Numeri 26

26
1 Cymryd cyfrif o holl Israel yn nyffryn Moab. 52 Cyfraith i gyfrannu etifeddiaeth y tir rhyngddynt hwy. 57 Teuluoedd a rhifedi y Lefiaid. 63 Na adawsid un o’r rhai a rifwyd yn Sinai, ond Caleb a Josua.
1A bu, wedi’r pla, lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd, 2#Exod 30:12; 38:25, 26; Pen 1:2Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, o fab ugain mlwydd ac uchod, trwy dŷ eu tadau, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel. 3A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd 4Rhifwch y bobl, o fab ugain mlwydd ac uchod; megis #Pen 1:1y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft.
5 # Gen 46:8; Exod 6:14; 1 Cron 5:3 Reuben, cyntaf‐anedig Israel. Meibion Reuben; o Hanoch, tylwyth yr Hanochiaid: o Phalu, tylwyth y Phaluiaid: 6O Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Carmi, tylwyth y Carmiaid. 7Dyma dylwyth y Reubeniaid: a’u rhifedigion oedd dair mil a deugain a saith cant a deg ar hugain. 8A meibion Phalu oedd Elïab. 9A meibion Elïab; Nemuel, a Dathan, ac Abiram. #Pen 16:2Dyma y Dathan ac Abiram, rhai enwog yn y gynulleidfa, y rhai a ymgynenasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron yng nghynulleidfa Cora, pan ymgynenasant yn erbyn yr Arglwydd. 10Ac agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyncodd hwynt, a Cora hefyd, pan fu farw y gynulleidfa, pan ddifaodd y tân ddengwr a deugain a dau cant: a #Edrych 2 Pedr 2:6hwy a aethant yn arwydd. 11Ond meibion Cora ni buant feirw.
12Meibion Simeon, wrth eu tylwythau. O #Gen 46:10 JemuelNemuel, tylwyth y Nemueliaid: o Jamin, tylwyth y Jaminiaid: o #1 Cron 4:24 JaribJachin, tylwyth y Jachiniaid: 13O #Gen 46:10 SoharSera, tylwyth y Serahiaid: o Saul, tylwyth y Sauliaid. 14Dyma dylwyth y Simeoniaid; dwy fil ar hugain a dau cant.
15Meibion Gad, wrth eu tylwythau. O #Gen 46:16 SiphionSeffon, tylwyth y Seffoniaid: o Haggi, tylwyth yr Haggiaid: o Suni, tylwyth y Suniaid: 16O #26:16 Neu, Esbon.Osni, tylwyth yr Osniaid: o Eri, tylwyth yr Eriaid: 17O #Gen 46:16 ArodiArod, tylwyth yr Arodiaid: o Areli, tylwyth yr Areliaid. 18Dyma deuluoedd meibion Gad, dan eu rhif; deugain mil a phum cant.
19 # Gen 38:2 &c; 46:12 Meibion Jwda oedd, Er ac Onan: a bu farw Er ac Onan yn nhir Canaan. 20A #1 Cron 2:3meibion Jwda, wrth eu teuluoedd. O Sela, tylwyth y Selaniaid: o Phares, tylwyth y Pheresiaid: o Sera, tylwyth y Serahiaid. 21A meibion Phares oedd; o Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr Hamuliaid. 22Dyma dylwyth Jwda, dan eu rhif; onid pedair mil pedwar ugain mil a phum cant.
23 # Gen 46:13; 1 Cron 7:1 Meibion Issachar, wrth eu tylwythau oedd; o Tola, tylwyth y Tolaiaid: o #26:23 Neu, Phufa.Pua, tylwyth y Puhiaid: 24O #26:24 Neu, Job.Jasub, tylwyth y Jasubiaid: o Simron, tylwyth y Simroniaid. 25Dyma deuluoedd Issachar, dan eu rhif; pedair mil a thrigain mil a thri chant.
26 # Gen 46:14 Meibion Sabulon, wrth eu teuluoedd, oedd; o Sered, tylwyth y Sardiaid: o Elon, tylwyth yr Eloniaid: o Jahleel, tylwyth y Jahleeliaid. 27Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, dan eu rhif; trigain mil a phum cant.
28 # Gen 46:20 Meibion Joseff, wrth eu teuluoedd, oedd; Manasse ac Effraim. 29Meibion Manasse oedd; o #Jos 17:1Machir, tylwyth y Machiriaid: a Machir a genhedlodd Gilead: o Gilead y mae tylwyth y Gileadiaid. 30Dyma feibion Gilead. O #26:30 A elwir Abieser Jos 17:2; Barn 6:11, 24, 34Jeeser, tylwyth Jeeseriaid: o Helec, tylwyth yr Heleciaid: 31Ac o Asriel, tylwyth yr Asrieliaid: ac o Sechem, tylwyth y Sechemiaid: 32Ac o Semida, tylwyth y Semidiaid: ac o Heffer, tylwyth yr Hefferiaid.
33A #Pen 27:1; 36:11Salffaad mab Heffer nid oedd iddo feibion, ond merched: ac enwau merched Salffaad oedd, Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Tirsa. 34Dyma dylwyth Manasse: a’u rhifedigion oedd ddeuddeng mil a deugain a saith cant.
35Dyma feibion Effraim, wrth eu teuluoedd. O Suthela, tylwyth y Sutheliaid; o #1 Cron 7:20 BeredBecher, tylwyth y Becheriaid: o Tahan, tylwyth y Tahaniaid. 36A dyma feibion Suthela: o Eran, tylwyth yr Eraniaid. 37Dyma dylwyth meibion Effraim, trwy eu rhifedigion; deuddeng mil ar hugain a phum cant. Dyma feibion Joseff, wrth eu teuluoedd.
38 # 1 Cron 7:6 Meibion Benjamin, wrth eu teuluoedd oedd; o Bela, tylwyth y Belaiaid: o Asbel, tylwyth yr Asbeliaid: o #Gen 46:21 Ehi 1 Cron 8:1 AharahAhiram, tylwyth yr Ahiramiaid: 39O #Gen 46:21 Muppim a HuppimSeffuffam, tylwyth y Seffuffamiaid: o Huffam, tylwyth yr Huffamiaid. 40A meibion Bela oedd, #1 Cron 8:3 AdarArd a Naaman: o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid: o Naaman, tylwyth y Naamaniaid. 41Dyma feibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant.
42 # Gen 46:23 Dyma feibion Dan, yn ôl eu teuluoedd. O #26:42 Neu, Husim.Suham, tylwyth y Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan, yn ôl eu teuluoedd. 43A holl dylwyth y Suhamiaid oedd, yn ôl eu rhifedigion, bedair mil a thrigain a phedwar cant.
44 # Gen 46:17; 1 Cron 7:30 Meibion Aser, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jimna, tylwyth y Jimniaid: o Jesui, tylwyth y Jesuiaid: o Bereia tylwyth y Bereiaid. 45O feibion Bereia, yr oedd; o Heber, tylwyth yr Heberiaid: o Malciel, tylwyth y Malcieliaid. 46Ac enw merch Aser ydoedd Sara. 47Dyma deuluoedd meibion Aser, yn ôl eu rhifedigion; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
48 # Gen 46:24; 1 Cron 7:13 Meibion Nafftali, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jahseel, tylwyth y Jahseeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid: 49O Jeser, tylwyth y Jeseriaid: o #1 Cron 7:13 SalumSilem, tylwyth y Silemiaid. 50Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a phedwar cant. 51#Edrych Pen 1:46Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith gant a deg ar hugain.
52A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 53I’r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau. 54#Pen 33:54I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth, ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion. 55Eto #Pen 33:54; Jos 11:23; 14:2wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant 56Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.
57 # Gen 46:11; Exod 6:16, 17, 18, 19; 1 Cron 6:1, 16 A dyma rifedigion y Lefiaid, wrth eu teuluoedd. O Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid. 58Dyma dylwythau y Lefiaid. Tylwyth y Libniaid, tylwyth yr Hebroniaid, tylwyth y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corathiaid: Cohath hefyd a genhedlodd Amram. 59Ac enw gwraig Amram oedd #Exod 2:1, 2; 6:20Jochebed, merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn yr Aifft: a hi a ddug i Amram, Aaron a Moses, a Miriam eu chwaer hwynt. 60A ganed i Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar. 61A bu farw #Lef 10:2; Pen 3:4; 1 Cron 24:2Nadab ac Abihu, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd. 62#Edrych Pen 3:39A’u rhifedigion oedd dair mil ar hugain; sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod: canys ni chyfrifwyd hwynt ymysg meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ymhlith meibion Israel.
63Dyma rifedigion Moses ac Eleasar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho. 64#Pen 1; Deut 2:14, 15Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad, pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai. 65Canys dywedasai yr Arglwydd amdanynt, #Pen 14:28, 29; 1 Cor 10:5, 6Gan farw y byddant feirw yn yr anialwch. Ac ni adawsid ohonynt un, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.

اکنون انتخاب شده:

Numeri 26: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید