Numeri 11

11
1 Y llosgiad yn Tabera yn diffoddi trwy weddi Moses. 4 Y bobl yn blysio cig, ac yn alaru ar y manna. 10 Moses yn cwyno o ran ei siars. 16 Duw yn rhannu ei faich ef rhwng deg a thrigain o henuriaid. 31 Duw yn rhoddi soflieir yn ei ddicllonedd yn Cibroth‐Hattaafa.
1 # Deut 9:22 A’r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin yng nghlustiau yr Arglwydd: a chlywodd yr Arglwydd hyn; a’i ddig a enynnodd; a thân yr Arglwydd a gyneuodd #Salm 78:21yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwr y gwersyll. 2A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr Arglwydd; a’r tân a #11:2 Heb. suddodd.ddiffoddodd. 3Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, #11:3 Sef, Llosgiad.Tabera: am gynnau o dân yr Arglwydd yn eu mysg hwy.
4A’r #Fel Exod 12:38lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant #11:4 Heb. flys.yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelsant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, #Salm 78:18; 106:14; 1 Cor 10:6Pwy a rydd i ni gig i’w fwyta? 5#Exod 16:3Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad, y cucumerau, a’r pompionau, a’r cennin, a’r winwyn, a’r garlleg: 6Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg. 7#Exod 16:14, 31A’r manna hwnnw oedd fel had coriander, a’i #11:7 Heb. lygad fel llygad.liw fel lliw #Gen 2:12bdeliwm. 8Y bobl a aethant o amgylch, ac a’i casglasant ac a’i malasant mewn melinau, neu a’i curasant mewn morter, ac a’i berwasant mewn peiriau, ac a’i gwnaethant yn deisennau: a’i flas ydoedd fel blas olew ir. 9A phan ddisgynnai’r gwlith y nos ar y gwersyll, disgynnai’r manna arno ef.
10A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac enynnodd #Salm 78:21dig yr Arglwydd yn fawr; a drwg oedd gan Moses. 11Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf? 12Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a’u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau? 13O ba le y byddai gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i’w fwyta. 14#Exod 18:18Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi. 15Ac os felly y gwnei i mi, atolwg, #Edrych 1 Bren 19:4; Jona 4:3gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.
16A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl i mi #Edrych Exod 24:9ddengwr a thrigain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyda thi. 17Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a #Neh 9:20mi a gymeraf o’r ysbryd sydd arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyda thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig. 18Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwytewch. 19Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod; 20Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau, a’i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu’r Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd #Pen 21:5Paham y daethom allan o’r Aifft? 21A dywedodd Moses, #Exod 12:37; 38:26; Pen 1:46Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau. 22#Edrych Ioan 6:7Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt? 23A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, #Esa 50:2; 59:1A gwtogwyd llaw yr Arglwydd? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.
24A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl, ac a’u gosododd hwynt o amgylch y babell. 25Yna y disgynnodd yr Arglwydd mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o’r ysbryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg hynafgwr a thrigain. A #Edrych 2 Bren 2:15thra y gorffwysai’r ysbryd arnynt, #Edrych 1 Sam 10:5, 10y proffwydent, #11:25 ac ni pheidient.ac ychwaneg ni wnaent. 26A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o’r rhai a ysgrifenasid; #Edrych 1 Sam 20:26; Jer 36:5ond nid aethant i’r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll. 27A rhedodd llanc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll. 28A Josua mab Nun, gweinidog Moses o’i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd, #Edrych Luc 9:49; Ioan 3:26Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt. 29A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? #1 Cor 14:5O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn broffwydi, a rhoddi o’r Arglwydd ei ysbryd arnynt! 30A Moses a aeth i’r gwersyll, efe a henuriaid Israel.
31Ac fe aeth #Exod 16:13; Salm 78:26; 105:40gwynt oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a’u taenodd wrth y gwersyll, megis #11:31 Heb. ffordd.taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear. 32Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a’r nos oll, a’r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll. 33A’r #Salm 78:30, 31cig oedd eto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn y bobl; a’r Arglwydd a drawodd y bobl â phla mawr iawn. 34Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw #11:34 Sef, Beddau y blys.Cibroth‐hattaafa; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent. 35#Pen 33:17O Feddau y blys yr aeth y bobl i Haseroth; ac #11:35 Heb. yr oeddynt.arosasant yn Haseroth.

اکنون انتخاب شده:

Numeri 11: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید