Actau 21
21
O Miletus i Ptolemais, 1–8.
1A phan ddarfu i ni hwylio ymaith, wedi i ni ein gwahanu#21:1 llyth: wedi ein rhwygo oddiwrthynt, gan ddangos y serch oedd wedi eu cylymu wrth eu gilydd a'r anhawsder i “ffarwelio.” oddiwrthynt, ni a ddaethom ag union‐gyrch#21:1 llyth: gan redeg (hwylio) yn union. Yr oedd y cwrs yn union. i Cos#21:1 Ynys a thref 40 milltir i'r deheu o Miletus. Yr oedd yn ynys ffrwythlon a phoblog. Yr oedd llawer o Iuddewon yn byw ynddi. Yr oedd yn hynod am ei gwinoedd, ei pheraroglau, a'i gwisgoedd., a thranoeth i Rhodes#21:1 Rhodes (50 milltir i'r deheu o Cos,) ynys ffrwythlon a phrydferth. Yr oedd y dref, o'r un enw, yn adnabyddus o herwydd ei Colossus, sef cerflun anferth neu ddelw o'r Haul, yr hwn oedd cyn hyn wedi ei ddymchwelyd gan ddaeargryn, ac felly ar y pryd hwn yn adfeilion. Y mae i Rhodes le pwysig yn hanes Groeg. Bu ei llynges un adeg yn feistres y môr., ac oddiyno i Patara#21:1 Porthladd Xanthus, prif‐ddinas Lycia. Yr oedd tua 10 milltir o'r dref. Yr oedd gyferbyn a Rhodes. Hynodid Patara gan Oracl Apollo, y nesaf mewn bri i'r un yn Delphi.. 2Ac wedi cael llong yn croesi trosodd i Phœnicia#21:2 gweler 11:19; 12:20; 15:3, ni a aethom i fyny iddi#21:2 llyth: arni., ac a hwyliasom. 3Ac wedi cael golwg#21:3 llyth: Ac wedi i Cyprus ymddangos i fyny, term morwrol. Ymddengys y tir megys yn codi i fyny. ar Cyprus#21:3 gweler 4:36; 11:19–20; 13:4; 15:39, a'i gadael hi ar y llaw aswy#21:3 Yr enw Groegaidd yma am ‘law aswy’ yw ‘o enw da’ neu ‘ffortunus.’ Ystyrid yr hyn oedd ar y llaw aswy yn anffodus, ac felly mewn ofergoeledd, ni ddefnyddid y gair priodol. Rhaid fod y tywydd yn deg, pe amgen, hwyliasid rhwng Cyprus a'r Cyfandir (gweler 27:4), hwyliasom i Syria#21:3 sef y dalaeth Rhufeinig, gan gynwys Phoenicia a Phalestina., ac a diriasom yn Tyrus#21:3 Y porthladd a'r ddinas fasnachol enwog yn Phoenicia. Er wedi colli llawer o'i bri cyntefig, eto yr oedd yn lle poblog a llwyddianus. Yr oedd yn ddinas rydd. Dinystriwyd hi yn hollol gan y Saraceniaid yn 1291., canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth. 4Ac wedi dyfod o hyd#21:4 aneurontes, darganfod, cael allan ar ol dyfal ymchwiliad. i'r dysgyblion#21:4 Nid oeddent ond ychydig. Dygwyd yr Efengyl mor bell a Phoenicia a'r ol merthyrdod Stephan (11:19). Aeth Paul a Barnabas hefyd trwy yr un diriogaeth (15:3). Ymwelodd ein Harglwydd a thueddau Tyrus a Sidon (Mat 15:21; Marc 7:24). ‘Wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn.’ Salm 87:4. Yr oedd yr eglwys yn wan mewn tref boblog fasnachol. Nid yw masnach y byd wedi bod yn ffafriol i grefydd. Y mae ei safon foesol mor isel., arosasom yno#21:4 yno א B C. Brnd.: gyda hwynt A E L.La. saith#21:4 Cafodd yr ychydig fwynhau Sabbath gyda'r Apostol. Efallai fod Paul yn aros i'r llong i hwylio ar ol dadlwytho. niwrnod: a'r cyfryw rai a ddywedasent i Paul, trwy yr Yspryd#21:4 Amlygodd yr Yspryd iddynt hwy, yn ogystal ag i Paul, y rhwymid ef yno, ond eu serch a'u cariad hwy yn unig a dynai y casgliad na ddylai efe fyned i'r làn., beidio myned o hono i'r lan i Jerusalem. 5A phan ddarfu i ni gyflawnu#21:5 exartizô (yma ac yn 2 Tim 3:17, lle y dynoda cyflawn‐ddarparu, “wedi ei berffeithio i bob gweithred dda”) gorphen, cyflawnu, ‘llanw y nifer cywir,’ sef y saith niwrnod oeddent i aros yma. Rhai a gyfieithant, ‘a phan ddarparodd y dyddiau ar ein cyfer.’ Yr oedd yr un llong i'w dwyn i Ptolemais, ond yr oedd rhaid gwneud darpariaeth ar gyfer hyny. y dyddiau, ni a ymadawsom ac a gychwynasom, a phawb, ynghyd a gwragedd a phlant, yn ein hebrwng, hyd tu allan i'r ddinas; ac wedi myned ar ein gliniau ar y traeth, a#21:5 a gweadio א A B C E Brnd.: ni a weddiasom H (L) gweddio, ni a ganasom yn iach#21:5 apaspazomai, cyfarch wrth ymadael, ffarwelio. Yma yn unig yn y T.N., Nid yw yn y LXX. i'n gilydd. 6A ni a aethom i'r llong, a hwythau a ddychwelasant i'w cartref#21:6 llyth: at yr eiddynt..
7A nyni wedi gorphen ein mordaith#21:7 Nid yn ol y darlleniad cyffredin, ‘Ac wedi i ni orphen hwylio o Tyrus.’ Cyfeirir yma at yr holl fordaith o'r dechreu. O Ptolemais aethant dros y tir., o Tyrus ni a ddaethom i Ptolemais#21:7 Ar For y Canoldir, heb fod yn mhell o fynydd Carmel. Gelwir y lle Accho yn yr H.Dest. (Barn 1:31). Perthynai i Aser, ond nid ymddengys i'r llwyth gymeryd meddiant o hono. Ar ol cwymp Ymerodraeth Macedonia, syrthiodd i ran brenhinoedd yr Aipht, a galwyd ef Ptolemais ar ol un o honynt. Gelwid ef St. Jean d'Acre ar ol Rhyfeloedd y Groes. Gelwir ef Acre yn bresenol.; ac wedi cyfarch y brodyr, arosasom un diwrnod gyda hwynt. 8A thranoeth, wedi ymadael, ni#21:8 y rhai oedd gyda Phaul H L: gad א A B C E Brnd. a ddaethom i Cesarea#21:8 Dyma ei drydydd ymweliad a Cesarea, o 30 i 40 milltir o Ptolemais. Am Cesarea, gweler 8:40.; ac wedi myned i mewn i dy Philip yr Efengylydd#21:8 I'w wahanaethu oddiwrth Philip yr Apostol. Efe a enwir ar ol Stephan, o'r Saith a neillduwyd i'r swydd Ddiaconaidd (6:5). Efengylodd yn Samaria, (8:5), a bedyddiodd yr Eunuch (8:26–38). Tebygol, ar ol marwolaeth Stephan, iddo ymgartrefu yn Cesarea, a gofalu am yr Eglwys yno. Ni cheir hanes ond am dri o'r Saith, Stephan, Philip, a Nicolas. Cenadwr teithiol, heb ofal eglwys neillduol, oedd yr Efengylydd., yr hwn oedd o'r Saith#21:8 Meyer: ‘Yr Efengylydd o'r saith,’ h.y. efe oedd yr un o'r saith a lanwai swydd efengylydd., ni a arosasom gydag ef.
Prophwydesau, prophwyd, a gwron.
9Ac i hwn yr oedd pedair merch, gwyryfon#21:9 Nid oes unrhyw gyfiawnhâd i'r sefydliad Pabyddol, y Lleiandy, yn y ffaith grybwylledig. Dywed traddodiad i rai o honynt briodi., yn prophwydo#21:9 Defnyddir y gair yn ei ystyr eangaf, sef addysgu, efengylu. Dylynent yn nghamrau eu tâd. Hefyd, y mae ‘prophwydoliaeth’ Agabus yn y cysylltiad yn awgrymu eu bod hwy yn gallu rhag‐ddywedyd dygwyddiadau.. 10Ac wrth aros o#21:10 o honom E; o honynt א; gad. A B C Brnd. honom amryw#21:10 llyth: ddyddiau mwy; yn ol Wieseler, pum niwrnod. ddyddiau, daeth i waered o Judea rhyw brophwyd o'r enw Agabus#21:10 Yr un, yn ddiameu, â'r hwn a enwir yn 11:28. Ond er fod cyfeiriad blaenorol ato, eto ni welodd Luc ef o'r blaen, ac felly ysgrifena am dano fel ‘rhyw brophwyd.’. 11Ac wedi dyfod atom, a chymeryd gwregys Paul, efe a rwymodd#21:11 Rhagfynegai prophwydi yr Hen Dest. yn fynych trwy arwyddluniau; (gweler Es 20:2; Jer 13:1–10; Esec 4:1–8; 5:1; 1 Br 22:11). Meddylier hefyd am esiampl Crist pan yn golchi traed ei ddysgyblion, Ioan 13:5 ei#21:11 ei draed ei hun a'i ddwylaw א B C D Brnd.; ei ddwylaw a'i draed A. draed ei hun a'i ddwylaw, ac a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Yspryd Glân#21:11 Yn cyfateb i frawddeg yr Hen Destament, ‘Felly y dywed yr Arglwydd.’ Yr Yspryd yw Llefarwr mawr y Gyfundrefn Gristionogol., Y gwr biau y gwregys hwn, yr un modd y rhwyma'r Iuddewon#21:11 Felly y gwnaethant, a danfonwyd ef yn ol i Cesarea, lle y bu mewn rhwymau am ddwy flynedd (23:33; 24:27), ac yna danfonwyd ef yn garcharor i Rufain. ef yn Jerusalem, ac a'i traddodant#21:11 Neu, bradychant. Ffordd Crist a ‘ffordd y Groes’ oedd ffordd Paul. i ddwylaw y Cenhedloedd#21:11 Y Rhufeiniaid a'i rhwymasant; ond yr Iuddewon a'u cynhyrfasant i wneyd hyny. Felly yr un modd mewn perthynas a'r Croeshoeliad.. 12A phan glywsom y pethau hyn, nyni#21:12 Luc yn eu plith. Cyfaddefa ei wendid. a'r brodorion#21:12 llyth: rhai o'r lle. hefyd a atolygasom arno i beidio myned i fyny i Jerusalem. 13Yna yr atebodd Paul, Beth feddyliwch#21:13 llyth: ydych yn ei wneyd, yn wylo, &c. wrth wylo a llethu#21:13 sunthruptô [yma yn unig yn y T.N.], malurio, ysigo, briwo, llethu. fy nghalon? Canys parod wyf#21:13 ‘Daliwyf fy hun yn barod.’, nid yn unig i'm rhwymo, ond hefyd i farw yn#21:13 ‘i fyned i fyny i, a marw yn, Jerusalem.’ Jerusalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu#21:13 Dyma'r yspryd a brofa y wir ‘olyniaeth.’ Gosododd Crist ‘ei wyneb i fyned i Jerusalem’; felly Paul. Bu Iesu farw er mwyn y byd; yr oedd Paul yn foddlon marw er mwyn ‘yr Arglwydd Iesu,’ — ei Feistr a'i Iachawdwr. Yr oedd Luther yn yr ‘olyniaeth’ pan ar y ffordd i Lwyrwys Worms. Darllener yr hanes yn D'Aubigné, &c.. 14Ac efe heb ei ddarbwyllo#21:14 Neu, argyhoeddi., ni a dawsom a sôn gyda dywedyd#21:14 llyth: gan ddywedyd, ‘Ni a foddlonasom, aethom yn dawel.’, Ewyllys yr Arglwydd a wneler#21:14 Gwelsant fod Paul yn benderfynol ac hefyd yn iawn..
15Ac ar ol y dyddiau hyn, wedi#21:15 episkeuasamenoi [yma yn unig yn y T.N.] parotoi pethau anghenrheidiol, megys casglu ynghyd ddodrefn, ddillad, bwyd, &c. א A B E Brnd.; aposk: [gosod ymaith i gadw, storio.] Testyn Derbyniedig. gwneyd ein parotoadau#21:15 Nid yn unig casglu ynghyd ddillad, &c., ond gwneyd pob parotoad anghenrheidiol. Meddwl darlleniad y Testyn Derbyniedig yw ‘gosod yn nghadw yn Cesarea y pethau nad oedd anghen eu dwyn i Jerusalem.’, aethom i fyny i Jerusalem. 16Aeth hefyd gyda ni rai o'r dysgyblion o Cesarea, gan ein harwain at un Mnason#21:16 Yn ol yr hen gyfieithiad, yr oedd Mnason yn Cesarea, ac aeth i Jerusalem gyda hwynt. Ond y mae yn fwy naturiol darllen i'r dysgyblion fyned gyda Paul er ei gyflwyno i ofal Mnason yn Jerusalem., o Cyprus, dysgybl boreuol#21:16 Neu cyntefig. Yr oedd yn hen, nid yn gymaint fel dyn ag fel dysgybl. Efallai ei fod yn un o ‘ddysgyblion dydd y Pentecost’. Yr oedd yn gydwladwr i Barnabas, ac efallai yn un o ‘wyr Cyprus’ (11:20)., gyda'r hwn y lletyem.
Paul yn Jerusalem: ei Roesaw, ei Ymarweddiad, 12–26.
17Ac wedi ein dyfod i Jerusalem, y brodyr#21:17 Nid yr eglwys, neu yr henuriaid, fel y cyfryw, oblegyd tranoeth y cyfarfu yr olaf â hwynt; ond y credinwyr unigol, y rhai a gyfarfu â hwynt. a'n croesawsant yn llawen. 18A'r dydd canlynol yr aeth Paul i mewn gyda ni at Iago#21:18 Diameu yr un a'r Iago a nodir yn 12:17; 15:13; sef Iago ‘brawd yr Arglwydd.’ Tebygol fod yr oll o'r Apostolion yn absenol o Jerusalem ar y pryd, hyny yw, os nad yr un oedd yr Iago hwn â Iago mab Alpheus. Cyfenwid ef ‘y Cyfiawn,’ oherwydd ei fuchedd bur a'i fywyd duwiol. Cydnabyddid ef hefyd fel prif‐arolygydd Eglwys Jerusalem. Yr oedd yr henuriaid yn gynorthwywyr.; hefyd yr holl Henuriaid oeddent yn bresenol. 19Ac wedi iddo eu cyfarch, efe a adroddodd bob yn un#21:19 ‘un wrth un, bob un.’, bob un o'r pethau a wnaeth Duw#21:19 Nid yr hyn a wnaeth efe, ond yr hyn a wnaeth Duw trwyddo. yn mhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef. 20A phan glywsant, hwy a ogoneddasant Dduw#21:20 Dduw א A B C Brnd.; yr Arglwydd DH.; dywedasant hefyd wrtho, Ti a weli, frawd#21:20 Gair yn dynodi serch personol a chydnabyddiaeth swyddogol., pa sawl myrddiwn#21:20 ‘degau o filoedd,’ gan ddangos nifer mawr ond anmhenodol. Dyma ystyr muriades yn yr awduron clasurol henaf, megys Homer, &c. Yr oedd Cristionogaeth wedi llwyddo yn ddirfawr yn mhlith yr Iuddewon; ac ar y pryd hwn yr oedd Jerusalem yn llawn o honynt, o bell ac agos. Ugain mlynedd cyn hyn, yr oedd y Cristionogion yn Jerusalem tua 5,000 (4:4). sydd yn#21:20 yn mhlith yr Iuddewon א B C E La. Tr. WH.; o'r Iuddewon H L; gad. א Ti. mhlith yr Iuddewon o'r rhai sydd wedi credu, a'r oll yn selog#21:20 llyth: zelotiaid o'r Gyfraith. dros y Gyfraith o'r dechreu: 21ac hyfforddwyd#21:21 katêcheô, swnio at, dysgu trwy lafar, egwyddori, holwyddori. Yr oedd gelynion Paul wedi bod yn ddiwyd i greu syniadau cam‐arweiniol am dano. hwy am danat ti dy fod yn dysgu ymwrthodiad#21:21 neu, Ymadawiad oddiwrth. â Moses i'r holl#21:21 holl א B C; gad. A D E. Iuddewon sydd yn mysg y Cenhedloedd, gan ddywedyd wrthynt beidio enwaedu ar y plant na rhodio wrth y defodau#21:21 arferiadau, sefydliadau y Ddeddf Seremoniol. Nid hyn oedd dysgeidiaeth Paul. Rhybuddiai y credinwyr rhag athrawiaeth beryglus y gau‐athrawon, y rhai a ymdrechent eu dwyn yn ol i gaethiwed y Ddeddf, gan ddysgu fod cadw y defodau yn anhebgorol i gyfiawnhad a derbyniad ger bron Duw. Yn erbyn hyn y gwrth‐dystiai Paul. Ni ddysgodd mewn unrhyw fan y dylai y Credinwyr Iuddewig beidio enwaedu ar eu plant, &c. Darllener yn fanwl 1 Cor 7:18–20. Talai Paul ei hun sylw i'r defodau; eilliodd ei ben yn Cenchrea, enwaedodd ar Timotheus, &c.. 22Pa beth gan hyny sydd#21:22 llyth: Pa beth gan hyny ydyw? Beth yw y sefyllfa? Sut y mae y mater yn aros? Pa beth dan yr amgylchiadau a wneir? i'w wneyd? [Rhaid]#21:22 Rhaid dyfod o luaws ynghyd א A C2 E. La. Ti.; gad. B C Tr. WH. Diw, y rhai a ddarllenant ‘yn ddios hwy a glywant dy fod wedi dyfod.’ yn ddios [ddyfod o luaws ynghyd]: clywant dy fod wedi dyfod. 23Gwna gan hyny yr hyn a ddywedwn wrthyt: Y mae genym bedwar gwr#21:23 y rhai oeddent gredinwyr. a chanddynt adduned#21:23 yn debyg, yr adduned Nazireaidd (Num 6:1–21). Yr oedd yn adduned o ‘ymneillduad at yr Arglwydd’ trwy ymwrthod â gwin, gadael y gwallt i dyfu, &c. Ar ddiwedd ei chyflawniad, offrymid aberthau pwysig (Num 6:13–15), ac eillid y gwallt a llosgid ef yn y Deml yn nhân yr aberthau. arnynt: 24cymer y rhai hyn atat: glanhaer#21:24 agnizô, glanhâu neu buro yn seremoniol trwy olchiadau, gwin-ymataliaeth, offrymau, gweddïau, &c. Hwn yw y gair yn y LXX. yn Num 6:3 am yr adduned Nazireaidd. Ystyr y gair Hebraeg yw ‘neillduo,’ ‘cysegru.’ di gyda hwynt#21:24 Y mae yn amlwg i Paul gyfranogi yn yr adduned, ac nid yn unig ymddangos gyda'r pedwar yn y deml, a thalu y draul drostynt. Rhai a farnant ei fod dan adduned yn barod. Gwnaeth un gyffelyb o'r blaen (18:18).; a thâl y draul#21:24 Yr oedd dynion cyfoethog yn fynych yn dangos eu zel dros y Gyfraith trwy dalu treulion cyflawniad addunedau rhai tlodion. Eillio y pen oedd y weithred olaf, gan ddangos fod yr adduned ar ben. Ac i hyn yr oedd yn anghenrheidiol i Paul dalu am 16 o anifeiliaid ac am offrymau eraill, a sefyll yn eu hymyl pan yr aberthid y rhai hyn. Crybwylla Josephus am Herod Agrippa yn talu treulion llawer o'r addunedwyr Nazireaidd. drostynt, fel yr eilliont eu penau; a phawb a ddeuant i wybod nad oes dim yn y pethau yn y rhai yr hyfforddwyd hwynt am danat#21:24 llyth: ‘o'r pethau yr hyfforddwyd hwynt am danat nid oes dim?, eithr dy fod dy hun yn rhodio#21:24 stoicheô, term milwrol, rhodio yn y rheng, yn ol y rheol, cadw yn y linell, rhodio yn rheolaidd. gan gadw y Gyfraith. 25Ond am y Cenhedloedd crediniol#21:25 llyth: sydd wedi credu., nyni a ddanfonasom#21:25 ddanfonasom trwy lythyr [epesteilamen] A א C E Ti. Al. Diw.; ddanfonasom trwy genad [apesteilamen] B D Ti. WH. genadwri#21:25 gweler 15:20, &c., gan farnu iddynt#21:25 na bo iddynt gadw dim o'r cyfryw beth C D E; gad. א A B Brnd. ymgadw rhag yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a'r hyn a dagwyd, a phuteindra. 26Yna Paul a gymerodd y gwyr ato ei hun, a'r dydd nesaf gan ymlanhâu gyda hwynt, efe a aeth i mewn i'r Deml; gan hysbysu#21:26 i'r offeiriad. Yr oedd Paul i hyspysu yr amser y terfynai yr adduned er mwyn i'r offeiriad wneyd y parotoadau anghenrheidiol gyda golwg ar yr offrymau, &c. cyflawniad dyddiau y glanhâd, hyd nes yr offrymwyd yr offrwm dros bob un o honynt.
Yr Iuddewon yn ymosod arno.
27A phan yr oedd y saith#21:27 Nid wythnos y Pentecost. Ni chynelid yr Wyl hon am saith niwrnod fel y Pasc. Nid yr wythnos gyntaf ar ol dyfodiad Paul i'r Ddinas; nac amser parhad adduned y pedwar gwyr; ond yr amser o'r adduned heb ei gyflawnu pan yr unodd Paul â hwy. Dywed y Mishna na ellid gwneyd adduned am lai na deg diwrnod‐ar‐ugain. niwrnod ar gael eu cyflawnu, yr Iuddewon o Asia#21:27 o Asia Leiaf, yn neillduol o gymydogaeth Ephesus., pan welsant#21:27 gan syllu yn syn arno. Golyga y ferf edrychiad synfawr. ef yn y Deml, a derfysgasant#21:27 llyth: a dywalltasant ynghyd, a gymysgasant, taflu i benbleth, gan wneyd Babel o'r Deml. yr holl dyrfa, ac a ddodasant ddwylaw arno, 28gan waeddi, O wyr Israel, cynorthwywch#21:28 fel pe buasai anfadwaith wedi ei gyflawnu; a'r ymosodwyr hyn yr ymosodedig.: hwn yw y dyn sydd yn dysgu pawb yn mhob man yn erbyn y Bobl#21:28 enw anrhydeddus Israel [laos]. Hwn yw y gair a ddefnyddir am y ‘bobl briodol’ yn unig. Dêmos yw cynulliad rheolaidd o'r Cenhedloedd. a'r Gyfraith a'r Lle#21:28 Jerusalem, ac yn enwedig y Deml. Dygwyd yr un cyhuddiad yn erbyn Stephan, a chymerodd Paul ran ynddo (6:12, 14). Stephan oedd rhag‐redegydd Paul. hwn; yn mhellach, dygodd y Groegiaid#21:28 yn gynrychiadol o'r Cenhedloedd ac yn wrth‐gyferbyniol i'r Iuddewon. Dywed Philo fod marwolaeth sicr yn aros unrhyw un ond Iuddew a osodai droed o fewn Cyntedd Tufewnol y Deml; a dywed Josephus fod rhybudd i'r perwyl mewn ar‐ysgrifen Roeg a Lladin ar y pileri rhwng y ddau Gyntedd. hefyd i'r Deml, ac y mae wedi halogi y Lle Sanctaidd#21:28 Cyhuddwyd Paul fel Crist ar gam ynghylch y Deml; yr olaf o'i thynu i lawr, a'r blaenaf o'i halogi. llyth: ei wneyd yn gyffredin, yn le i bawb. Ei amcan oedd, nid gwneyd ty Dduw yn gyffredin, ond ei gyffredinolt. hwn. 29Canys yr oeddent wedi dal sylw ar Trophimus#21:29 Felly daeth Trophimus gyda'r Apostol yr holl ffordd, er y dywedir i'r brodyr fwriadu eu hebrwng hyd yn Asia (20:4)., yr Ephesiad, yn y Ddinas gydag ef, yr hwn a dybient#21:29 Y mae cyhuddiadau'r byd yn erbyn pobl Dduw yn sylfaenedig ar fympwyon a thybiadau isel a chyfeiliornus. Nid oes ffeithiau dan eu traed. i Paul ei ddwyn i'r Deml. 30A chynhyrfwyd y Ddinas oll, a'r bobl a redasant ynghyd#21:30 llyth: ‘a bu cyd‐rediad o'r bobl,’ h.y. i'r un lle.; ac wedi ymaflyd yn Paul, hwy a'i llusgasant ef tu allan i'r Deml: ac yn y man y cauwyd y drysau#21:30 Fel na halogid y Deml gan waed Paul, yr hwn y bwriedid ei ladd. Eraill: (1) fel nas gallai Paul geisio nodded ‘cyrn yr allor’ (1 Br 1:50, 53; 2:28); (2) er rhoddi i fyny yr addoliad am dymhor..
Y Milwriad Rhufeinig yn ymyraeth.
31Ac a hwy yn ceisio ei ladd ef, aeth hysbysiad#21:31 phasis, adroddiad, hanes, newydd, gair. Mewn Groeg clasurol; ‘Y cyhuddiad ffurfiol a roddir o flaen llys.’ i fyny#21:31 Ar adegau pwysig, pan yr ymdyrai yr Iuddewon i'r Ddinas, cedwid y gwarchodlu Rhufeinig dan arfau yn Nhwr neu Gastell Antonia, yr hwn a safai ar fryn Acra yn ymyl congl Ogledd‐orllewinol y Deml. Adeiladwyd ef gyntaf gan y Tywysogion Asmoneaidd, ond ail‐adeiladwyd ef ar raddfa eang gan Herod Fawr, a galwodd ef Antonia, o barch i Marc Antoni, y llywodraethwr Rhufeinig. Elid i gynteddau'r Deml o hono ar hyd dwy res o risiau llydain. at Filwriad#21:31 Chilarchos, ‘cadben ar fil’ (gweler Marc 6:20). Claudius Lysias oedd enw hwn (23:26). y gatrawd#21:31 Catrawd (byddin, cadlu) oedd un ran o chwech o leng, sef 6,000 o filwyr. Yr oedd i bob lleng chwech cadben (neu tribun, tribune). fod Jerusalem oll mewn terfysg: 32yr hwn allan o law a gymerodd#21:32 a gymeroda ato [paralabôn]. filwyr a Chanwriaid, ac a redodd i waered arnynt: hwythau, pan welsant y Milwriad a'r milwyr, a beidiasant a churo Paul. 33Yna yr agoshaodd y Milwriad, ac a'i daliodd#21:33 dal yn ffurfiol, gosod mewn dalfa. ef, ac a orchymynodd ei rwymo â dwy gadwyn#21:33 Ar y foment ystyriai y Milwriad Paul yn adyn peryglus. Efallai iddo gael ei rwymo wrth ddau filwr (12:6). Dyma gyflawniad o'r brophwydoliaeth (20:23) ac yn sicrhâd iddo fod yr hyn a ddywedodd yr Yspryd yn wir., ac a ymofynodd pwy allai fod, a pha beth oedd wedi ei wneyd. 34A rhai a lefent un peth, ac eraill beth arall#21:34 llyth: ‘Ac eraill oeddent yn llefain beth arall’ (gweler 19:32). Yr un gair, ‘llefain,’ a ddefnyddir am waedd y dyrfa, ‘Croeshoelier ef,’ Luc 23:21; hefyd yn Act 12:22., yn y dyrfa; a chan na allai wybod yn sicr#21:34 llyth: y sicr, sicrwydd; gwir sefyllfa pethau. o herwydd y cythrwfl, gorchymynodd ei ddwyn i'r gwersyll‐dy#21:34 parembolê, gwersyll (yr Israeliaid, Ex 29:14, &c.), lluestau (barracks) y milwyr Rhufeinig o fewn Twr Antonia; byddin mewn rhyfel (Heb 11:34; Dad 20:9).. 35A phan ddaeth efe ar y grisiau#21:35 oedd yn arwain o'r Deml i Dwr Antonia., dygwyddodd y fath, fel y darfu iddo gael ei gario gan y milwyr o achos trais y dyrfa; 36canys yr oedd lluaws y bobl yn canlyn, gan waeddi, Ymaith ag ef#21:36 yr un waedd am waed y Meistr a'r gwas, Luc 23:18; Ioan 19:15.!
37Ac fel yr oedd efe ar gael ei arwain i'r gwersyll‐dŷ, Paul a ddywed wrth y Milwriad, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt#21:37 neu, ‘A gaf fi ddywedyd,’ &c.? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg? 38Nid tydi#21:38 Clywodd y Milwriad ef yn llefaru Groeg, ac felly casglodd mai nid yr Aiphtiwr oedd wedi'r cwbl., ynte, yw yr Aiphtiwr#21:38 Rhydd Josephus hanes hwn, er fod ei gyfrif o hono i raddau yn anghyson. Dywed mewn un man ei fod yn arweinydd 30,000, ac mewn man arall, 400; ond gallasai fod ar wahanol adegau. Gau‐brophwyd ydoedd. Dywedodd y syrthiai muriau Jerusalem o'i flaen. Daeth hyd Fynydd yr Olew‐wydd; aeth Ffelix allan yn ei erbyn, a llwyr‐orchfygodd ef. Lladdwyd llawer o'i ganlynwyr, ond diangodd efe ei hun. (Josephus: Hynafiaethau, xx. 8:6; Rhyfeloedd yr Iuddewon, ii. 13:5)., yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gododd wrthryfel ac a arweiniodd i'r anialwch y pedair mil o'r Brad‐lofruddiaid#21:38 Sikarioi, o'r Lladin sica, ‘dagr,’ am fod y dynion hyn yn cuddio byr-gleddyf o dan eu gwisg, er mwyn llofruddio pobl yn ddiarwybod. Yr oedd minteioedd o'r yspeilwyr hyn yn Mhalestina. Dygent yn mlaen eu hanfadwaith oleu dydd yn Jerusalem. Yn mhlith eraill, llofruddiasant Jonathan yr Arch‐offeiriad.? 39Ond dywedodd Paul, Myfi yn wir wyf ddyn o Iuddew, o Tarsus#21:39 llyth: Tarsead, Tarsus oedd prif‐ddinas Cilicia, ac yn gartrefle gwareiddiad a gwybodaeth., dinesydd o ddinas nid anenwog yn Cilicia; ond deisyfaf arnat ti, caniata i mi lefaru wrth y bobl#21:39 laos. Er mor greulon y driniaeth a gafodd, defnyddia am danynt yr enw anrhydeddus, ‘y Bobl’ (briodol).. 40Ac wedi iddo ganiatâu, Paul, gan sefyll ar y grisiau#21:40 Dyma risiau newydd i ddefnyddioldeb ac enwogrwydd., a amneidiodd â'i law ar y bobl; ac wedi cael dystawrwydd dwfn#21:40 ‘A dystawrwydd lawer [dwfn] wedi dyfod.’, efe a lefarodd yn y briod‐iaith Hebraeg#21:40 Aramaeg, neu Syro‐Celdaeg., gan ddywedyd,
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Actau 21: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.

: