernais, bwriadaisyno y pwrpasais gayafu.
13 # 3:13 * Hebrwng Danvon Zenas y #3:13 ‡ CyfraithiwrDeðfwr, ac Apollos yn ddiwyd, val na bo arnynt eisieu dim.
14Discant hefyt yr ei yddom ni ddangos yn eglur weithredoeð da er mwyniāte angēraidiol val na bont yn anffrwythlawn.
15Yr oll ’rei ’sy gyd a mivi, ath anerchant. Anerch yr ei an carant yn y ffydd. Rat gyd a chwi oll. Amen
Ad Titus, y ddewysiwyt yn Episcop cyntaf i Eccles y Cretieit, yr hwn escrivenwyt o Nicopolis ym‐Macedonia.
Currently Selected:
Titus 3: SBY1567
Highlight
Share
Compare
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyhoeddwyd gyntaf yn 1567, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2016.