Numeri 14
14
1 Y bobl yn tuchan o ran y newyddion. 6 Josua a Chaleb yn ceisio eu llonyddu hwynt. 11 Duw yn eu bygwth. 13 Moses yn ymbil â Duw: ac yn cael iddynt hwy faddeuant. 26 Y tuchanwyr heb gael myned i’r wlad. 36 Y gwŷr a roesant anghlod i’r tir yn marw o’r pla. 40 Y bobl a fynnai osod ar y wlad yn erbyn ewyllys Duw, yn cael eu taro.
1Yna yr holl gynulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a’r bobl a wylasant y nos honno. 2A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aifft! neu, #Edrych Pen 14:28, 29O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn! 3A phaham y mae yr Arglwydd yn ein dwyn ni i’r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a’n plant fyddant yn ysbail. Onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aifft? 4A dywedasant bawb wrth ei gilydd, Gosodwn ben arnom, a #Edrych Deut 17:16dychwelwn i’r Aifft. 5#Pen 16:4Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa meibion Israel.
6Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, dau o ysbïwyr y tir, a rwygasant eu dillad; 7Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, sydd dir da odiaeth. 8Os yr Arglwydd sydd fodlon i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i ni; sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl. 9Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac #Deut 20:3nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu #14:9 Heb. cysgod.hamddiffyn oddi wrthynt, a’r Arglwydd sydd gyda ni: nac ofnwch hwynt. 10A’r holl dorf a ddywedasant am eu llabyddio hwynt â meini. A #Exod 24:16, 17; 40:34; Lef 9:23; Pen 16:19, 42; 20:6gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.
11A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pa hyd y digia’r bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith? 12Trawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a #Exod 32:10gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt‐hwy.
13 #
Exod 32:12; Deut 32:27 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Felly yr Eifftiaid a glyw, (canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fyny yn dy nerth,) 14Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (#Exod 15:14; Jos 2:9; 5:1canys clywsant dy fod di, Arglwydd, ymysg y bobl yma, a’th fod di, Arglwydd, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod #Exod 13:21; 40:38dy gwmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;) 15Os lleddi y bobl yma fel un gŵr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn amdanat, gan ddywedyd, 16#Deut 9:28O eisiau gallu o’r Arglwydd ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch. 17Yr awr hon, gan hynny, mawrhaer, atolwg, nerth yr Arglwydd, fel y lleferaist, gan ddywedyd, 18#Exod 34:6; Salm 103:8; 145:8; Jona 4:2Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddau anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog; #Exod 20:5; 34:7ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth. 19Maddau, atolwg, anwiredd y bobl yma, yn ôl dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aifft hyd #14:19 yr awr hon.yma. 20A dywedodd yr Arglwydd, Maddeuais, yn ôl dy air: 21Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd. 22#Deut 1:35; Salm 95:11; 106:26; Heb 3:17Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aifft, ac yn y diffeithwch ac a’m temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais, 23#14:23 Heb. Os gwelant. Pen 32:11Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a’m digiasant, nis gwelant ef: 24Ond fy ngwas #Jos 14:8, 9, 14Caleb, am fod ysbryd arall gydag ef, ac #Pen 32:12iddo fy nghyflawn ddilyn, dygaf ef i’r tir y daeth iddo: a’i had a’i hetifedda ef. 25(Ond y mae’r Amaleciaid a’r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) yfory trowch, ac ewch i’r diffeithwch, ar hyd ffordd y môr coch.
26A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, 27Pa hyd y cyd‐ddygaf â’r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn. 28Dywed wrthynt, #Pen 26:65; 32:11|NUM 32:11; Deut 1:35; Heb 3:17 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, #Edrych ad. 2fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi. 29Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau: a’ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn, 30Diau ni ddeuwch chwi i’r tir am yr hwn y #14:30 tyngais.codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun. 31Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail, hwynt‐hwy a ddygaf i’r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi. 32A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn. 33A’ch plant chwi a #14:33 grwydra, neu, ymbortha.fugeilia yn y diffeithwch #Edrych Deut 2:14ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosb eich puteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch. 34#Pen 13:25Yn ôl rhifedi’r dyddiau y chwiliasoch y tir, sef #Salm 95:10; Esec 4:6deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich anwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod #14:34 Neu, newidiad fy amcan.toriad fy ngair i. 35Myfi yr Arglwydd a leferais, diau y gwnaf hyn i’r holl gynulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y diffeithwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw. 36A’r dynion a anfonodd Moses i chwilio’r tir, y rhai a ddychwelsant, ac a wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir; 37Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tir, #1 Cor 10:10; Heb 3:17; Jwdas 5a fuant feirw o’r pla, gerbron yr Arglwydd. 38Ond Josua mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, a fuant fyw o’r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir. 39A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a’r bobl a alarodd yn ddirfawr.
40A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, Wele #Deut 1:41ni, a ni a awn i fyny i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd: canys ni a bechasom. 41A dywedodd Moses, Paham yr ydych fel hyn yn troseddu #ad. 25gair yr Arglwydd? a hyn ni lwydda. 42Nac ewch i fyny; canys nid yw yr Arglwydd yn eich plith: rhag eich taro o flaen eich gelynion. 43Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid ydynt yno o’ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyda chwi. 44Eto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond arch cyfamod yr Arglwydd, a Moses, ni symudasant o ganol y gwersyll. 45Yna y disgynnodd yr Amaleciaid a’r Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw, ac a’u trawsant, ac #Deut 1:44a’u difethasant hyd #Edrych Pen 21:3; Barn 1:17Horma.
اکنون انتخاب شده:
Numeri 14: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society