Numeri 21
21
1 Israel trwy beth colled yn difetha y Canaaneaid yn Horma. 4 Y bobl yn tuchan, ac yn cael eu brathu gan seirff tanllyd; 7 ac ar eu hedifeirwch yn cael eu hiacháu gan y sarff bres. 10 Amryw deithiau yr Israeliaid. 21 Gorchfygu Sehon, 33 ac Og.
1A’r #Pen 33:40; Edrych Barn 1:16brenin Arad, y Canaanead, preswylydd y deau, a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai ohonynt yn garcharorion. 2Ac addunodd Israel adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt. 3A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a’u difrododd hwynt, a’u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw #21:3 Hynny yw, Difrod.Horma.
4A #Pen 33:41hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, oherwydd y ffordd. 5A llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o’r Aifft, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; #Pen 11:6a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn. 6#1 Cor 10:9A’r Arglwydd a anfonodd ymysg y bobl #Deut 8:15seirff tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.
7A daeth y bobl at Moses, a dywedasant Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd, ac yn dy erbyn dithau: #Exod 8:8, 28; 1 Bren 13:6; Act 8:24gweddïa ar yr Arglwydd, ar yrru ohono ef y seirff oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl. 8A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Gwna i ti sarff danllyd, a gosod ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw. 9A #2 Bren 18:4; Ioan 3:14gwnaeth Moses sarff bres, ac a’i gosododd ar drostan: yna os brathai sarff ŵr, ac edrych ohono ef ar y sarff bres, byw fyddai.
10A meibion Israel a gychwynasant oddi yno, ac #Pen 33:43a wersyllasant yn Oboth. 11A hwy a aethant o Oboth, ac #Pen 33:44a wersyllasant #21:11 Heb. yn Ije‐Abarim.yng ngharneddau Abarim, yn yr anialwch, yr hwn oedd ar gyfer Moab, tua chodiad haul.
12 #
Deut 2:13
Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth afon Sared. 13Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth ryd Arnon, yr hon sydd yn yr anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys #Barn 11:18Arnon oedd derfyn Moab, rhwng Moab a’r Amoriaid. 14Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr Arglwydd, #21:14 Neu, Faheb yn Suffa.Y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon, 15Ac wrth raeadr yr afonydd, yr hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a #21:15 orwedd ar.bwysa at derfyn Moab. 16Ac oddi yno yr aethant i Beer: honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr.
17Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon; #21:17 Neu, atebwch.cenwch iddi. 18Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd penaethiaid y bobl, ynghyd â’r deddfwr, â’u ffyn. Ac o’r anialwch yr aethant i Mattana: 19Ac o Mattana i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth: 20Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd #21:20 Heb. ym maes.yng ngwlad Moab, i ben #21:20 Pisga.y bryn sydd yn edrych #21:20 Jesimon.tua’r diffeithwch.
21Yna #Deut 2:26, 27; Barn 11:19yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, gan ddywedyd, 22#Pen 20:17Gad i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr un ffynnon: ar hyd ffordd y brenin y cerddwn, hyd onid elom allan o’th derfynau di. 23#Deut 29:7Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel. 24Ac #Deut 2:33; 29:7; Jos 12:2; 24:8; Neh 9:22; Salm 135:10, 11; 136:19; Amos 2:9Israel a’i trawodd ef â min y cleddyf; ac a oresgynnodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon. 25A chymerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny: a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl #21:25 Heb. ferched.bentrefydd. 26Canys dinas Sehon, brenin yr Amoriaid, ydoedd Hesbon, ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenin Moab, yr hwn a fuasai o’r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno, hyd Arnon. 27Am hynny y dywed y diarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhaer dinas Sehon. 28Canys #Jer 48:45tân a aeth allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ym Moab, a pherchenogion #21:28 Uchelfeydd Arnon.Bamoth Arnon. 29Gwae di, Moab; darfu amdanat, bobl #1 Bren 11:7, 33; 2 Bren 23:13Cemos: rhoddodd ei feibion dihangol, a’i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid. 30Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Noffa, yr hon sydd hyd Medeba.
31A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid. 32A Moses a anfonodd i chwilio Jaser: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.
33 #
Deut 3:1; 29:7 Troesant hefyd ac aethant i fyny hyd ffordd Basan: ac Og brenin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a’i holl bobl. 34A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a’i holl bobl, a’i dir; #Salm 135:10, 11; 136:20a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon. 35Am hynny y trawsant ef, a’i feibion, a’i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchenogasant ei dir ef.
اکنون انتخاب شده:
Numeri 21: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society