Actau 22

22
Ymddiffyniad Paul: Ei Droedigaeth a'i Alwad, 1–22.
1O Wyr Frodyr a Thadau#22:1 Y mae yr Anerchiad yn llawn moesgarwch a pharch, er yr holl erlid. Defnyddia yr un geiriau a Stephan yn ei gyfarchiad. Yr oedd y dyrfa yn ‘frodyr’ iddo, a'r henuriaid a'r offeiriaid a ganfyddai yn eu plith yn ‘dadau.’ Llefara wrthynt yn eu iaith ei hun; dengys ei fod yn Iuddew o ran cenedl a dygiad i fyny, yn Hebrewr o'r Hebreaid, ac wedi bod yn Pharisead o'r Phariseaid; rhydd hanes ei droedigaeth yn y modd mwyaf didramgwydd ond argyhoeddiadol; desgrifia yr hwn a'i dygodd i'r ‘Ffordd’ fel Iuddew duwiol yn cadw'r Gyfraith, a chyfeiria at eu Teml fel y man y cafodd weledigaeth a dadguddiad Dwyfol, yr hwn a roddodd iddo oleuni ar ei waith a'i gylch dyfodol. Cymhlethir drwy yr oll y medr dynol uwchaf a'r egwyddor Ddwyfol ddyfnaf., gwrandewch fy ymddiffyn presenol wrthych. 2Ac wedi clywed mai yn y briod‐iaith Hebraeg y llefarai wrthynt, hwy a roisant fwy o lonyddwch#22:2 êsuchia, tawelwch, llonyddwch, aros yn ddigyffro. Y mae y gair yn wrthgyferbyniol i ‘symud,’ tra y mae sigê (21:40) yn wrthgyferbyniol i ‘swn,’ ‘ystwr.’ Pan y llefarodd Paul yn yr Hebraeg safodd y dorf yn ddigyffro, megys wedi ei hoelio wrth y ddaear, gan dalu y sylw manylaf iddo.. 3A dywedodd, Myfi wyf wr o Iuddew, wedi fy ngeni yn Tarsus#22:3 gweler 6:9. yn Cilicia, wedi fy meithrin#22:3 Magu, meithrin, dwyn i fyny, 7:20, 21. yn y Ddinas hon#22:3 Neu, ‘wedi fy meithrin yn y Ddinas hon wrth draed Gamaliel, wedi fy egwyddori yn ol manyldeb,’ &c. Am Gamaliel, gweler 5:34. Symudwyd Paul pan yn ieuanc o Tarsus i Jerusalem. Dechreuid astudio'r Gyfraith gan y rhai a fwriedid i fod yn ddysgawdwyr o honi pan yn unarddeg oed. (Am Paul, gweler Phil 3:5, 6)., wedi fy egwyddori#22:3 paideuô, dwyn plentyn i fyny; addysgu, athrawiaethu, dysgyblu. Ystyr mynychaf y gair yn y T.N. yw, dysgyblu, ceryddu, cywiro (Luc 23:16, 22; 1 Cor 11:32; 2 Cor 6:9; Heb 12:6, 7, 10). wrth draed#22:3 Eisteddai yr ‘henuriaid’ ar gadeiriau uchel, y rhai canol oed ar feinciau is, a'r ieuainc ar garpedau wrth eu traed. Gamaliel yn ol manyldeb Cyfraith ein Tadau#22:3 llyth: ‘Cyfraith dadol,’ yn disgyn oddiwrth y tadau., o'r dechreu#22:3 huparchein, bod o'r dechreu. yn un selog#22:3 llyth: ‘zelotiad Duw’; fel Phinehas, Num 25:13 dros Dduw, fel, yr ydych chwithau oll heddyw: 4yr hwn a erlidiais y Ffordd#22:4 gweler 9:2. hon hyd angeu, gan rwymo a thraddodi i garcharau#22:4 Nid Damascus yn unig oedd maes erledigaeth o du Paul. Nid oes hanes iddo gymeryd rhan uniongyrchol yn merthyrdod neb, ond rhoddodd ‘ei lais a'i bleidlais’ yn erbyn y credinwyr. (26:10). wyr a gwragedd hefyd, 5megys hefyd y mae yr Archoffeiriad#22:5 gweler 9:1. Theophilus oedd yr Arch‐offeiriad ar y pryd ar ol ei frawd Jonathan. Symudwyd Theophilus gan Agrippa, ond tebygol ei fod yn fyw ac yn bresenol yma. Ananias