Actau 19
19
Y Deuddeg Dysgybl yn Ephesus.
1A dygwyddodd, tra yr oedd Apollos yn Corinth, wedi i Paul dramwy trwy y parthau uchaf#19:1 hyny yw, y parthau yn y canoldir, yn mhell oddiwrth y môr; efallai Phrygia a Galatia, neu y wlad (fynyddig) rhyngddynt ac Ephesus., ddyfod o hono i Ephesus, a chael rhyw ddysgyblion#19:1 Defnyddir y gair yn gyffredin am ddysgyblion Crist, Cristionogion, felly yma, er eu bod yn anwybodus iawn.; 2ac efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch#19:2 Y mae y ddwy ferf ‘dderbyniasoch,’ ‘credasoch’ yn yr un amser, ac yn cyfeirio at yr un adeg. Felly y mae ‘er pan gredasoch’ yn anghywir. chwi yr Yspryd Glân#19:2 Defnyddir ‘Yspryd Glân’ yma heb y fannod, ac felly yn fynych golyga ei weithrediadau, ei ddylanwad, &c., yn hytrach na'i Bersonolrwydd. ‘A dderbyniasoch chwi ei ddylanwad’? pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Na, ni chawsom ni gymaint a chlywed a oes Yspryd Glân#19:2 Nid priodol cyfieithiad y Diwygwyr Seisnig, ‘Ni chawsom ni gymaint a chlywed pa un a roddwyd yr Yspryd Glân.’ Er fod Ioan wedi cyhoeddi y byddai i'r Messia fedyddio â'r Yspryd Glân, eto y mae yn amlwg nad oedd gan y dynion hyn ond syniadau niwliog am Berson a gwaith yr Yspryd. Beth bynag, ni wyddent ddim am ei Dywalltiad ar Ddydd y Pentecost a'i weithrediadau yn yr Eglwys Apostolaidd.. 3Ac efe a ddywedodd, I ba beth gan hyny y'ch bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan#19:3 Sef i grediniaeth o'r gwirioneddau a bregethai a'r rhai a arwyddlunid yn ei Fedydd, yn enwedig Dyfodiad y Messia, a'r anghenrheidrwydd o Edifeirwch. Dyma y crybwylliad olaf am Ioan, yn y Testament Newydd. Cilia o'r golwg er mwyn i Grist fod ‘oll yn oll.’. 4A dywedodd Paul, Ioan a fedyddiodd a bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr Hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef, hyny yw, yn yr Iesu#19:4 Crist Iesu HL.; Iesu א A B E Brnd. 5A phan glywsant hyn, hwy a fedyddiwyd i enw yr Arglwydd Iesu#19:5 Rhai a ddeallant y geiriau hyn fel parhâd o eiriau Paul, gan roddi esboniad ar Fedydd Ioan, ‘Ar bobl, i'r rhai y pregethai Ioan, a fedyddiwyd ganddo i enw yr Iesu, y Messia, dyfodiad yr hwn a gyhoeddai.’ Eraill (Calvin, &c.), a ddywedant mai Bedydd yr Yspryd a olygir yma ‘a fedyddiwyd i enw yr Arglwydd Iesu.’ Barn y mwyrif mawr o Esbonwyr yw fod y dysgyblion hyn wedi cael goleuni newydd dan hyfforddiad Paul, ac wedi ewyllysio cael eu bedyddio drachefn, ‘A phan glywsant,’ &c. Nid oes son am ail fedyddiad Apollos, ac nid yw yn debyg iddo gymeryd lle. Fel rheol, nid oedd anghenrheidrwydd ail‐fedyddio dysgyblion Ioan pan y deuent yn ganlynwyr Crist; ac os cafodd y deuddeg hyn eu hail‐fedyddio, ffurfient yr eithriad ac nid y rheol.. 6A Phaul yn gosod dwylaw arnynt, daeth yr Yspryd Glân#19:6 Derbyniodd Cornelius yr Yspryd cyn ei fedyddio, y dysgyblion hyn ar ol hyny. Yr oedd hwn yn dywalltiad Pentecostaidd, ac a gyfrifa am y llwyddiant mawr a ddylynodd. Tafodau, dadganiadau ysprydoledig a dyrchafedig, yn hytrach efallai na llefaru mewn ieithoedd dyeithr. Proffwydasant, cawsant oleuni ysprydol fel ag i ddeall natur ac amcan mawr y grefydd Gristionogol. arnynt, a llefarasant a thafodau, ac a broffwydasant. 7Ac yr oeddent oll tua deuddeg gwr.
Dysgeidiaeth a gwyrthiau Paul yn Ephesus. Ymgais meibion Scefa, 8–20.
8Ac efe a aeth i mewn i'r Synagog, ac a lefarodd yn hyf am dri mis, gan ymresymu a pherswadio#19:8 Neu, darbwyllo. Dynoda ‘ymresymu’ a ‘pherswadio’ ei bregethu athrawiaethol ac ymarferol, addysgiadol a chynghorlawn; neu, efallai, natur ei waith a'i ganlyniadau. ynghylch#19:8 y pethau [ta] א A E Ti. Al. Diw.; gad. BD, hen gyf. La. Tr. WH. Teyrnas Dduw. 9A phan yr oedd rhai wedi ymgaledu ac yn anufydd#19:9 ‘Ac yn gwrthod ufydd‐dod,’ neu ‘yn parhau i anghredu.’, gan ddywedyd yn ddrwg am Y Ffordd#19:9 Y Grefydd Gristionogol. Gweler 9:2 gerbron y lluaws, efe a ymadawodd#19:9 llyth: safodd ymaith, neu draw; ‘efe a gefnodd arnynt,’ ‘a giliodd oddiwrthynt.’ oddiwrthynt, ac a wahanodd#19:9 Neu, ‘a gynullodd y dysgyblion ar wahan.’ y dysgyblion, gan ymresymu yn ddyddiol yn Ysgol Tyrannus#19:9 Nid oes sicrwydd pwy oedd Tyrannus, pa un ai Rheithegydd Cenhedlig, neu ynte Rabbi Iuddewig, a chanddo Synagog o'i eiddo ei hun. Nid oedd y fath Synagog yn sefydliad anghyffredin. Gelwid hi Beth Midrasch. Rhyw ystafell areithio oedd yr Ysgol hon. Enw Groegaidd oedd Tyrannus. Nid oedd y Synagog yn agored ond teirgwaith yr wythnos.#19:9 un [Tyrannus] D E H L; gad. א A B.. 10A bu hyn am ddwy#19:10 Bu am dri mis yn pregethu yn y Synagog, ac am ddwy flynedd yn Ystafell Tyrannus. Gwna yspaid y dygwyddiadau a nodir ar ol adnod 20 ynghyd a'r ddwy flynedd a'r tri mis, y tair blynedd a grybwyllir yn 20:31. Yn y cyfnod hwn, yn debygol, y sefydlwyd ‘Saith eglwys Asia.’ Yr Asia yma oedd y dalaeth dan y Rhaglaw Rhufeinig. Ephesus oedd ei phrif‐ddinas. Dywed Pliny yn ei Lythyrau (haner can mlynedd ar ol hyn) fod Bithynia ‘wedi ei llanw’ â'r Efengyl. flynedd, hyd oni ddarfu i bawb oedd yn trigo yn Asia glywed Gair yr Arglwydd, yn Iuddewon a Groegiaid hefyd. 11A Duw a wnaeth weithredoedd nerthol#19:11 llyth: alluoedd. anarferol#19:11 llyth: na ddygwyddent [yn fynych], allan o'r cyffredin, yna, neillduol. trwy ddwylaw Paul: 12hyd oni ddygid ymaith at y cleifion#19:12 llyth: gweiniaid. oddiwrth ei gorph#19:12 Chrôs, arwynebedd y corph, y croen. napcynau#19:12 Sudarion, o'r gair Lladin Sudarium, gan olygu llian chwys, a gyfieithir ‘napcyn’ yn Luc 19:20; Ioan 11:44; 20:7. neu arffedogau#19:12 simikinthia, eto o'r Lladin semicinctium, haner gwregys, hyny yw, yr hyn a wisgir dros haner blaen y corph, felly, arffedog; yma, arffedog y gweithiwr, yr hon yn ddiameu a wisgai Paul ei hun pan yn gwneuthur pebyll (20:34)., ac yr ymadawai y clefydau â hwynt#19:12 Parhaodd y gallu gwyrthiol hwn am gryn amser. Ephesus oedd canolfan y rhai a ffugient eu bod yn meddu gallu i wneyd pethau cyffelyb (13, 19). Y mae Paul yn eu gyru i'r cysgod trwy ei wyrthiau synfawr, fel y gorthrechodd Moses swynwyr yr Aipht a Daniel ser‐ddewinwyr Caldea. Y mae gwyrthiau Paul yma o'r un natur a'r rhai a gynyrchwyd gan gyffyrddiad ag ymyl gwisg Crist, a chan gysgod Petr (5:15)., a'r ysprydion drwg#19:12 Brawddeg Luc. Dywed yr Efengylwyr eraill, ‘ysprydion aflan.’ a aent allan. 13A rhai hefyd o'r Iuddewon crwydrol#19:13 llyth: myned o amgylch, yna, teithiol, crwydraidd., consurwyr#19:13 Exorkistes, tynghedwr, swynwr, swyngyfareddwr, consurwr, un yn enwedig a ddefnyddiai enw Duw i fwrw allan gythreuliaid. Yr oedd y tynghedwyr hyn yn lluosog iawn yn mhlith yr Iuddewon yr adeg yma. Yr oedd rhai o honynt yn ymddangos yn llwyddianus, fel yr awgryma geiriau Crist, ‘Trwy bwy y mae eich meibion chwi yn eu bwrw hwynt allan?’ (Mat 12:27). Dywedent fod y gallu hwn wedi ei roddi iddynt oddiar ddyddiau Solomon, am allu yr hwn yn y cyfeiriad hyn yr ysgrifena Josephus yn lled helaeth. Dynwared Paul wnelai y consurwyr hyn. Cymharer Marc 5:7; 1 Thess 5:27., a ymgymerasant ag enwi uwchben y rhai a chanddynt yr ysprydion drwg enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr#19:13 Yr wyf yn eich tynghedu א A B D E Brnd.; Yr ydym, &c. H L. wyf yn eich tynghedu trwy yr Iesu yr hwn y mae Paul yn ei bregethu. 14Ac yr oedd saith#19:14 Ac yr oedd rhyw saith o feibion Scefa, &c. א A Ti. Al.; fel yn y testyn, B D E, Tr. WH.; Diw. mab rhyw Scefa, Iuddew, Arch‐offeiriad#19:14 Ni wyddis dim am dano. Rhai a farnant ei fod yn ben un o'r 24 dosparthiadau offeiriadol: eraill, mai un wedi bod yn Arch‐offeiriad ydoedd; eraill, mai Arch‐offeiriad yn Nheml Diana oedd, ac felly yn Iuddew gwrthgiliedig., yn gwneuthur hyn. 15A'r yspryd drwg a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod#19:15 adnabod — adwaen. Dynoda ginôkô wybodaeth a gynyrcha deimlad yn y meddwl, megys o barch, &c., cydnabod; epistamai, wybodaeth o ffaith, heb gynyrchu y fath deimlad. ‘Yr Iesu yr wyf yn gydnabod, â Phaul yr wyf yn gydnabyddus.’ Rhai tebyg i Simon Magus oedd yr rhai hyn., a Phaul a adwaenwyf#19:15 adnabod — adwaen. Dynoda ginôskô wybodaeth a gynyrcha deimlad yn y meddwl, megys o barch, &c., cydnabod; epistamai, wybodaeth o ffaith, heb gynyrchu y fath deimlad. ‘Yr Iesu yr wyf yn gydnabod, â Phaul yr wyf yn gydnabyddus.’ Rhai tebyg i Simon Magus oedd yr rhai hyn., eithr pwy ydych chwi? 16A'r dyn yn yr hwn yr oedd yr yspryd drwg, a neidiodd arnynt, a feistrolodd y#19:16 y ddau א A B D Brnd.; hwynt H L. ddau#19:16 Dau o'r saith oedd yn flaenllaw yn y weithred hon., ac a orthrechodd yn eu herbyn, fel y ffoisant hwy allan o'r tŷ hwnw yn noethion ac yn archolledig. 17A hyn a aeth yn hyspys i bawb, Iuddewon a Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Ephesus, ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd#19:17 ‘a barhâodd i gael ei fawrygu.’. 18A llawer o'r rhai oedd wedi credu#19:18 Neu, ‘o'r credinwyr,’ y rhai yr oedd eu proffes yn rhagorach na'u hymarferiad. a ddaethant gan gyffesu a dadgan eu gweithredoedd#19:18 Neu, ymwneydiadau, yn enwedig a'r dewinwyr, a'r swynwyr. Defnyddir praxeis, ‘gweithredoedd,’ yma am fuchedd ddrwg, fel yn Luc 23:51. Nid oes sail i'r dyb fod yr adnod hon yn ddesgrifiad o ddychweliad credinwyr i Ephesus, fel y 70 gynt at yr Iesu, gan fynegu y pethau mawrion a'r ‘gweithredoedd’ gogoneddus a wnaethant ar eu teithiau cenadol.. 19Ac amryw#19:19 llyth: digon. o'r rhai a arferasant swyn‐ddewiniaeth#19:19 periergos, un yn ymwneyd a phethau dibwys, un ofer‐lafurus (1 Tim 5:13); ta perierga, pethau dianghenrhaid neu anmherthynasol; yna, y celfyddydau cudd er cael allan beth oedd gan y duwiau yn ystôr, swynyddiaeth. Yr oedd Ephesus yn enwog am hyn. Yn fynych ysgrifenid geiriau ar femrwn, y rhai a gylymid am y fraich, yr arddwrn, &c., y rhai a ystyrid fel swyn i gadw ymaith ysprydion drwg, &c. Gelwid y rhai hyn, Ephesia grammata, ‘Llythyrenau Ephesaidd.’ a gasglasant eu llyfrau#19:19 Y mae gwir grefydd yn llosgi llyfrau drwg. Yn eu lle cafodd Ephesus lyfrgell well. Cafodd lythyr anghydmarol Paul at yr Ephesiaid. Yr oedd Timotheus yno pan yr ysgrifenodd Paul ei ddau Epistol ato. Dymunodd Paul, pan ar fin merthyrdod, ar Timotheus i ddwyn o Asia i Rufain, yn debygol, ei ysgrifeniadau ei hun, er eu hymddiried drachefn i ofal Timotheus, y rhai, efallai, a gludwyd yn ol i Ephesus ar ol marwolaeth Paul. Yma y darllenwyd gyntaf Ddadguddiad aruchel Ioan, ac y gwerthfawrogid fwyaf ei Epistolau. ynghyd, ac a'u llosgasant yn ulw#19:19 llyth: llosgasant i lawr, yn hollol. yn ngwydd pawb: a hwy a gyfrifasant eu pris hwynt, ac a'i cawsant yn ddeng mil a deugain o ddarnau arian#19:19 Sef y drachma, yr hwn oedd werth denarion, tua wyth a dimai o'n harian ni. Yr oeddent felly yn werth tua £1,800!. 20Mor rymus y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd!
Y Cythrwfl yn Ephesus, 21–41.
21A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd#19:21 llyth: gosododd. Am fwriad drwg gofynir ‘Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon?’ 5:4. Paul yn yr yspryd#19:21 Neu, yn yr Yspryd, dan ei gynhyrfiad a'i gyfarwyddyd., wedi iddo dramwy trwy Macedonia ac Achaia#19:21 y ddwy dalaeth fawr i'r rhai y rhanwyd Groeg pan y gorchfygwyd hi gan Rufain., fyned i Jerusalem#19:21 Prif‐ddinas grefyddol y byd. Dymunai fyned yno a'r casgliad at y tlodion yn eglwysi Judea., gan ddywedyd, Wedi i mi fod yno, rhaid i mi weled Rhufain#19:21 Prif‐ddinas wladwriaethol y byd, gweler Rhuf 1:13; 15:23–28. Ni fu gan Alexander neu Napoleon gynllun eangach neu aruchelach na'r ‘Benjaminiad bychan’ hwn. Myn y byd wrth draed y Nazaread! Yr adeg hon yr ysgrifenodd ei Epistol Cyntaf at y Corinthiaid, ac, efallai, talodd ail ymweliad a Chorinth (2 Cor 12:14). hefyd. 