Numeri 8

8
1 Y modd y mae goleuo y llusernau. 5 Cysegru y Lefiaid. 23 Oedran a thymor eu gwasanaeth hwynt.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth Aaron, a dywed wrtho, Pan #Exod 25:37; 40:25oleuech y lampau, llewyrched y saith lamp ar gyfer y canhwyllbren. 3Ac felly y gwnaeth Aaron; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau ef, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses. 4#Exod 25:31Dyma waith y canhwyllbren: cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr, ie, hyd ei flodau #Exod 25:18cyfanwaith fydd; #Exod 25:40yn ôl y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth efe y canhwyllbren.
5Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 6Cymer y Lefiaid o fysg meibion Israel, a glanha hwynt. 7Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhau: taenella arnynt #Pen 19:9ddwfr puredigaeth, a gwnânt i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt. 8Yna cymerant fustach ieuanc #Lef 2:1a’i fwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; a bustach ieuanc arall a gymeri di yn aberth dros bechod. 9A phâr i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynulleidfa meibion Israel ynghyd. 10A dwg y Lefiaid gerbron yr Arglwydd; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid. 11#8:11 Heb. A chyhwfaned.Ac offrymed Aaron y Lefiaid gerbron yr Arglwydd, yn #8:11 Heb. offrwm cyhwfan.offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd. 12A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn bech‐aberth a’r llall yn offrwm poeth i’r Arglwydd, i wneuthur cymod dros y Lefiaid. 13A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cherbron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i’r Arglwydd. 14A neilltua’r Lefiaid o blith meibion Israel, a #Pen 3:45bydded y Lefiaid yn eiddof fi. 15Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanha di hwynt, ac offryma hwynt yn offrwm. 16Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel: #Pen 3:12, 45yn lle agorydd pob croth, sef pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, y cymerais hwynt i mi. 17#Exod 13:2, 12, 15; Pen 3:13 Luc 2:23Canys i mi y perthyn pob cyntaf‐anedig ymhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y trewais bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun. 18A chymerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel. 19A #Pen 3:9rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i’w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymod dros feibion Israel; #Edrych 2 Cron 26:16fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr. 20A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynulleidfa meibion Israel, i’r Lefiaid, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt. 21A’r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a’u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron gymod drostynt i’w glanhau hwynt. 22Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, gerbron Aaron a’i feibion; #Pen 4:4megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.
23A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 24Dyma’r hyn a berthyn i’r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod. 25Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy. 26Ond gwasanaethed gyda’i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.

اکنون انتخاب شده:

Numeri 8: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید