Numeri 33

33
1 Dwy daith a deugain yr Israeliaid. 50 Bod yn rhaid dinistrio y Canaaneaid.
1Dyma deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron. 2A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau, wrth orchymyn yr Arglwydd: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan. 3A hwy a #Exod 12:37gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o’r mis cyntaf: trannoeth wedi’r Pasg yr aeth meibion Israel allan #Exod 14:8â llaw uchel yng ngolwg yr Eifftiaid oll. 4(A’r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf‐anedig, #Exod 12:29y rhai a laddasai yr Arglwydd yn eu mysg; #Exod 12:12; 18:11; Esa 19:1a gwnaethai yr Arglwydd farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.) 5#Exod 12:37A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth. 6A #Exod 13:20chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd yng nghwr yr anialwch. 7A #Exod 14:2chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi‐hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal‐seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol. 8A chychwynasant o Pi‐hahiroth, ac a #Exod 14:22; 15:22, 23aethant trwy ganol y môr i’r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara. 9A chychwynasant o Mara, #Exod 15:27a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno. 10A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch. 11A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a #Exod 16:1gwersyllasant yn anialwch Sin. 12Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca. 13A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus. 14A chychwynasant o Alus, a #Exod 17:1gwersyllasant yn Reffidim, lle nid oedd dwfr i’r bobl i’w yfed. 15A #Exod 19:1, 2chychwynasant o Reffidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai. 16A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant #Pen 11:34yn #33:16 Beddau y blys.Cibroth‐hattaafa. 17A #Pen 11:35chychwynasant o Cibroth‐hattaafa, a gwersyllasant yn Haseroth. 18A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn Rithma. 19A chychwynasant o Rithma, a gwersyllasant yn Rimmon‐pares. 20A chychwynasant o Rimmon‐pares, a gwersyllasant yn Libna. 21A chychwynasant o Libna, a gwersyllasant yn Rissa. 22A chychwynasant o Rissa, a gwersyllasant yn Cehelatha. 23A chychwynasant o Cehelatha, a gwersyllasant ym mynydd Saffer. 24A chychwynasant o fynydd Saffer, a gwersyllasant yn Harada. 25A chychwynasant o Harada, a gwersyllasant ym Maceloth. 26A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath. 27A chychwynasant o Tahath, a gwersyllasant yn Tara. 28A chychwynasant o Tara, a gwersyllasant ym Mithca. 29A chychwynasant o Mithca, a gwersyllasant yn Hasmona. 30A chychwynasant o Hasmona, a #Deut 10:6gwersyllasant ym Moseroth. 31A chychwynasant o Moseroth, a gwersyllasant yn Bene‐jaacan. 32A chychwynasant o #Edrych Gen 36:27; Deut 10:6; 1 Cron 1:42Bene‐jaacan, a #Deut 10:7gwersyllasant yn Hor‐hagidgad. 33A chychwynasant o Hor‐hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbatha. 34A chychwynasant o Jotbatha, a gwersyllasant yn Ebrona. 35A chychwynasant o Ebrona, a gwersyllasant yn Esion‐gaber. 36A chychwynasant o Esion‐gaber, a #Pen 20:1gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw Cades. 37A #Pen 20:22chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir Edom. 38Ac #Pen 20:25; Deut 10:6; 32:50Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr Arglwydd; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis. 39Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor. 40A’r #Pen 21:1 &cbrenin Arad, y Canaanead, yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel. 41A #Pen 21:4chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona. 42A chychwynasant o Salmona, a gwersyllasant yn Punon, 43A chychwynasant o Punon, a #Pen 21:10gwersyllasant yn Oboth. 44A #Pen 21:11chychwynasant o Oboth, a gwersyllasant yn #33:44 Neu, Carneddau Abarim.Ije‐abarim, ar derfyn Moab. 45A chychwynasant o Ije‐abarim, a gwersyllasant yn dibon‐gad. 46A chychwynasant o Dibon‐gad, a gwersyllasant yn #Esec 6:14Almon‐diblathaim. 47A chychwynasant o Almon‐diblathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo. 48A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a #Pen 22:1gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho. 49A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth‐jesimoth hyd #33:49 Neu, Abel.#Pen 25:1; Jos 2:1wastadedd Sittim, yn rhosydd Moab.
50A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd, 51Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, #Deut 7:2; Jos 11:12Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan; 52#Exod 23:24, 33; 34:13; Deut 7:2, 5; 12:3Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt. 53A goresgynnwch y tir, a thrigwch ynddo: canys rhoddais y tir i chwi i’w berchenogi. 54#Pen 26:53Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i’r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i’r anaml prinhewch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch. 55Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o’ch blaen; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt #Jos 23:13; Barn 2:3; Edrych Exod 23:33yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo. 56A bydd, megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy, y gwnaf i chwi.

اکنون انتخاب شده:

Numeri 33: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید