Numeri 3
3
1 Meibion Aaron. 5 Rhoddi y Lefiaid i’r offeiriaid, er mwyn gwasanaeth y babell, 11 yn lle y cyntaf‐anedig. 14 Rhifo y Lefiaid wrth eu teuluoedd. 21 Teuluoedd, rhifedi, a swydd y Gersoniaid, 27 y Cohathiaid, 33 y Merariaid. 38 Lle a swydd Moses ac Aaron. 40 Bod y cyntaf‐anedig yn rhydd oddi wrth y Lefiaid. 44 Prynu y rhai oedd dros ben.
1A dyma genedlaethau Aaron a Moses, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai. 2Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y #Exod 6:23cyntaf‐anedig, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar. 3Dyma enwau meibion Aaron, yr offeiriaid eneiniog, y rhai a #3:3 Heb. lanwodd eu llaw.gysegrodd efe i offeiriadu. 4A #Lef 10:1; Pen 26:61; 1 Cron 24:2marw a wnaeth Nadab ac Abihu gerbron yr Arglwydd, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd, yn anialwch Sinai; a meibion nid oedd iddynt: ac offeiriadodd Eleasar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad.
5A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 6Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef. 7A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur #Edrych Pen 1:50gwasanaeth y tabernacl. 8A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a chadwraeth meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl. 9A #Pen 8:19thi a roddi’r Lefiaid i Aaron, ac i’w feibion: y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel. 10Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: #Pen 3:38; Pen 16:40a’r dieithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.
11Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 12Ac wele, #Pen 8:16; 18:6mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro’r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi: 13#Exod 13:2; Lef 27:26; Pen 8:16 Luc 2:23Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig #Exod 13:12, 15Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr Arglwydd.
14Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd 15Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwryw, o fab #3:15 Neu, mis oed.misyriad ac uchod. 16A Moses a’u cyfrifodd hwynt wrth #3:16 Heb. enau.air yr Arglwydd, fel y gorchmynasid iddo. 17#Gen 46:11; Exod 6:16; Pen 26:57; 1 Cron 6:1; 23:6A’r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari. 18A dyma enwau meibion Gerson, yn ôl eu teuluoedd; Libni a Simei. 19A meibion Cohath, yn ôl eu teuluoedd; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel. 20A meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd; Mahli a Musi. Dyma deuluoedd Lefi, wrth dŷ eu tadau. 21O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dyma deuluoedd y Gersoniaid. 22Eu rhifedigion hwynt, dan rif pob gwryw o fab misyriad ac uchod, eu rhifedigion, meddaf, oedd saith mil a phum cant. 23Teuluoedd y Gersoniaid a wersyllant ar y tu ôl i’r tabernacl tua’r gorllewin. 24A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Eliasaff mab Lael. 25A #Pen 4:24chadwraeth meibion Gerson, ym mhabell y cyfarfod, fydd #Exod 25:9y tabernacl, a’r #Exod 26:1babell, #Exod 26:7, 14ei tho hefyd, a #Exod 26:36chaeadlen drws pabell y cyfarfod, 26A #Exod 27:9llenni’r cynteddfa, a #Exod 27:16chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, #Exod 35:18a’i rhaffau i’w holl wasanaeth.
27Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid, a thylwyth yr Ishariaid, a thylwyth yr Hebroniaid, a thylwyth yr Ussieliaid: dyma dylwyth y Cohathiaid. 28Rhifedi yr holl wrywiaid, o fab misyriad ac uchod, oedd wyth mil a chwe chant, yn cadw cadwraeth y cysegr. 29Teuluoedd meibion Cohath a wersyllant ar ystlys y tabernacl tua’r deau. 30A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaffan mab Ussiel. 31A’u #Pen 4:4, 15cadwraeth hwynt fydd #Exod 25:10yr arch, a’r #Exod 25:23bwrdd, a’r #Exod 25:31canhwyllbren, a’r #Exod 27:1; 30:1allorau, a llestri’r cysegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a’r #Exod 26:31gaeadlen, a’i holl wasanaeth. 32A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef.
33O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth Merari. 34A’u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwryw, o fab misyriad ac uchod, oedd chwe mil a deucant. 35A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael. Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tua’r gogledd. 36Ac #Pen 4:31#3:36 Neu, yn swydd cadwraeth.yng nghadwraeth meibion Merari y bydd ystyllod y tabernacl, a’i drosolion, a’i golofnau, a’i forteisiau, a’i holl offer, a’i holl wasanaeth, 37A cholofnau’r cynteddfa o amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau.
38A’r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tua’r dwyrain, o flaen pabell y cyfarfod tua chodiad haul, fydd Moses, ac Aaron a’i feibion, y rhai a gadwant gadwraeth y cysegr, a chadwraeth meibion Israel: a’r #ad. 10dieithr a ddelo yn agos, a roddir i farwolaeth. 39#Edrych Pen 26:62Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, yn ôl gair yr Arglwydd, trwy eu teuluoedd, sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod, oedd ddwy fil ar hugain.
40A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf‐anedig gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymer rifedi eu henwau hwynt. 41A chymer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr Arglwydd,) yn lle holl gyntaf‐anedig meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o anifeiliaid meibion Israel. 42A Moses a rifodd, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo, bob cyntaf‐anedig o feibion Israel. 43A’r rhai cyntaf‐anedig oll, o rai gwryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad ac uchod, o’u rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thrigain.
44A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd, 45Cymer y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr Arglwydd. 46Ac am y rhai sydd i’w prynu o’r tri ar ddeg a thrigain a deucant, o gyntaf‐anedig meibion Israel, y rhai sydd dros ben y Lefiaid; 47Cymer bum sicl am bob pen; yn ôl sicl y cysegr y cymeri. #Exod 30:13; Lef 27:25; Pen 18:16; Esec 45:12Ugain gera fydd y sicl. 48A dod yr arian, gwerth y rhai sydd yn ychwaneg ohonynt, i Aaron ac i’w feibion. 49A chymerodd Moses arian y prynedigaeth, y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid: 50Gan gyntaf‐anedig meibion Israel y cymerodd efe yr arian; pump a thrigain a thri chant a mil, o siclau y cysegr. 51A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i’w feibion, yn ôl gair yr Arglwydd, megis y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses.
اکنون انتخاب شده:
Numeri 3: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society