oedd yr Arch‐offeiriad y pryd hwn (23:2). yn dyst i mi, a'r holl Henaduriaeth#22:5 y Sanhedrin, fel yn Luc 20:46 Gweler 4:5.: gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr#22:5 sef yr Iuddewon yn Damascus. Llefara Paul yn awr fel Iuddew Moesenaidd., ac yr oeddwn yn myned i Damascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd#22:5 at y rhai oeddent eisoes wedi eu carcharu trwyddo yn Jerusalem. Gellid ddarllen, ‘dwyn y rhai oedd wedi myned yno,’ efallai wedi ffoi o Jerusalem. yn rhwym#22:5 Y mae y Rhwymwr yn awr ei hun yn rhwymedig. i Jerusalem, fel y cospid hwynt. 6Eithr dygwyddodd i mi wrth fyned a neshâu at Damascus ynghylch haner dydd#22:6 Ni ddywedir hyn yn 9. Dygwyddodd yr oll ‘yn ngwyneb haul a llygad goleuni.’, yn ddisymwth allan o'r nef dysglaeriodd#22:6 fflachiodd. goleuni tanbaid#22:6 Gr. ddigon. o'm hamgylch; 7a syrthiais ar y llawr#22:7 edaphos, gwaelod, sylfaen, llawr., ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid I? 8A minau a atebais, Pwy ydwyt, Arglwydd? A dywedodd wrthyf, Myfi wyf Iesu o Nazareth#22:8 Ni cheir ‘o Nazareth,’ neu ‘Y Nazaread’ yn 9:5 a 26:9. Ychwanegir yma, efallai, er mwyn eglurdeb., yr hwn yr wyt ti yn Ei erlid. 9A'r rhai oedd gyda mi yn wir a welsant y Goleuni#22:9 ac a aethant yn ofnus D E; gad. א A B Brnd., ond llais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf ni chlywsant. 10A dywedais#22:10 Am yr anghysondeb ymddangosiadol rhwng yr adnod hon a 9:7, gweler yno. Canlynir ‘clywed’ yn adnod 7 (o'r bennod hono) gan yr achos genidol, yma (‘ond y llais … ni chlywsant’) gan y cyhuddol. Clywsant swn, ond ni ddeallasant y geiriau., Pa beth a wnaf, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i Damascus, ac yno y dywedir i ti ynghylch yr holl bethau sydd wedi eu penodi i ti eu gwneuthur#22:10 Dywedir yn 26:16–18, i'r Apostol gael gwybod natur ei waith ar y dechreu; ond yno symia i fyny mewn ychydig eiriau yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd wrtho yn uniongyrchol a thrwy ei was Ananias.. 11A phan nad oeddwn yn gweled#22:11 Yma yn unig y rhoddir y rheswm am ddallineb Paul. gan ogoniant y Goleuni hwnw, gan gael fy arwain erbyn fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, daethum i Damascus. 12A rhyw Ananias, gwr bucheddol#22:12 Dyn yn parchu'r Gyfraith oedd yr offeryn i arwain Paul i'r ‘Ffordd.’ Yn 9:10, gelwir ef ‘dysgybl.’ Gadewir allan yma weledigaeth Ananias.#22:12 bucheddol [defosiynol, eulabês] א B Brnd.; duwiol [eusebês] E; gad. A. yn ol y Gyfraith, a thystiolaeth dda iddo gan yr holl Iuddewon oedd yn preswylio yno, 13a ddaeth ataf, ac a safodd uwch fy mhen#22:13 llyth: droswyf., ac a ddywedodd wrthyf, Frawd Saul, edrych i fyny#22:13 Neu, Cymer dy olwg. Golyga y ferf earych i fyny, a chael arferiad golwg. Golyga y blaenaf yn Luc 19:5, a'r olaf yn 9:11. Wrth ‘edrych i fyny’ yr ydym i dderbyn ein golwg.. A myfi, yn yr awr hono, a edrychais i fyny arno. 14Ac efe a ddywedodd, Duw ein Tadau ni a'th benododd#22:14 Yma a 26:16 yn unig yn y T.N. Golyga, gosod mewn llaw, yna, parotoi, dewis, appwyntio. di i wybod ei ewyllys#22:14 ‘Apostol yn ol ewyllys Duw.’ Gweler ei gyfarchiad yn ei Epistolau. ef, ac i weled y Cyfiawn#22:14 Gweler 3:14; 7:52, Y ‘Cyfiawn’ a'r ‘Cyfiawnhawr.’ Efe yw swm a sylwedd yr Efengyl., ac i glywed llais o'i enau ef#22:14 Felly gwelodd a chlywodd Paul yr Athraw fel y gwnaeth yr Apostolion eraill.: 15canys byddi dyst iddo wrth bob dyn#22:15 Cafodd Paul yr un commissiwn a'r lleill, ‘hyd eithaf y ddaear’ 1:8. Ni enwir y Cenhedloedd yma, rhag rhoddi tramgwydd i'r Iuddewon. o'r pethau a welaist#22:15 Cafodd Paul weledigaethau a dadguddiedigaethau uniongyrchol o holl gylch gwirionedd Cristionogol ac o'r athrawiaethau a ddysgodd Crist i'w Apostolion tra ar y ddaear. Gweler hefyd 2 Cor 12:2, 3. ac a glywaist. 16Ac yn awr paham yr oedi#22:16 llyth: ar fedr, gwneuthur, ac eto yn methu, petruso, aros, oedi. Defnyddir melleis yn yr ystyr hyn yma yn unig yn y T.N.? Cyfod, cymer dy fedyddio#22:16 Yn y llais canolog, ‘Achosa dy hun i gael dy fedyddio,’ ‘caniatâ i gael dy fedyddio,’ ‘derbyn fedydd’; gweithred wirfoddol credadyn. Gweler 2:38. Y mae Bedydd yn arwydd allanol o edifeirwch a ffydd, y rhai ydynt anhebgorol i iachawdwriaeth. Nid oes yma sail i'r cyfeiliornad peryglus o adenedigaeth fedyddiol. Yr oedd Paul wedi ei ail‐eni, a'i bechodau wedi eu maddeu. Yr oedd yn awr i ‘frysio,’ i beidio ‘oedi,’ i werthfawrogi breintiau y bywyd newydd. Mewn Bedydd yr ydym yn gwneyd cyffes o'n pechodau, ac yn dangos mewn arwyddlun fod Duw wedi eu maddeu. Golchir y pechodau ymaith yn arwyddluniol gan ddyfroedd y Bedydd, yn effeithiol a gwirioneddol, gan yr Yspryd Glân., a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar ei#22:16 ei enw Ef א A B E Brnd.: Enw yr Arglwydd HL. Enw Ef#22:16 Crist. Efe oedd gwrthddrych gweddi, ac felly y Ddwyfol. Dywedai Pliny fod y Cristionogion yn cawn emynau o fawl i Grist fel Duw.. 17A dygwyddodd i mi, wedi dychwelyd i Jerusalem, a mi yn gweddio yn y Deml#22:17 Y Lle cysegredig ac anwyl gan yr Iuddewon., syrthio#22:17 llyth: myned, dyfod. mewn llesmair#22:17 ekstasis, ‘sefyll allan o hono ei hun’; yna rhyfeddod, (Marc 5:42); perlewyg, llesmair. Yr oedd y llesmair hwn yn un o'r ‘gweledigaethau a dadguddiedigaethau’ (2 Cor 12:1). Ar ol ei droedigaeth, aeth Paul i Anialwch Arabia, lle y bu mewn gweddi, a myfyrdod, a chymdeithas a Duw am dair blynedd (Gal 1:17)., 18a'i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia#22:18 Bu Paul yn Jerusalem 15 niwrnod (Gal 1:18)., a dos yn glau allan o Jerusalem, o herwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth am danaf fi#22:18 Yr oedd Paul yn ddiameu am lafurio yn mhlith yr Iuddewon, ac am wneyd yr hyn a allai i ddadwneyd y drwg a wnaeth yn Jerusalem. Awgryma wrth yr Iuddewon mai hyn oedd ei ddymuniad, ond mai ewyllys Duw a dadguddiad Iesu Grist a'i danfonodd i lafurio yn mhlith y Cenhedloedd.. 19A minau a ddywedais, Arglwydd, y rhai hyn a wyddant mai myfi oedd yn carcharu ac yn curo yn mhob Synagog#22:19 Gweler Mat 10:17; 23:34; Marc 13:9; Luc 21:12. y rhai sydd yn credu ynot#22:19 llyth: aniat. Ti. 20A phan dywalltwyd gwaed Stephan dy dyst#22:20 martus. Tebygol nad oedd y gair, ystyr briodol yr hwn yw ‘tyst,’ yn golygu hefyd mor gynar a hyn, ‘merthyr,’ Yn y Dadguddiad (2:13; 17:6) cynwysa yr olaf. ti, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw#22:20 Neu, uwch ei ben., ac yn cydsynio#22:20 Gweler 8:1.#22:20 i'w farwolaeth HL. gad. א A B D E Brnd., ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef. 21Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos#22:21 Dadl yr Apostol yw iddo fyned i efengylu i'r Cenhedloedd mewn canlyniad i orchymyn pendant Crist., canys myfi a'th anfonaf di yn mhell at y Cenhedloedd.
Cynddaredd yr Iuddewon: Drwgdybiaeth y Milwriad.
22A hwy a'i gwrandawsant hyd y gair#22:22 Y gair ‘Cenhedloedd,’ neu, yn hytrach, y dadganiad ei fod wedi cael galwad Ddwyfol i bregethu Teyrnas Dduw iddynt. hwn; a chodasant eu llef#22:22 Nid ‘llefau’; ond yr oeddent ‘unfryd unlais.’, gan ddywedyd, Ymaith â'r cyfryw un oddiar y ddaear, canys nid oedd#22:22 Yn ol y prif‐lawysgrifau: ‘dylasem fod wedi ei lladd pan y llusgasom ef o'r Deml. Ni ddylasai gael byw am enyd awr.’ gymhwys iddo fyw. 23Ac fel yr oeddent yn gwaeddi, ac yn taflu ymaith#22:23 taflu, taflu ymaith, taflu i lawr [y cleifion wrth draed yr Iesu, Mat 15:30]. Rhai a gymerant y gair yn yr ystyr o ‘ysgwyd,’ ‘ysgytio,’ fel arwydd o gynddaredd a dirmyg. Nid yw y defnydd a wneir o'r gair yn cyfiawnhau ei gyfieithu felly. Taflent eu cochlau ymaith er mwyn, pe buasai bosibl, taflu ceryg at Paul. Cyferbynier ymddygiad y dyrfa pan y marchogodd Crist i Jerusalem. eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr#22:23 Cymharer ymddygiad Simei at Dafydd, 2 Sam 16:13., 24gorchymynodd y Milwriad ei ddwyn ef i'r Gwersyll‐dy, gan orchymyn ei holi#22:24 anatazesthai, olrhain, holi, yn gyfreithiol. Ni ddefnyddir y ffurf mewn Groeg clasurol, nac yn y T.N. ond yma ac ad 29. ef trwy fflangellau#22:24 Nid oedd gyfreithlon yn ol deddfau Rhufain gwneuthur hyn. Ni ddeallodd y Milwriad anerchiad Paul, a daeth i'r penderfyniad ei fod yn euog o ryw drosedd pwysig, onide ni achosid y fath gynhyrfiad yn mhlith y bobl. Yr oedd y fflangellu wedi'r cwbl yn ‘ysgafn gystudd’ mewn cydmariaeth i ingoedd y Chwil‐lys Pabaidd., fel y gwybyddai am ba achos y llefent felly ei erbyn. 25Ac wedi ei gylymu ar gyfer y fflangell#22:25 llyth: Ac wedi iddynt ei estyn allan i'r carreiau, hyny yw, cylymwyd ef wrth biler neu drawst, fel y byddai ei gorph yn estynedig, a'i gefn yn agored i'r fflangell. Gwnelid i fyny y fflangell o amryw garreiau. Eraill a gyfieithant: ‘Ac wedi iddynt ei rwymo â charreiau’; ond ni roddir yn hwn wir ystyr y ferf., dywedodd Paul wrth y Canwriad#22:25 yr hwn oedd gyfrifol am gario allan orchymyn y Milwriad. oedd yn sefyll gerllaw, A'i cyfreithlawn i chwi fflangellu dyn sydd Rufeiniwr, ac heb ei gondemnio#22:25 Dywed Cicero mai gweithred ddrwg oedd rhwymo Rhufeiniwr; yr oedd yn drosedd anfad ei fflangellu. Ni chwynodd Paul oherwydd y rhwymau. Yr oedd yr Yspryd Glân wedi eu rhagfynegu; ond nid oedd foddlon i'r fflangellu, oblegyd nid ydoedd yn y rhagdrefn Ddwyfol.? 26A phan glybu y Canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r Milwriad, gan ddywedyd, Beth#22:26 edrych [beth yr wyt, &c.] DHL; gad. א A B C E Brnd. yr wyt ar fedr ei wneuthur? canys Rhufeiniwr yw y dyn hwn#22:26 Yr oedd y Lex Porcia yn gwahardd fflangellu dinesydd Rhufeinig.. 27A'r Milwriad a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniwr wyt ti#22:27 Neu, ‘Tydi, Rhufeiniwr wyt’! gan ddangos teimlad cynhyrfus y Milwriad.? Ac efe a ddywedodd, Ie#22:27 Yr oedd poenydiau enbyd i'r rhai a hawlient ddinasyddiaeth Rufeinig ar gam. Dienyddodd Claudius lawer o'r rhai a ffugient hawl i fod yn rhydd ddinasyddion Rhufain.. 28A'r Milwriad a atebodd, A swm#22:28 llyth: cyfalaf. Yr oedd Lysias (yr hwn nid oedd Rufeiniwr) wedi prynu ei hawl i fod yn ddinesydd Rhufeinig. Efallai iddo fabwysiadu yr enw Claudius, am iddo dderbyn ei ddinas‐fraint oddiwrth yr Amherawdwr hwnw am ryw swm penodol. mawr y cefais i y ddinas‐fraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, Ond myfi a anwyd iddi#22:28 Nid oedd Tarsus yn drefedigaeth Rufeinig, fel Antioch, Philippi, &c. Nid oedd yn Ddinas Rydd, ac felly ni orfodid hi i dalu rhai trethoedd, &c.; ond nid oedd ei thrigolion yn meddu y ddinas‐fraint Rufeinig. Felly, bernir fod rhai o hynafiaid Paul wedi ei sicrhau trwy ryw wasanaeth neu gilydd i'r Amherodraeth.. 29Yn ebrwydd gan hyny y ciliodd oddiwrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef, a'r Milwriad hefyd a ofnodd pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniwr, a'i fod ef wedi ei rwymo. 30A thranoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod yn sicr am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iuddewon, efe a'i gollyngodd yn rhydd#22:30 o'r rhwymau HL; gad. א A B C E Brnd., ac a orchymynodd i'r Arch‐offeiriad a'r holl Sanhedrin ddyfod ynghyd, ac wedi dwyn Paul i waered, efe a'i gosododd ger eu bron#22:30 Deallodd Lysias fod y cyhuddiad yn erbyn Paul o natur grefyddol, ac felly galwodd ynghyd yr Awdurdodau crefyddol..

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Actau 22: CTE

เน้นข้อความ

คัดลอก

เปรียบเทียบ

แบ่งปัน

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้