22Ac wedi anfon i Macedonia#19:22 Efallai i Philippi a Thessalonica, er hyrwyddo y casgliadau at y saint tlodion. ddau o'r rhai oedd yn gweini iddo, Timothëus ac Erastus#19:22 Nid yn debygol mai yr un oedd hwn ag Erastus, ystafellydd neu drysorydd Corinth (Rhuf 16:23; 2 Tim 4:20)., efe ei hun a ddaliodd#19:22 Neu, a arosodd. yn mlaen beth amser#19:22 Efallai hyd Pentecost (1 Cor 16:8). yn#19:22 llyth: i Asia. Er iddo wneyd Ephesus ei brif aros‐le, eto, helaethai gylch ei waith, trwy wthio yn mlaen ‘i gyfeiriad’ Asia. Asia. 23A dygwyddodd yn y tymhor hwnw gynhwrf nid bychan ynghylch y Ffordd#19:23 gweler 9:2; 24canys rhyw Ddemetrius#19:24 o Demeter, enw Groegaidd y dduwies Ceres, gweler 3 Ioan 12 wrth ei enw, gôf arian, yn gwneuthur cysegrau#19:24 Neu, temlau. Yr oeddent yn gynlluniau [models] bychain o'r deml fawr, neu o Diana ar ei gorsedd, y rhai a werthid yn rhwydd i dyrfaoedd o bererinion i'r ddinas ac eraill. arian o Diana#19:24 Neu Artemis (yn y Groeg). Yr oedd Artemis yr Ephesiaid yn wahanol i eiddo y Groegiaid. Arddangosir yr olaf fel helyddes brydferth a bywiog ac hefyd fel lloer‐dduwies (Luna); tra yr oedd y blaenaf yn bersonoliad o Natur fel y Fam gyffredinol a'r gallu mawr cynyrchiol, ac felly yr oedd ei delw yn llawn bronau. Duwies Asiaidd neu Aiphtaidd oedd hon. Duwies y Groegiaid yn y nef a elwid Luna, yn y coed, Diana, ac yn Hades, Hecate., a roddai i'r crefftwyr waith#19:24 ergasia, gwaith, yna, elw a geid oddiwrth waith. nid ychydig; 25y rhai a gynullodd efe ynghyd a'r rhai oeddent weithwyr y cyfryw bethau#19:25 Sef ei grefftwyr ei hun, ac eraill o'r un alwedigaeth., ac a ddywedodd, O wyr, chwi a wyddoch mai allan o'r gwaith#19:25 Neu, trafnidiaeth, crefft. hwn y mae i#19:25 i ni lwyddiant א A B C D E Brnd.; ein llwyddiant H L. ni lwyddiant#19:25 euporïa, mynediad rhwydd, yna, llwyddiant, ffyniant.; 26a chwi a welwch ac a glywch, nid yn unig yn Ephesus, eithr bron drwy holl Asia#19:26 Y fath deyrnged i lafur Paul a llwyddiant yr Efengyl!, i'r Paul hwn ddarbwyllo a gŵyr‐droi lluaws mawr, gan ddywedyd nad ydyw y rhai a wneir â dwylaw yn dduwiau. 27Ac nid yn unig y mae perygl fod hon, sef ein trafnidiaeth#19:27 llyth: rhan, yna, canghen o drafnidiaeth, gorchwyl. ni, yn myned yn wrthodedig#19:27 llyth: [yn dyfod i] wrth‐brofiad ar ol ymchwiliad, yna, gwrthodiad, anfri, dirmyg., ond hefyd fod Teml#19:27 Yr oedd hon yn un o saith rhyfeddod y byd. Cymerodd 200 mlynedd i'w hadeiladu. Cymerwyd rhan yn hyny gan ddinasoedd Asia. Llosgwyd hi gan Herostratus y noson y ganwyd Alexander Fawr, C.C. 355. Ail‐adeiladwyd hi yn deml ardderchocach fyth gan Cheirocrates gyda holl Asia yn cynorthwyo. Yr oedd iddi 127 o golofnau — pob un o honynt yn rodd brenhin — yn 60 troedfedd o uwchder. Dygwyd saith o'r rhai hyn, rhai o jasper, i fod yn golofnau yn St. Sophia, Caercystenyn. Nid oes dim heddyw i ddangos y lle y safai yr adeilad gorwych hwn. Dinystriwyd hi gan y Gothiaid B.H. 260. y dduwies fawr Diana i gael ei chyfrif yn ddyddim, a bod hithau ar gael ei thynu i lawr o'i#19:27 o'i mawrhydi א A B E Brnd.: ei mawrhydi [ar gael ei dynu i lawr] H L; gad. D. mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a'r byd trigianol yn ei haddoli#19:27 Y fath orchudd yw crefydd i gribddeiliaeth a llawer o bechodau eraill!. 28A phan glywsant, a myned yn llawn o ddigofaint, gwaeddasant#19:28 dechreuasant a pharhasant i waeddi, [amser anmherffaith]., gan ddywedyd, Mawr#19:28 Dyma deitl neillduol Diana. Adnabyddid hi wrth hwn. Mewn arysgrifen a ddarganfyddwyd yn Ephesus yn 1877, desgrifir hi Y dduwies fwyaf. yw Diana yr Ephesiaid! 29A'r ddinas#19:29 holl E H L; gad. א B L Brnd. a lanwyd â'r terfysg; a rhuthrasant yn unfryd i'r chwareu‐dy#19:29 Theatron, golygfan, lle i weled campau, golygfeydd, chwareuon, &c.; felly chwareu‐dy. Yr oedd yn arferiad yn mhlith y Groegiaid (ond nid yn mhlith y Rhufeiniaid) i ddefnyddio eu chwareu‐dai er trin materion cyhoeddus. Yr oedd yn fath o neuadd y dref. Yr oedd chwareu‐dy Ephesus o faint aruthrol. Yr oedd yn ddigon i gynwys 56,000 o bobl. A orfu i Paul yma ar ol hyn ymladd ag anifeiliaid gwylltion? (1 Cor 15:32)., wedi cipio gyda hwynt Gaius#19:29 Gaius. Enwir pedwar o'r enw yn y T.N., Gaius o Derbe (20:4); Gaius o Corinth (1 Cor 1:14; Rhuf 16:23); Gaius, yr hwn a anerchir gan Ioan yn ei drydydd Epistol: a hwn. ac Aristarchus#19:29 o Thessalonica (20:4; 27:2), yr hwn a gyd‐garcharwyd a Paul, Col 4:10; Philemon 24, Macedoniaid, cyd‐ymdeithion#19:29 llyth: rhai allan o'r wlad neu o dre, yna, cyd‐ymdeithwyr. Paul. 30A Phaul yn ewyllysio myned i mewn at y bobl#19:30 dêmos, y bobl mewn cynulliad rheolaidd, fel yr awdurdod uwchaf., ni adawodd y dysgyblion iddo. 31A rhai hefyd o'r Asiarchiaid#19:31 Y rhai hyn oeddynt ddeg swyddog uchel a ddewisid gan wahanol ddinasoedd talaeth Asia o herwydd eu cyfoeth a'u hurddas, y rhai a lywyddent ar adeg y chwareuon cyhoeddus a'r gwleddoedd crefyddol. Cymerai y rhai hyn le yn Mai er anrhydedd Diana. Yr oedd Paul wedi llwyddo i enill rhai o'r penaethiaid, ac i beidio cynhyrfu gwrthwynebiad chwerw yr offeiriaid. Yr oedd wedi pregethu yn ddi‐dramgwydd. Codi yr Iesu ac nid llefaru yn ddiraddiol am Diana, oedd ei arferiad., y rhai oeddent gyfeillion iddo, gan anfon ato a ddeisyfent arno nad anturiai#19:31 llyth: na roddai ei hun. Yr oedd ganddo gyfeillion yn mhlith yr Asiarchiaid, argyhoeddodd yr Areopagiad yn Athen (17:34), bedyddiodd Arch‐synagogydd yn Corinth (18:8), yr oedd ganddo gyfeillion yn mhalas Cesar (Phil 4:22)., fyned i'r chwareu‐dŷ. 32Rhai gan hyny a waeddent un peth ac eraill beth arall#19:32 llyth: ‘Eraill gan hyny a waeddent beth arall.’ (ystyr Feiblaidd yn unig), addysgu, cyfarwyddo, cymhell yn mlaen. Rhai a haerant na rydd y ffurf hon lawn synwyr yma, ac felly barnant mai proebibasan (D2 H L) yw y darlleniad iawn., canys yr oedd y gynulleidfa wedi ei therfysgu, a'r mwyrif ni wyddent paham y daethent ynghyd. 33Eithr hwy a gymhellasant#19:33 sunebibasan א A B E Brnd. Gosod ynghyd, cymharu, penderfynu, yna (Ystyr Feiblaidd yn unig), addysgu, cymhell yn mlaen. yn mlaen Alexander#19:33 Ni wyddis yn sicr pwy ydoedd. Rhai a farnant ei fod yr un ag Alexander ‘y gof copr’ (1 Tim 1:20; 2 Tim 4:14). Barna rhai ei fod yn Gristion, gan ei fod am wneyd amddiffyniad, ond y mae yn fwy tebygol iddo gael ei gymhell yn mlaen gan yr Iuddewon, er dangos nad oedd a fynent hwy a Phaul a'i ddysgeidiaeth. Casheid hwy yn Ephesus fel yn Philippi a Chorinth (16:20; 18:17). Yr oedd ‘Alexander’ yn enw lled gyffredin. o'r dyrfa, yr Iuddewon yn ei wthio ef yn mlaen. Ac Alexander a amneidiodd#19:33 llyth: a ysgydwodd [i lawr] ei law, yna, gwneyd arwydd neu amnaid i dewi. â'i law, ac a fynasai wneuthur ymddiffyniad#19:33 ar ran pwy, ni ddywedir. wrth y bobl. 34Eithr pan wybuant mai Iuddew oedd#19:34 llyth: yw. efe, daeth un lef oddiwrth bawb, y rhai a waeddasent megys am ddwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid. 35Ac wedi i'r Cofiadur#19:35 Neu, Ysgrifenydd [y Ddinas]. Saif y gair, yn yr Efengylau, am Ysgrifenyddion y Gyfraith. Yr oedd swydd y Grammateus yn ninasoedd Asia yn debyg i eiddo ‘Cofiadur y dref’ (Town‐clerk) yn ein gwlad ni. Efe yn debyg a lywyddai yn y Cynghor, a ofalai am lyfrau y gyfraith, ac a ddeonglai y deddfau. Hefyd, gelwid un o'r tri prif Asiarch wrth yr enw, fel un a gadwai gyfres swyddogol o'r enillwyr yn y campau. lonyddu#19:35 llyth: gosod i lawr, atal. y dyrfa, dywed, O wyr Ephesus, canys pwy un yn mhlith dynion#19:35 llyth: pwy o ddynion. sydd na ŵyr fod Dinas yr Ephesiaid yn geidwad#19:35 Neôkoros [o neos neu naos, cysegr, a koreô, ysgubo, glanhâu; yna, addurno], ceidwad cysegr, teitl o anrhydedd a roddid, yn enwedig yn Asia, ar bersonau neu ddinasoedd. Ceid ef yn fynych ar fathion Ephesus a dinasoedd eraill. Diana#19:35 Neu, Artemis. Gelwid hi yn wastad yn Fawr, fel ‘Alexander Fawr,’ &c.#19:35 duwies H L. gad. א A B D E Brnd. [‘geidwad Cysegr y Dduwies,’ &c]. Fawr a'r ddelw#19:35 Y mae gair fel agalma, ‘delw,’ yn ddealledig., a syrthiodd o'r Nef#19:35 Diopetes, ‘yr hyn a syrthiodd o [oddiwrth] Jupiter,’ (Groeg, Zeus), neu ‘o'r Nefoedd.’ Dynoda dio — ‘yr awyr glir’ (ar yr hon yr oedd Zeus yn frenhin), ac y mae o'r un gwreidd‐air â'r Lladin dies, ‘dydd’; sub dio, ‘dan y nef.’ Hwn yw yr unig fan lle y crybwyllir am ddisgyniad delw Diana o'r Nef. Y mae yr un traddodiad am gerfluniau duwiau eraill, megys eiddo Artemis yn Tauris, y Palladium yn Caer‐droia; Minerva Polias yn Athen, &c. Dywed rhai fod y ddelw hon o ebenwydd, eraill, o gedrwydd, eraill, o ffigyswydd, eraill, o aur, &c.. 36Gan fod y pethau hyn gan hyny yn anwadadwy#19:36 llyth: ‘na ddywedir yn eu herbyn,’ ‘nas gellir eu gwrth‐ddywedyd.’, chwi a ddylech fod yn dawel#19:36 katestalmenous, ‘fod wedi tawelu.’ Golyga y ferf ‘gollwng i lawr,’ ‘gostwng,’ yna ‘cadw i lawr,’ ‘atal nwydau,’ ‘bod yn llonydd,’ &c. o'r dechreu#19:36 huperchein, ‘bod o'r dechreu.’, a pheidio gwneuthur dim yn fyrbwyll. 37Canys dygasoch#19:37 gyda brys ac yn dreisgar. yma y gwyr hyn, y rhai nid ydynt nac yn yspeilwyr temlau#19:37 hierosulos, ‘teml yspeiliwr,’ lleidr pethau sanctaidd neu gysegredig. nac yn gablwyr#19:37 Cyhoeddi Gwirionedd Duw wnelai yr Apostol a'i gyd‐lafurwyr yn benaf. Ni wna cablu adeiladu nac argyhoeddi. Dengys geiriau y Cofiadur mor ddoeth oedd yr Apostol yn ei holl ymwneyd a'r bobl i'r rhai y pregethai. ein#19:37 ein א A B D Brnd.; eich E H L. duwies ni. 38Os oes gan hyny gan Demetrius a'r crefftwyr sydd gydag ef unrhyw fater#19:38 llyth: gair, yna, achwyniad, achos, cyhuddiad, hawl. yn erbyn neb, cynhelir brawd-lysoedd#19:38 agoraioi, ansoddair o agora, yr hwn a ddynoda marchnad‐le ac hefyd llys (16:19; 17:17). Rhai a farnant fod y gair ‘dyddiau’ yn ddealledig: ‘Y mae dyddiau penodol er ystyried a barnu achwyniadau;’ eraill a ddeallant sunodoi, ‘cynulliadau, cyfarfodydd’ llysol. Y mae y Cofiadur yn gwneyd dadganiad cyffredinol. ‘Y mae llysoedd priodol i benderfynu y fath faterion.’ Nid yw yn canlyn eu bod yn cael eu cynal ar y pryd., ac y mae rhaglawiaid#19:38 anthupatoi. Gweler 13:7, 8, 12. Nid oedd ond un proconsul ar y pryd. Elai y rhaglaw (Rhufeinig) o gylch y gwahanol ddinasoedd, fel y barnwr yn ein plith, gan gynal y llysoedd a gweinyddu cyfiawnder. Hyn oedd yr arferiad yn nhalaeth Asia, ‘Asia Proconsularis,’ yr hon oedd dan lywodraeth Senedd Rhufain.: bydded iddynt ddwyn achwyniad yn erbyn eu gilydd. 39Ond os ceisiwch unrhyw beth yn#19:39 peraiterô [‘yn mhellach’] B La. Tr. WH.; peri heterôn, ‘ynghylch pethau eraill, gwahanol’ א A D H L Ti. Al. Diw. mhellach, yn y Gynulleidfa gyfreithlon#19:39 ennomos, cyfreithlon, rheolaidd, arferol. Cynelid cyfarfodydd y ‘gynulleidfa’ yn Athen deirgwaith y mis. y penderfynir hyny. 40Canys hyd yn nod yr ydym mewn perygl o gael ein cyhuddo o derfysg am y dydd heddyw#19:40 Neu, ‘ein galw i gyfrif am derfysg y dydd heddyw.’ Y mae ychydig o ansicrwydd ynghylch y testyn gwreiddiol yn yr adnod hon. Y mae ynddi amrywiol wahanol ddarlleniadau., heb ddim achos o'r dechreu, am yr hwn ni#19:40 ni fyddwn, &c. א A B L Ti. Tr. WH. Diw.; byddwn, &c. D E La. Al. fyddwn alluog i roddi rheswm, sef am yr ymgyrch#19:40 ‘rhediad ynghyd,’ cyfarfod, cynulliad. hwn. 41Ac wedi iddo ddywedyd hyn, gollyngodd ymaith y Gynulleidfa.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Actau 19: CTE
เน้นข้อความ
คัดลอก
เปรียบเทียบ
แบ่งปัน
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.