Ebraieit 1
1
Pen. j.
1 Dangos y mae ef ef rhagorvraint Christ, 4 Goruch yr Angelion, 7 Ac am y swydd hwy.
Yr Epistol ar ddie Natalic
1DUW lawer gwaith a llawer moð gynt a ymddiddanodd ar tadau trwy’r prophwydi:
2Y dyddie diwaythaf hynn ef ymddiddanoð, a nyni trwy eu Vab, rrwn a wnaeth ef yn etyveð pop peth, trwyr hwn hefyd y gwnaeth ef y bydoedd,
3Rrwn am yfod yn llewyrch y gogoniant, a #1:3 * Gr. character tes hypostascosgvvir-lun y berson ef, ac yn cynnal pop peth trwy eu air galluawg ef, wedy golchi eyn pechodeu ni trwyddo ef eu hun, a eysteddavdd ar ddeau‐law y fowredd ef yn y #1:3 * lleoedd goruchafgoruchelion,
4Ac ef a wnaethbwyd o lawer yn well nor Angylion o gymyn ac y raeth ef ac enw sy yn dwyn rragor arnyntwy.
5Can ys wrth pwy or angylion yrioed y dywod ef, Vy mab i ydwyt i, myvi heddiw ath enillais di? ac eilwaith, Myfy a fydd yn tad iddo ef, ac yntau fydd yn vab y mineu?
6A’ thrachefn pan ydyw yn dwyn eu vab cyntaf ir byd hvvn, y dowaid, Ac ai addolasont ef holl angylion Duw.
7Ac am yr angylion yn wir y dowaid, Rrwn a wna eu cenadau o yspridion, ay wasanaythwyr o fflam dan.
8Wrth y mab hagen y dyvvait, Dy #1:8 ‡ drongadair di, Ddyw, yn oes oesoedd: teyrnwialen vnion teyrnwialen dy dyrnas di.
9Ti a geraist wirionedd, ac a gasëist enwiredd; am hyny Dyw, ysef dy Ddyw di ath #1:9 * eliawddenneyntioð ac olew llywenydd ytuhwnt ith #1:9 ‡ gyfeillioncymedeithion.
10A’c, Tydi yn y dechreuad, arglwydd, a growndwaleist y ddayar, ar nefoedd gwaith dy ddwylaw di ydynt.
11Colli a wnant wy eythr tydi a erys: acy gyd oll heneiddio a wnant megis cadachay.
12Ac megis gwisc y plygi di hwynt, ac a ymnewidiant: eythr tydi yr vn ydwyd, ath vlenyddoedd di ni #1:12 * phallantddeffygiant.
13Wrth pwy or angylion erioed y dywod ef, Eisteð ar y llaw ddeau ym, hyd oni ddodwy dy elynion yn stol ith traed?
14Onid ysprydion gwasanaythgar y dynt wy oll, a ddanfonir y wasanaenthu, ir mwyn y rray a fyddont ytyveddion yr iechaid?
Currently Selected:
Ebraieit 1: SBY1567
Highlight
Share
Compare
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyhoeddwyd gyntaf yn 1567, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2016.