Salmydd 1

1
SALM I.
8.7.7. Vesper. Olwen.
1Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia
Mewn annuwiol gynghor gau,
Ac ni saif yn ffordd troseddwyr,
Sedd gwatwarwyr mae’n gasau;
2Deddf yr Arglwydd iddo sydd
Yn hyfrydwch nos a dydd.
3Hwn sydd megys pren a blanwyd
# 1:3 SALM I. 3. “ Ar lan afonydd dyfroedd.” Nid afonydd ond ffrydiau yw y cyfieithiad priodol, a golygir tir wedi ei ddyfrhau yn dda.Yn y dwfr redegog dir;
Ffrwyth a ddyry yn ei amser,
Ceidw ei ddalen byth yn ir;
A pheth bynag hwn a wnel,
Llwyddiant ar ei waith a wêl.
4Ond nid felly’r annuwiolion,
Fel yr ûs diflanant hwy;
Baru a’u gwasgar, ac ni flinant
Gynulleidfa’r cyfiawn mwy;
Ffordd y cyfiawn, Duw a’i gŵyr,
Derfydd am y llall yn llwyr.

தற்சமயம் தேர்ந்தெடுக்கப்பட்டது:

Salmydd 1: SC1885

சிறப்புக்கூறு

பகிர்

நகல்

None

உங்கள் எல்லா சாதனங்களிலும் உங்கள் சிறப்பம்சங்கள் சேமிக்கப்பட வேண்டுமா? பதிவு செய்யவும் அல்லது உள்நுழையவும்