Rhufeiniaid 15
15
Gwersi Esiampl Crist.
1A nyni, y galluog#15:1 Dunatoi: Cyflea yr ystyr o nerth ac hefyd adnoddau a chyfleusterau nerth. Efallai y defnyddiai y ‘dynion cryfion’ hyn y gair am danynt eu hunain., a ddylem ddwyn gwendidau#15:1 Y gweithredoedd a ddangosent wendid eu ffydd. y rhai analluog, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. 2Bydded i bob un o honom ryngu bodd ei gymmydog yn yr hyn sydd dda er adeiladaeth. 3Canys Crist nis boddhâodd ef ei hun, eithr, fel y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a'th waradwyddant di a syrthiasant arnaf fi#15:3 Y mae y dyfyniad yn llythyrennol o'r LXX, Salm 69:9. Y mae y dyoddefydd yn annerch Duw. Dyoddefodd nid er ei fwyn ei hun ond er mwyn ei Dad ac iachawdwriaeth dyn.. 4Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o'r#15:4 O'r blaen א A C; gad. B. blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt, fel trwy amynedd#15:4 Trwy y cyd‐oddef a'r cyd‐ddwyn a ddysgir i ni, a'r annogaeth a'r calondid a roddir i ni gan yr Ysgrythyrau, y cawsom y gobaith. a dyddanwch#15:4 Trwy y cyd‐oddef a'r cyd‐ddwyn a ddysgir i ni, a'r annogaeth a'r calondid a roddir i ni gan yr Ysgrythyrau, y cawsom y gobaith. yr Ysgrythyrau y cawsem obaith. 5A Duw yr amynedd a'r dyddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ol Crist Iesu#15:5 Yn ol cymmeriad, esiampl, a dysgeidiaeth Crist Iesu., 6fel yn unfryd#15:6 Homothumadon. Yma yn unig tu allan i'r Actau; yno 2 o weithiau. o un genau y gogoneddoch Dduw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist. 7Am hynny derbyniwch#15:7 ‘Derbyniwch yn wresog,’ ‘croesawwch.’ eich gilydd, megys ag y derbyniodd Crist chwithau#15:7 Chwithau א C F G; ninnau B D., er gogoniant Duw. 8Canys yr wyf yn dywedyd i Grist gael ei wneyd yn weinidog#15:8 Diakonos, gwas ewyllysgar ac anrhydeddus. ‘Na ddiystyrwch chwi, y Cristionogion Cenhedlig, eich brodyr, y Cristionogion Iuddewig. Daeth Crist eich Iachawdwr chwi yn was iddynt hwy. Gwnaethpwyd ef dan y ddeddf, a daeth yn gyntaf at ‘gyfr‐golledig dŷ Israel.’ yr Enwaediad er mwyn gwirionedd#15:8 Cyflawniad gwirionedd, sef addewid Duw i'r Iuddew; trugaredd ddiammodol i'r Cenedl‐ddyn. Duw, er cadarnhâd yr addewidion i'r Tadau, 9ac fel y byddai i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd#15:9 Cyflawniad gwirionedd, sef addewid Duw i'r Iuddew; trugaredd ddiammodol i'r Cenedl‐ddyn., fel y mae yn ysgrifenedig,
O achos hyn y canmolaf#15:9 Neu, y cyffesaf. Canmol a diolch yw ystyr y gair yn y LXX. di ym mhlith y Cenhedloedd, ac i'th enw y canaf#15:9 Salm 18:49, LXX..
10A thrachefn y mae yn dywedyd,
Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl ef#15:10 Deut 32:43, LXX..
11A thrachefn,
Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodfored#15:11 Clodfored א A B C D; clodforwch F G. yr holl bobloedd ef#15:11 Salm 117:1, yn agos yr un a'r LXX..
12A thrachefn y mae Esaia yn dywedyd,
Fe fydd gwreiddyn Jesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu y Cenhedloedd; ynddo ef y gobeithia y Cenhedloedd#15:12 Es 11:10, LXX..
13Yn awr Duw y gobaith a'ch llanwo â phob llawenydd a thangnefedd yn eich credu#15:13 ‘Yn eich ymarferiad o'ch ffydd.’ Y mae yr ymadrodd yn symio i fyny ddadl fawr yr Epistol. ‘Yn eich credu’ yw diweddair yr Epistol yn ei athrawiaeth a'i gynghorion., fel y byddoch helaeth mewn gobaith yng ngallu yr Yspryd Glân.
Achlysur yr Epistol.
14Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn coelio#15:14 Llyth., ‘wedi fy narbwyllo.’ am danoch chwi, eich bod chwithau hefyd yn llawn daioni#15:14 Caredigrwydd, cymmwynasgarwch. Y ddau hyn, gwybodaeth gyflawn ac yspryd cymmwynasgar sydd yn angenrheidiol i gyflawni yr hyn ofynir yn 14., wedi eich llenwi o bob gwybodaeth, ac hefyd yn abl i gynghori eich gilydd. 15Ond ysgrifennwyf yn fwy hyf o fesur attoch#15:15 Frodyr D F G; gad. א A B C., fel yn eich adgoffa chwi o herwydd y gras a roddwyd i mi oddiwrth#15:15 Oddiwrth א B F G; gan A C D &c. Dduw 16i fod yn weinidog#15:16 Leitourgos, ‘gweini ym mhethau sanctaidd.’ Y mae i'r gair gyfeiriad offeiriadol. Gweler 13:6. Crist Iesu i'r Cenhedloedd, gan wasanaethu#15:16 Hierourgeô [yma yn unig yn y T.N.], ‘gwasanaethu mewn pethau sanctaidd,’ gwneyd gwaith offeiriad, offrymmu. Desgrifia Paul ei hun fel offeiriad i Dduw; ffydd y Cenhedloedd crediniol yw yr aberth cymmeradwy. Y mae y Gyfundrefn Iuddewig drosodd; yn fuan bydd y Deml yn deilchion, a'r allor wedi ei cholli; ond y mae yna deml fawr ysprydol i'w chodi a'i llanw gan ogoniant Duw. Nid oedd yr offeiriaid Lefiticaidd ond cysgodion. Yr oedd yr Apostol yn dwyn, nid anifeiliaid direswm i'w haberthu, ond ysprydoedd dynion wedi eu bywhau a'u sancteiddio gan yr Ysbryd Glân i'w cyflwyno yn ebyrth ysprydol i Dduw. efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymmeradwy, wedi ei sancteiddio yn yr Yspryd Glân. 17Y mae gennyf gan hynny fy ymffrost yng Nghrist Iesu o ran y pethau#15:17 Ymadrodd Hebreig (Heb 2:17), cyflawniad dyledswyddau crefyddol. a berthyn i Dduw. 18Canys ni feiddiaf ddywedyd dim o'r pethau na weithredodd Crist trwof#15:18 ‘Ni feiddiaf lefaru am waith eraill ond yn unig yr hyn a gyflawnodd Crist trwof fi yn unig.’ Crist yw y gweithredydd. Rhydd yr Actau ychydig o hanes ‘y pethau y dechreuodd Crist eu gwneuthur a'u dysgu’ (Act 1:1)., er ufudd‐dod y Cenhedloedd, mewn gair a gweithred, 19yng ngallu arwyddion a rhyfeddodau, yng ngallu yr Yspryd Glân#15:19 Yspryd Glan A C D; Yspryd Duw א L; Yspryd B.; fel ag o Jerusalem a'r wlad o amgylch#15:19 Ni olyga yr ymadrodd i'r Apostol ar ol cylch‐daith helaeth gyrhaedd Illyricum, ond golyga amgylchoedd Jerusalem, megys Judea, Syria, Arabia. Ni chawn hanes iddo ymweled ag Illyricum. Tebygol iddo fod yno ar y daith a grybwyllir yn Act 20:1–3. Yr enw Groeg arferol oedd Illyris. Yr oedd rhwng yr Eidal, yr Almaen, Thrace a Macedonia ar lan y Mor Adriaidd. hyd Illyricum, yr wyf wedi llawn‐bregethu#15:19 Llyth., cyflawni. efengyl Crist; 20ac y mae i mi uchelgais#15:20 Llyth., caru yr anrhydedd, bod yn uchel‐geisiol, ymorchestu. i bregethu yn y modd hyn, nid lle yr enwyd Crist, fel nad adeiladwn ar sail un arall; 21eithr fel y mae yn ysgrifenedig,
I'r rhai ni fynegwyd am dano, hwy a welant,
A'r rhai ni chlywsant a ddeallant#15:21 Es 52:15, LXX, yr hwn sydd yn aralleirio yr Hebraeg..
22Am hynny hefyd y'm lluddiwyd lawer o weithiau i ddyfod attoch chwi#15:22 Yr oedd Paul yn benderfynnol i gyrhaedd Rhufain (Act 19:21).; 23eithr yr awrhon, gan nad oes gennyf le#15:23 Gyfleusderau i bregethu mewn lleoedd cyfagos i Achaia, lle yr ysgrifennai ei Epistol. mwyach yn y parthau hyn, a bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod attoch; 24pa bryd bynnag yr elwyf i'r Hispaen#15:24 Yr enw Groeg oedd Iberia. Llefara llawer o'r Tadau am ymweliad Paul â'r Hispaen. “Ei ymdeithiau a gyrhaeddasant hyd bellafoedd y Gorllewin.” — Clement o Rufain.#15:24 Mi a ddeuaf attoch, gad. א A B C D &c., — canys gobeithiaf eich gweled wrth fyned heibio, a'm hebrwng#15:24 ‘Danfon ymlaen.’ Efallai y dysgwyliai i rai o'r Cristionogion Rhufeinig fyned gydag ef. gennych yno, os byddaf yn gyntaf, i fesur#15:24 Neu, o ran. Ni fydd ei arhosiad yn ddigon hir i gael ei gyflawn fesur o ddedwyddwch ac adloniant yn eu cwmpeini., wedi cael llawn fwynhâd#15:24 Llyth., ‘wedi fy llenwi â chwi,’ ‘wedi cael cyflawn foddhad yn eich cwmpeini.’ gyda chwi — 25eithr yn awr yr wyf yn myned i Jerusalem#15:25 Ar ddiwedd ei ail ymweliad âg Achaia (gweler Act 20:2–17; 21:1–17; 1 Cor 16:1–4; 2 Cor 8:1–4), yr oedd yn myned â chymhorth tymhorol i Gristionogion tlodion Jerusalem a Judea., gan weini#15:25 Diakoneô, gan wneuthur gwaith ‘diacon’ da. i'r saint; 26canys rhyngodd bodd i Macedonia ac Achaia#15:26 Y mae Macedonia ac Achaia yn cynnrychioli eglwysi Groeg yn y gogledd a'r de. wneuthur rhyw gyfraniad i'r tlodion o'r saint sydd yn Jerusalem; 27canys rhyngodd bodd iddynt, a'u dyledwyr#15:27 Gwnaed hwy yn gyfrannogion o'u breintiau ysprydol. hwy ydynt; canys os yn eu pethau ysprydol hwy y cyfrannogodd y Cenhedloedd, hwythau hefyd ddylent weini#15:27 Y mae gweini i angenrheidiau y corph yr un mor anrhydeddus a gweini i'r yspryd. Defnyddir yr un gair (ad. 16), a dynoda addoliad rhoddi. Pan yn canmol y Corinthiaid y mae yn rhoddi cyfarwyddyd tawel i'r Rhufeiniaid. iddynt hwythau mewn pethau cnawdol. 28Wedi i mi gan hynny orphen hyn, a selio#15:28 Trwy drosglwyddo iddynt yn bersonol gyfraniadau yr eglwysi, fel ffrwyth ei lafur ysprydol yn eu plith. iddynt y ffrwyth hwn, mi a äf heibio trwoch chwi i'r Hispaen; 29a gwn pan ddelwyf attoch y deuaf yng nghyflawnder bendith Crist#15:29 Efengyl; gad. א A B C D Brnd.. 30Yn awr, yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad#15:30 Fel y ffrwyth a gynnyrchir ganddo (Gal 5:22), neu ei gariad tuag at y saint. Cariad Duw yw cariad yr Yspryd. yr Yspryd, ar gyd‐ymdrech o honoch gyda myfi mewn gweddiau drosof fi#15:30 O herwydd y peryglon a'i cyfarfyddai yn Jerusalem (Act 20:3, 22; 21:11). at Dduw, 31fel y'm gwareder oddiwrth y rhai anufudd yn Judea, ac y byddo fy ngwasanaeth#15:31 Gwasanaeth [diakonia] א A C: cyflwyniad rhodd [dôrophoria] B D F G., yr hwn sydd i Jerusalem, yn dderbyniol gan y saint#15:31 Ofnai y byddai rhodd yr eglwysi cenhedlig yn cael ei gwrthod gan aelodau culion yr eglwys yn Jerusalem.: 32fel y delwyf attoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw#15:32 Ni ddefnyddia Paul yn un man (os nad yw hwn yn eithriad) ewyllys Crist am ffordd Duw yn ei Ragluniaeth.#15:32 Duw A C; yr Arglwydd Iesu B; Iesu Grist א; Crist Iesu D F G., a chyda chwi y caffwyf orphwysdra#15:32 Llyth., ‘ein cyd‐esmwythâer gyda chwi.’ Gwell na ‘chyd‐loner.’. 33A Duw yr heddwch#15:33 Allweddair yr Epistol yw ei ddiweddglo grasusol. fyddo gyda chwi oll. Amen.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Rhufeiniaid 15: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.